News Centre

Dewis Lleoly Nadolig Hwn

Postiwyd ar : 09 Rhag 2021

Dewis Lleoly Nadolig Hwn
Wrth i fis Rhagfyr fynd yn ei flaen, efallai eich bod chi'n dal i chwilio am yr anrheg Nadolig berffaith. Yn ffodus, mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili ddewis eang o siopau unigryw ac annibynnol ynghyd â dewis gwych o weithgareddau, atyniadau a bwytai o'r safon uchaf sy'n cynnig yr opsiwn i chi gael talebau rhodd, gan ddarparu popeth sydd ei angen arnoch chi i gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn.
 
 
• Mae Tŷ Coppi Adventures yn cynnig talebau rhodd ar gyfer eu holl weithgareddau: dringo creigiau, teithio trwy geunentydd, cerdded ceunentydd, teithiau e-feicio, mynd ag alpacas am dro, a beicio mynydd. Prynwch brofiad, neu daleb ariannol i dalu tuag at brynu un o'r profiadau.

• Mae talebau rhodd ar gael gan Outdoor Explore Wales sy'n gwneud anrhegion Nadolig gwych. Ewch i https://outdoorexplore.wales/gift-vouchers/

• Ewch i'r siop anrhegion ym Maenordy Llancaiach Fawr a chael syniadau gwych ar gyfer anrhegion Cymreig ac addurnau unigryw.

• Mae gan siop anrhegion Coedwig Cwmcarn ddewis hyfryd o eitemau crefft hardd a phethau llenwi hosan ar gyfer y teulu i gyd.

• Mae gan Bryn Meadows Golf, Hotel & Spa dalebau rhodd Nadolig ar gyfer amrywiaeth eang o bethau – gan gynnwys te prynhawn, aros dros nos, diwrnod yn y sba, sesiynau golff a llawer mwy! Mae'r cyfan ar gael yn www.brynmeadows.co.uk/gifts/

• Beth am brynu tocynnau ar gyfer sioe? Mae'n anrheg wych ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato yn y flwyddyn newydd! Mae digwyddiadau ar y gweill yn 2022 yn: Neuadd y Gweithwyr, Bedwas; Sefydliad y Glowyr, Coed Duon; a Neuadd y Gweithwyr, Caerffili.

• Mae Welsh Gifts with Heart yn gwerthu amrywiaeth eang o anrhegion a chofroddion Cymreig arbennig, gan gynnwys llwyau caru, anrhegion llechi, gemwaith a theganau.

• Mae'r diodydd gorau – gan gynnwys seidr, cwrw a jin – i lenwi hosan ar gael gan Williams Brothers Cider, Hallets Cider, Brew Monster Brewing Company, Well Drawn Brewing ac Old Brenin Distillery!

• Mae Cymraeg Crystal yn crefftio eu holl gynhyrchion â llaw ac yn eu dylunio nhw'n fewnol. Maen nhw'n cynnig gwasanaeth ysgythru pwrpasol yn achos eu holl gynhyrchion, fel creu negeseuon penodol.

• Mae VR Experience Wales, Abercarn, yn cynnig amrywiaeth o gemau cyffrous, gan gynnwys rhai cynhyrfus a gemau dianc, gydag enwau fel Laser Tag a Hero Zone. Mae'r profiadau hyn yn dalebau rhodd gwych ar gyfer siopa Nadolig rhwydd a fydd yn plesio pobl o bob oed.

I gael rhestr lawn o leoliadau, digwyddiadau a gweithgareddau yn yr ardal, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy #DewisLleol #ChooseLocal #DewisLleolyNadoligHwn #ChooseLocalThisChristmas #CroesoCaerffili #VisitCaerphilly
 


Ymholiadau'r Cyfryngau