News Centre

Cyngor Caerffili i daclo sbwriel morol ar gyfer Glanhau Moroedd Cymru

Postiwyd ar : 26 Awst 2022

Cyngor Caerffili i daclo sbwriel morol ar gyfer Glanhau Moroedd Cymru
Yn ystod tymor yr hydref eleni, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn galw ar wirfoddolwyr i ddod o hyd i’w codwyr sbwriel, gwneud addewid a chymryd rhan yn yr ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru, gan dargedu afonydd, dyfrffyrdd a thraethau ar draws Cymru.

Yn dilyn llwyddiant Gwanwyn Glân Cymru, mae’r neges yn syml – ymunwch a gwnewch addewid i godi gymaint o sbwriel ag y gallwch yn ystod yr ymgyrch. Gallwch ddewis codi un bag yn unig, neu gallech osod nod i chi eich hun o gasglu gymaint ag y gallwch.

Eleni, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, gan dargedu traethau o amgylch arfordir Cymru a bydd yn cyd-fynd ag Ymgyrch Glanhau Traethau Prydain Fawr, rhaglen glanhau traethau ac arolwg sbwriel mwyaf y DU. Y nod yw casglu data hanfodol fydd yn cael ei ddefnyddio i nodi’r problemau penodol y mae ein moroedd a’n harfordiroedd yn eu hwynebu.

Mae sbwriel morol yn fygythiad cynyddol i’n hamgylchedd dyfrol a morol, gydag 80% yn dod o ffynonellau ar y tir. Mae’r rhan fwyaf o sbwriel a geir yn ein dyfrffyrdd yn mynd i mewn i’n cefnforoedd yn y pen draw, mater nad yw’n berthnasol i ardaloedd arfordirol yn unig. Mae angen atal y broblem yn ei ffynhonnell gan gadw ein traethau a’n dyfrffyrdd yn lân er mwyn i fywyd gwyllt allu ffynnu, a’n bod yn gallu gwneud y gorau o’n hamgylchedd hardd.

Mae Glanhau Moroedd Cymru yn dychwelyd am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019 cyn y pandemig ac fe’i cynhelir o ddydd Gwener 16 Medi i ddydd Sul 2 Hydref 2022, yn targedu’r holl ddyfrffyrdd ar hyd a lled Cymru, yn cynnwys afonydd, nentydd, camlesi ac aberoedd. O’ch hoff draeth i’r nant fach yn eich pentref, gallwch wneud gwahaniaeth a helpu i fynd i’r afael â sbwriel morol.

Yn ogystal â gwella eich amgylchedd lleol, mae codi sbwriel yn ffordd wych o fwynhau’r awyr agored yn ystod un o adegau mwyaf hyfryd y flwyddyn.

Bydd Cyngor Caerffili yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru gyda digwyddiadau codi sbwriel mewn ardaloedd â phroblem sbwriel, yn agos i afonydd Sirhywi, Rhymni ac Ebwy. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys:
 
  • 16 Medi, Cliff Road, Coed Duon
  • 30 Medi, ffordd fynediad Trehir
  • 7 Hydref, Caeau Trecelyn, o dan yr A472 ger yr Otter
Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10.30am a 12pm, a bydd yr offer i gyd yn cael ei ddarparu.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: “Rydyn ni mor hapus i gefnogi Cadwch Cymru’n Daclus a’u hymgyrch Glanhau Moroedd Cymru.

“Rydyn ni’n lwcus iawn i gael toreth o fannau gwyrdd a thair afon yn llifo trwy ein Bwrdeistref Sirol, felly mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth eu cadw nhw’n lân a heb sbwriel.”


Ymholiadau'r Cyfryngau