News Centre

Trigolyn Caerffili’n ennill £500 trwy ailgylchu gwastraff bwyd

Postiwyd ar : 24 Awst 2022

Trigolyn Caerffili’n ennill £500 trwy ailgylchu gwastraff bwyd
Mae trigolyn Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill £500 am ailgylchu gwastraff bwyd fel rhan o ymgyrch y Fwrdeistref Sirol, Gweddillion am Arian.
 
Ms Heritage o Drelyn yw enillydd misol diweddaraf ymgyrch Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022 i gyd-fynd ag Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd gyda’r nod o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd.
 
Mae’r ymgyrch yn gweld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailglychu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, gyda phob enillydd yn derbyn £500.
 
Mae’r Awdurdod Lleol yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn cynyddu ailgylchu gwastraff bwyd, tra gallai’r wobr ariannol helpu trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
 
Dywedodd Ms Heritage: “Rydyn ni wedi bod yn ailgylchu ein gwastraff bwyd ers blynyddoedd felly roedd yn syrpréis hyfryd i gael gwybod ein bod ni wedi ennill!”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: “Llongyfarchiadau i Ms Heritage ar ennill y wobr.
 
“Gyda’r argyfwng costau byw ar feddwl pawb, rydyn ni mor hapus i weld enillydd hapus arall yr ymgyrch Gweddillion am Arian, ac i ailddosbarthu arian cyhoeddus yn ôl i’r gymuned yn y modd hwn.”
 
Bydd enillwyr yr ymgyrch Gweddillion am Arian yn parhau i gael eu cyhoeddi bob mis drwy gydol 2022.
 
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i:
www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau