News Centre

Gofalu am Gaerffili y Nadolig hwn

Postiwyd ar : 20 Rhag 2021

Gofalu am Gaerffili y Nadolig hwn
Beth yw ‘Gofalu am Gaerffili’ a beth yw ei hanes?

Bydd tîm ‘Gofalu am Gaerffili’, tîm o staff sefydledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynnig gwasanaeth brysbennu newydd wedi’i drefnu’n ganolog er mwyn ymateb i drigolion y Fwrdeistref Sirol hynny sydd angen cymorth gyda materion fel tlodi bwyd, ôl-ddyledion dyled neu rent, unigedd neu unigrwydd.

Oherwydd y pandemig COVID-19, fe wnaeth trigolion ofyn i’r Cyngor am gymorth, yn aml am y tro cyntaf. Daeth yn amlwg bod angen ar yr unigolion hyn ymyriadau lluosog a chymorth gan nifer o wahanol adrannau’r Cyngor.

Nod ‘Gofalu am Gaerffili’ yw cynnig un pwynt cyswllt i’r unigolyn gyda’r tîm a fydd yn cynorthwyo’r unigolyn hwnnw i fynd at wraidd ei fater, sy’n golygu mai dim ond unwaith y bydd angen iddo egluro ei sefyllfa.

Yna bydd y tîm yn cysylltu â’r gwasanaethau presennol, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a gyda phartneriaid, gan gynnwys y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol, gan gefnogi’r unigolyn hwnnw ar ei daith gyda’r gwasanaethau amrywiol hynny, o’r dechrau i’r diwedd.

Mae’n ymwneud â deall yr amrywiaeth o anghenion y gall unigolyn ei hwynebu a chanolbwyntio ar ymyrraeth gynnar i helpu’r unigolyn hwnnw i gael yr help sydd ei angen arno mewn ffordd gyfannol, sensitif.

Yn sicr, nid yw Gofalu am Gaerffili yn disodli unrhyw wasanaeth y Cyngor sy’n bodoli eisoes; yn hytrach, mae’n cynnig yr haen ychwanegol honno o gymorth i unigolyn, gan adeiladu perthynas ddibynadwy â’r unigolyn hwnnw a’i helpu ar ei daith i ddod yn fwy gwydn ac annibynnol yn y tymor hwy.

Mae hefyd yn anelu at leihau’r angen am ymyrraeth statudol.
 
Pa fathau o gymorth y gall Gofalu am Gaerffili eu cynnig?


Mae hwn yn fodel tymor hir ar gyfer cynnig cymorth cyfannol i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, ond bydd ffocws cychwynnol tîm Gofalu am Gaerffili ar helpu’r trigolion gyda’r meysydd canlynol:
 • Cymorth ariannol - cymorth gyda dyled, budd-daliadau a sicrhau’r incwm mwyaf posibl.
• Mynd i’r afael â thlodi bwyd.
 • Helpu unigolion i gael mynediad at raglenni cymorth cyflogaeth.
• Mynd i’r afael ag unigedd ac unigrwydd.
• Cymorth ymarferol ar gyfer unigolion sydd angen help sy’n gysylltiedig â COVID-19 (fel y rhai sy’n cael cymorth gan y Cynllun Cyfeillio).
• Ymyrraeth gynnar - er enghraifft cymorth iechyd meddwl a phresgripsiynu cymdeithasol.
• Adeiladu ar bartneriaethau gyda grwpiau cymunedol
 
Yr hyn NAD yw Gofalu am Gaerffili?

Er bod cylch gwaith y cymorth y gall tîm Gofalu am Gaerffili ei ddarparu yn eang, mae yna nifer o bethau nad yw Gofalu am Gaerffili. Nid yw yn:
• Canolfan alwadau neu switsfwrdd - mae angen i unrhyw atgyfeiriadau a wneir at y tîm fod yn benodol iawn i gylch gorchwyl Gofalu am Gaerffili fel yr eglurir yn y ddogfen hon.
• ‘Ymbarél’ ar gyfer ceisiadau am wasanaethau’r Cyngor.
• Gwasanaeth amnewid ar gyfer gwasanaethau eraill.

Mae tîm Gofalu am Gaerffili yn dîm ymroddedig a brwdfrydig ond bach iawn, ac mae angen iddynt flaenoriaethu cymryd atgyfeiriadau sy’n benodol i gylch gwaith yr hyn y gall Gofalu am Gaerffili ei gynnig.
 
Beth arall y mae Gofalu am Gaerffili yn anelu at ei wneud?

Mae model Gofalu am Gaerffili yn cael ei danategu gan yr egwyddorion yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bydd y tîm hefyd yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol, gan adeiladu ar lwyddiant yr Ymateb Cymunedol COVID-19 a amlygodd gryn dipyn o ysbryd cymunedol.

Bydd y dull cymunedol hwn yn gobeithio:
• Adeiladu ar lwyddiant yr Ymateb Cymunedol COVID-19.
• Y Cyngor, y sector gwirfoddol a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth.
• Defnyddio asedau mewn cymunedau - gwneud y defnydd gorau o’r sgiliau, yr wybodaeth a’r rhwydweithiau cymdeithasol sydd ar gael mewn cymunedau, ynghyd â chymorth cymheiriaid i gefnogi eraill.
• Cysylltu â grwpiau a gweithgareddau cymunedol.
• Cyfle i harneisio a defnyddio’r gwytnwch cymunedol a ddangoswyd mewn ardaloedd ledled yr ardal.
 
Sut alla i atgyfeirio fy hun at Gofalu am Gaerffili am gymorth?
Fel yr amlygwyd uchod, y ffocws cychwynnol ar gyfer Gofalu am Gaerffili yw cefnogi unigolion gyda:
• Cymorth ariannol - cymorth gyda dyled, budd-daliadau a sicrhau’r incwm mwyaf posibl.
• Mynd i’r afael â thlodi bwyd.
• Helpu unigolion i gael mynediad at raglenni cymorth cyflogaeth.
• Mynd i’r afael ag unigedd ac unigrwydd.
• Cymorth ymarferol ar gyfer unigolion sydd angen help sy’n gysylltiedig â COVID-19 (fel y rhai sy’n cael cymorth gan y Cynllun Cyfeillio).
• Ymyrraeth gynnar - er enghraifft cymorth iechyd meddwl a phresgripsiynu cymdeithasol.

Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac yn profi problemau gydag un neu fwy o’r rhain - hoffai tîm Gofalu am Gaerffili glywed oddi wrthych.

Ffôn: 01443 811490 E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk Mae tîm Gofalu am Gaerffili ar gael Llun-Iau, 8:30am-5pm a Gwener, 8:30am-4:30pm.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol neu geisiadau am wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, parhewch i ddefnyddio prif rif y switsfwrdd.


Ymholiadau'r Cyfryngau