News Centre

Cyngor Caerffili i ystyried fforddiadwyedd wrth osod rhenti tenantiaid

Postiwyd ar : 25 Awst 2022

Cyngor Caerffili i ystyried fforddiadwyedd wrth osod rhenti tenantiaid
Yn ddiweddar, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno ar gynigion i ystyried fforddiadwyedd wrth osod rhenti ei denantiaid.
 
Cytunodd aelodau’r Cabinet hefyd i gynnwys model Rhent Byw Sefydliad Joseph Rowntree fel rhan o’i bolisi presennol a’i ddefnyddio i feincnodi o leiaf bob dwy flynedd i sicrhau lefelau fforddiadwyedd i denantiaid.
 
Yn gynharach eleni, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad â thenantiaid, a chafodd adborth o’r gwaith hwn ei ystyried yn rhan o benderfyniad y Cabinet; gyda mwyafrif y tenantiaid yn teimlo y byddai'n decach ac yn fwy tryloyw i ystyried cyfartaledd enillion aelwydydd o bob rhan o'r Fwrdeistref Sirol wrth osod rhenti, yn hytrach na threfnu rhenti fesul ardal neu fandiau.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae Cyngor Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau bod rhenti’n parhau i fod yn fforddiadwy i’n tenantiaid ni, yn enwedig yng ngoleuni’r argyfwng costau byw presennol. Eleni, mabwysiadodd y Cabinet gynnydd rhent o 2%; un o'r isaf yng Nghymru. Mae gan Gaerffili hefyd un o'r rhenti tai awdurdodau lleol isaf yng Nghymru.
 
“Mae barn ein tenantiaid yn hynod o bwysig i ni a hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori ynghylch rhenti. Mae adborth o’r ymgynghoriad hwn wedi bod yn hanfodol i’n helpu ni i gytuno ar ein dull o osod rhenti, er mwyn sicrhau fforddiadwyedd a gwerth am arian i denantiaid.”


Ymholiadau'r Cyfryngau