Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Casgliad bin wedi'i golli
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Awst 2022
Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
News Centre
Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Postiwyd ar : 18 Awst 2022
Heddiw, mae myfyrwyr ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu ac yn cael eu llongyfarch ar eu cyflawniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.
Mae dysgwyr mewn ysgolion a cholegau ledled Caerffili wedi bod yn casglu eu canlyniadau nhw heddiw, ddydd Iau 18 Awst.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi casglu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Rydw i’n gobeithio eich bod chi i gyd yn falch gyda’ch canlyniadau chi o ystyried y rhwystrau yr ydych chi wedi’u trechu yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd Covid.
“Rydw i’n dymuno’r gorau i chi wrth benderfynu pa lwybr yr ydych chi am ei ddilyn yn y dyfodol, dylech chi a’ch teuluoedd chi fod yn falch iawn o’r hyn yr ydych chi wedi’i gyflawni hyd yn hyn. Gobeithio y byddwch chi i gyd yn mwynhau eich dathliadau chi a’r seibiant haeddiannol.”
Ychwanegodd Richard Edmunds, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol Caerffili, “Gallaf ddychmygu bod heddiw yn ddiwrnod cyffrous a brawychus i’r rhai ohonoch chi sy’n casglu eich canlyniadau Safon Uwch. Rydw i’n siŵr eich bod chi wedi aros yn bryderus ond llongyfarchiadau i chi i gyd am eich gwaith caled chi, nid yn unig o ran sefyll eich arholiadau chi ond am y ddwy flynedd diwethaf hefyd.
“Mae wedi bod yn ddwy flynedd heriol a dweud y lleiaf ond dylech chi i gyd fod yn hynod falch o’r gwytnwch yr ydych chi wedi’i ddangos ac am eich cyflawniadau chi.
“Beth bynnag yw eich camau nesaf chi, boed yn mynychu’r Brifysgol neu’n camu i swydd, rydw i’n dymuno pob lwc i chi ar gyfer y dyfodol. Da iawn a mwynhewch ddathlu dros yr haf gyda ffrindiau a theulu cyn y garreg filltir fawr nesaf yn eich bywydau chi.”
Dywedodd Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, “Ni fyddai dweud ei bod hi wedi bod yn ddwy flynedd anodd i’r rhai mewn addysg, athrawon, rhieni a gwarcheidwaid yn dod yn agos ati. Rydw i’n gwybod y bydd heddiw yn ddiwrnod balch beth bynnag fydd y canlyniadau a bydd ein cymuned ysgol anhygoel yn cefnogi dysgwyr i fynd ymlaen i’r cam nesaf ar eu taith ddysgu. Mae gweld ymrwymiad ac ymroddiad staff a myfyrwyr yn ystod y cyfnod eithriadol hwn wedi bod yn ysbrydoledig ac mae’n dangos ‘Tîm Caerffili’ ar ei orau – da iawn, bawb.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Partneriaid yn arwain y ffordd i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn
Sefydliadau Caerffili wedi'u gwahodd i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cabinet Caerffili yn cymeradwyo darparu 1000 o gartrefi fforddiadwy newydd
Lluosi – Yn Lansio Heddiw!
Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2023, Joseph Coelho, yn ymweld â Llyfrgell Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y