News Centre

Cabinet yn pleidleisio o blaid hyrwyddo bioamrywiaeth gyda threfnau torri gwair newydd

Postiwyd ar : 10 Rhag 2021

Cabinet yn pleidleisio o blaid hyrwyddo bioamrywiaeth gyda threfnau torri gwair newydd
Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo diwygiadau i'r trefnau torri gwair ledled y fwrdeistref sirol i wella a hyrwyddo bioamrywiaeth.
 
Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 26 Hydref i ofyn am eu barn cyn ei gyflwyno yn y Cabinet ar y 8 o Ragfyr.
 
Un o argymhellion yr adroddiad oedd bod Cyngor Caerffili yn parhau â'r dull a fabwysiadwyd yn ystod tymor torri gwair 2021 fel y safon wrth symud ymlaen mewn perthynas â'n hymylon priffyrdd a'n llwybrau osgoi lle mae gwair yn cael ei dorri mor anaml â phosibl.
 
O ganlyniad, bydd ardaloedd penodol ledled y fwrdeistref sirol ac ymylon ffyrdd yn ffynnu; bydd hyn nid yn unig yn gwella'r amgylchedd lleol ond hefyd yn cynorthwyo i gyflawni dyletswydd bio-amrywiaeth statudol yr awdurdod ac yn cynorthwyo gyda'r ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd, a ddatganodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2019.
 
Yn ystod y cyfnod cyfyngu symud cenedlaethol ym mis Mawrth 2020, gorfodwyd y cyngor i ail-lunio a thrawsnewid dros nos bron mewn ymateb i'r pandemig COVID-19 byd-eang; un o'r gwasanaethau a gafodd ei rhoi ar saib oedd y gwasanaeth torri gwair wrth i wasanaethau eraill gael blaenoriaeth. Cafodd hyn effaith annisgwyl ar ein hamgylchedd, ond un y cafodd ei chroesawu, wrth i lawer o gynefinoedd a hafanau bywyd gwyllt i beillwyr gael eu creu yn anfwriadol. Daeth rhai lleoedd cymunedol yn fôr o flodau gwyllt, a fwynhawyd gan lawer a chymeradwywyd y cyngor gan y naturiaethwr a phersonoliaeth teledu o Gymru, Iolo Williams.
 
Trwy gydol mis Mai 2021, cadwyd y gwaith torri gwair ar hyd ymylon ein priffyrdd a'n cylchfannau i'r isafswm lleiaf posibl er mwyn cefnogi'r ymgyrch ‘No Mow May’. Anogodd yr ymgyrch unigolion lleol, cynghorau, a rhanddeiliaid i helpu gwenyn, gloÿnnod byw, a bywyd gwyllt arall trwy adael i flodau gwyllt dyfu ar lawntiau a mannau gwyrdd trwy gydol mis Mai yn lle eu torri. Roedd torri gwair ar draws y Fwrdeistref Sirol yn dal i ddigwydd er mwyn:
 
• Cynnal gwelededd ar gyfer defnyddwyr y ffordd;
• Cadw arwyddion traffig a gwelededd yn glir;
• Cynnal ymylon a mynediad ar droedffyrdd a llwybrau beicio;
• Cynnal parciau, meysydd chwaraeon, mynwentydd, ystadau tai, mannau chwarae a mannau gwyrdd hamdden.
 
Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo rhestr o ardaloedd a enwebwyd gan aelodau lleol yn eu wardiau priodol, a fydd, yn y dyfodol, yn cael ffynnu yn ystod cyfnod yr haf trwy gadw'r weithred o dorri gwair i isafswm. Bydd swyddogion yn gweithio'n barhaus gydag aelodau lleol i nodi meysydd wrth i'r rhaglen gael ei hehangu.
 
Yr ardaloedd a enwebwyd gan aelodau lleol a swyddogion perthnasol yw:
 
  • Snowdon Close, Rhisga.
  • Cyffordd Heol Adam a’r B4254, Gelligaer.
  • Highfield Road, Pontllan-fraith.
  • Ardaloedd o fewn Ystâd y Grove, Tretomos.
  • Ardaloedd o amgylch y Ganolfan Gymunedol, Llanbradach.
 
Bydd y lleoedd hyn yn cael eu marcio â phlac pren yn diolch i drigolion am ganiatáu i'r ardaloedd pwrpasol dyfu i fod yn fannau ecogyfeillgar a chaniatáu iddyn nhw gynhyrchu digonedd o flodau, hadau paill a chynefin ar gyfer bywyd gwyllt lleol.
 
Bydd ardaloedd trefol, fel ystadau tai, llety i bobl hŷn, mynwentydd ac ati yn cael eu cynnal ar yr amleddau torri cyfredol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogleu'r Cyhoedd a Strydoedd, “Rwy’n ddiolchgar bod y Cabinet wedi cytuno i barhau gyda’r dull a fabwysiadwyd yn ystod tymor torri gwair 2021. Mae bioamrywiaeth ein hymylon ffyrdd yn dibynnu ar sut maen nhw'n cael eu rheoli - yn benodol, pa mor aml a phryd mae'r gwair yn cael ei dorri. Mae torri gwair yn rheolaidd yn dinistrio glannau amrywiaeth botanegol ac yn dinistrio cynefinoedd peillwyr. Ond, gyda rheolaeth ofalus, gallai ein hymylon ffyrdd flodeuo eto.
 
“Mae'n bwysig nodi y bydd ymylon yn parhau i gael eu cynnal er budd diogelwch y cyhoedd mewn perthynas â gwelededd i ddefnyddwyr ffyrdd; cadw arwyddion traffig a llinellau gwelededd yn glir a sicrhau bod ymylon a mynediad ar droedffyrdd a llwybrau beicio yn cael eu cynnal.”


Ymholiadau'r Cyfryngau