News Centre

Mae apêl y Nadolig yn codi dros £10,500 ar gyfer banciau bwyd

Postiwyd ar : 21 Rhag 2021

Mae apêl y Nadolig yn codi dros £10,500 ar gyfer banciau bwyd
Donators & volunteers at Upper Rhymney Valley Foodbank

Mae apêl flynyddol wedi’i chydlynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi codi dros £10,500 i gefnogi banciau bwyd lleol.
 
Ar gyfer apêl y Nadolig, rhoddodd trigolion, staff y Cyngor, cynghorwyr, contractwyr a chyflenwyr roddion ar-lein, yn unol â'r elfen budd cymunedol fel rhan o'u contract. Bydd rhoddion yn cael eu rhannu rhwng banciau bwyd yng Nghoed Duon, Bargod, Rhymni, Caerffili a Rhisga.
 
Ymhlith y cwmnïau a gefnogodd yr apêl mae Willmott Dixon, Busy Feet, Acorn Travel, KB Taxis, DNA Heating Ltd, Decoglass Glazin, Styles Electrical Ltd, WEEKES, Willis Construction Ltd, Workforce Wellbeing, A L Landscapes, Alpha biolaboratories Legal Ltd, Gary Carpenter Building Contractor, Laver Group, Mel Evans, Starlight Electrical Services, Walters UK, Getech, Heatforce (Wales) Ltd, Brighter Minds Childcare Provision, A P Waters, Amberon Ltd, Centerprise, Hedlyn Building Contractors, Joyner PA Cymru Ltd, MSH Building Ltd, Atlantic Building Services Ltd, Calibre Contracting, Cardiff Lift Company, J S Lee Ltd, Jefferies Contractors Ltd, Woosnam Dairies, CAE UK, Encon Construction Ltd, Lightning Solutions Electrical Services, Bryn Group, Pinnacle Access Services Ltd, AG James & Son, M & S Catering, SD James Construction Ltd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Colin Gordon, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Corfforaethol, “Hoffwn i ddiolch i bawb am eu rhoddion hael a thimau’r Cyngor sydd wedi gweithio y tu ôl i’r llenni i gydlynu’r apêl eleni.
 
Bydd y rhoddion hyn o fudd enfawr i’n banciau bwyd lleol wrth eu galluogi i brynu’r cyflenwadau sydd eu hangen yn daer i gefnogi rhai o’n trigolion mwyaf agored i niwed yn ystod yr hyn sy’n parhau i fod yn amser mor heriol.”
 
I gael gwybodaeth am eich banc bwyd lleol, ffoniwch dîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor ar 01443 811490, e-bostiwch GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ewch i www.trusselltrust.org
 


Ymholiadau'r Cyfryngau