News Centre

Ymgyrch Siôn Corn lwyddiannus arall ar gyfer 2021

Postiwyd ar : 10 Rhag 2021

Ymgyrch Siôn Corn lwyddiannus arall ar gyfer 2021
Unwaith eto, mae Ymgyrch Siôn Corn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael ymateb rhyfeddol gan drigolion, ysgolion a busnesau.

Eleni, bu'n rhaid i'n Hymgyrch Siôn Corn addasu o ganlyniad i'r pandemig cyfredol. O ganlyniad, nid oedden ni'n gallu derbyn anrhegion ac, felly, rydyn ni wedi gofyn i drigolion roi talebau rhodd neu arian yn eu lle. Ers hynny, mae Gweithwyr Cymdeithasol, sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r teuluoedd, wedi prynu'r anrhegion ac wedi eu dosbarthu nhw i'r plant mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr.

Mae dros £13,000 wedi cael ei roi drwy ein tudalen rhoddion ar-lein a chawson ni dros 400 o dalebau rhodd eleni ar gyfer dros 600 o blant a phobl ifanc sy'n cael cymorth – gan gynnwys babanod newydd-anedig a phobl ifanc 18 oed sy'n gadael gofal – ledled y Fwrdeistref Sirol sydd wedi cael eu henwebu gan eu gweithwyr cymdeithasol oherwydd eu bod nhw mewn perygl o beidio â chael anrheg y Nadolig hwn.

Cafodd yr awdurdod lleol dros 1,000 o anrhegion hefyd gan nifer o fusnesau ac maen nhw wedi cael eu dosbarthu i bum elusen leol: Platfform, Home-Start, Llamau, Gweithredu dros Blant, a'r ganolfan i bobl ddigartref – Tŷ'r Fesen.

Roedd gan yr ymgyrch, a gafodd ei hagor i'r cyhoedd ym mis Tachwedd, nifer o fusnesau eisoes yn cymryd rhan; roedd y rhain yn cynnwys Creditsafe, Link Financial, Tesco Ystrad Mynach, Asda Caerffili a llawer mwy.

Cafodd cyfraniad mawr ei wneud hefyd gan Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a roddodd £870 tuag at dalebau a bocsys o siocledi.

Gweithiodd y staff yn galed i roi'r holl dalebau ac anrhegion mewn trefn ddydd Gwener 3 Rhagfyr, gan drefnu'r holl roddion mewn categorïau oedran i baratoi ar gyfer eu dosbarthu i'r plant mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, “Ni fyddai ein Hymgyrch Siôn Corn yn llwyddiannus, na hyd yn oed yn bosibl, heb garedigrwydd a haelioni ein trigolion, ysgolion a busnesau lleol ni. Yn yr un modd â'r llynedd, mae 2021 wedi bod yn anodd dros ben i bawb ac, oherwydd hynny, roedd yn bwysicach nag erioed sicrhau bod plant yn cael anrheg y Nadolig hwn; diolch i bawb am gefnogi'r achos teilwng hwn.”

Gyda diolch arbenning i HSBC Caerffili, Islwyn Lodge of the Freemasons, Caerphilly Lions Club, Ceris Rees, Hayley Gauden, Craig Coombs, Boys from the Brad, Dust and Things a llawer, llawer mwy.


Ymholiadau'r Cyfryngau