News Centre

Rydyn ni'n cynnig mwy, er mwyn i chi gyflawni mwy! – Ymunwch â Dull Byw Hamdden ar-lein heddiw i fod yn hapusach ac yn iachach!

Postiwyd ar : 03 Ebr 2024

Rydyn ni'n cynnig mwy, er mwyn i chi gyflawni mwy! – Ymunwch â Dull Byw Hamdden ar-lein heddiw i fod yn hapusach ac yn iachach!
Mae Dull Byw Hamdden yn falch iawn o gyhoeddi bod ymuno â'n cymuned ni wedi dod yn haws! Gallwch chi bellach ddod yn aelod ar-lein drwy fynd i https://bit.ly/43HLxyi, gan ddileu unrhyw drafferth a gwneud eich taith tuag at ffordd iachach o fyw yn haws o lawer!
 
Yn Dull Byw Hamdden, rydyn ni'n credu mewn torri rhwystrau i iechyd a lles. Dyna pam rydyn ni'n cynnig y canlynol: dim ffioedd ymuno, dim contractau, sesiynau sefydlu am ddim, a dim ffioedd canslo o gwbl. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gwasanaethau'n hygyrch i bawb, heb unrhyw gostau neu ymrwymiadau cudd. 
 
Fel aelod o Dull Byw Hamdden, nid yn unig ydych chi'n cofrestru ar gyfer aelodaeth campfa; rydych chi'n ymuno â chymuned fywiog. Mae ein canolfannau hamdden ni'n fwy na llefydd i wneud ymarfer corff ynddyn nhw yn unig – maen nhw'n hybiau i gymdeithasu, dysgu a chadw'n egnïol. Gyda mynediad at gyfleusterau campfa, pyllau nofio, ystafelloedd iechyd, dosbarthiadau ymarfer grŵp, hybiau athletau, a chwaraeon racedi, mae rhywbeth at ddant pawb. 
 
Mae eich aelodaeth yn rhoi mynediad llawn i chi i dros 10 o safleoedd, felly p'un a ydych chi'n agos at eich cartref, gwaith, neu'n teithio, ni fu cynnal eich trefn ffitrwydd erioed yn haws. Hefyd, cofiwch holi am ein hopsiynau aelodaeth Rhatach a Chorfforaethol a allai arwain at ostyngiad o 20%.
 
Beth am gymryd y cam cyntaf tuag at ffordd hapusach ac iachach o fyw, drwy ymuno â Dull Byw Hamdden heddiw. Ewch i https://bit.ly/43HLxyi i ddod yn aelod a dechrau mwynhau buddion ein cymuned ni. 


Ymholiadau'r Cyfryngau