News Centre

Rhybudd am algâu gwyrddlas ym Mhwll Pen-y-Fan

Postiwyd ar : 31 Awst 2022

Rhybudd am algâu gwyrddlas ym Mhwll Pen-y-Fan

Mae tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi cyngor i drigolion, yn dilyn cadarnhad o algâu gwyrddlas a allai fod yn niweidiol ym Mhwll Pen-y-Fan.

Mae'r algâu yn cynhyrchu tocsinau sy’n gallu bod yn niweidiol i bobl ac anifeiliaid. Mae trigolion yn cael eu cynghori i sicrhau nad yw anifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn, yn cael mynediad i ddŵr y Pwll. Pe bai anifeiliaid anwes yn dod i gysylltiad â'r dŵr, mae perchnogion yn cael eu cynghori i olchi'r anifail yn drylwyr â dŵr glân a gofyn am gyngor rhagofalus gan filfeddyg cymwys.

Mewn pobl, mae’r tocsinau yn gallu achosi brechau ar ôl iddyn nhw dod i gysylltiad â chroen a salwch pe byddan nhw’n cael eu llyncu.

Mae rhagor o wybodaeth am yr algâu gwyrddlas ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru / Algâu gwyrddlas (naturalresourceswales.gov.uk)

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Fannau Gwyrdd, “Hoffen ni gysuro trigolion bod y parc yn parhau i fod yn ddiogel i ymweld ag ef a’i fwynhau, heb achosi pryder gormodol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol nad oes unrhyw weithgareddau hamdden yn digwydd, gan gynnwys pysgota a mynediad i'r pwll ei hun gan aelodau'r cyhoedd.

“Hefyd mae ymwelwyr yn cael eu hannog i sicrhau nad yw anifeiliaid yn cael mynediad at y dŵr ym Mhwll Pen-y-Fan. 

“Mae arwyddion wedi cael eu gosod o amgylch y pwll a bydd archwiliadau rheolaidd o’r dŵr yn parhau i gael eu cynnal. Mae ein swyddogion hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn.”

Mae trigolion sydd ag unrhyw bryderon ynghylch â’r mater hwn yn gallu cysylltu â thîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar 01443 811355.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau