News Centre

Ailgylchwyr gwastraff bwyd o Gaerffili yn ennill £500

Postiwyd ar : 02 Awst 2022

Ailgylchwyr gwastraff bwyd o Gaerffili yn ennill £500
Mae dau o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill £500 am ailgylchu eu gwastraff bwyd yn rhan o ymgyrch Gweddillion am Arian y Fwrdeistref.

Cafodd Mr a Mrs Morrisey o Drecelyn eu cyhoeddi fel pedwerydd enillydd ymgyrch Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022 yn unol ag Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyda’r bwriad o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd.

Mae’r ymgyrch yn gweld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, a phob enillydd yn cael £500.

Mae’r Awdurdod Lleol yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn cynyddu cyfranogiad ailgylchu gwastraff bwyd, tra gallai’r wobr ariannol helpu trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

Dywedodd Mrs Morrisey, “Rydyn ni wedi bod yn ailgylchu ein gwastraff bwyd ers blynyddoedd lawer, gan ein bod yn gwybod ei bod hi’n bwysig lleihau ein gwastraff lle bynnag y gallwn. Mae cael ein cydnabod a’n gwobrwyo fel hyn yn hyfryd – allwn ni ddim bod yn hapusach.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Morrisey a diolch yn fawr i’r holl drigolion sy’n  ailgylchu ac ailgylchu gwastraff bwyd ar hyn o bryd ac sy’n ein helpu i gyrraedd y nod i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

“Mae digon o gyfleoedd o hyd i ennill y wobr ariannol o £500, felly os nad ydych chi’n ailgylchu eich gwastraff bwyd ar hyn o bryd, nawr yw’r amser i ddechrau.”

Bydd yr enillwyr Gweddillion am Arian yn parhau i gael eu cyhoeddi bob mis drwy gydol 2022.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i:
https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau