News Centre

Rhy dda i fod yn wir?

Postiwyd ar : 19 Ebr 2024

Rhy dda i fod yn wir?

Mae Safonau Masnach Cymru yn adrodd bod sgamiau a masnachwyr twyllodrus yn parhau i achosi gofid i ddefnyddwyr ledled y wlad.

Mae defnyddwyr yn aml yn cael eu hudo gan rywbeth sy'n “rhy dda i fod yn wir”, wedi'u swyno gan yr hyn sy'n ymddangos yn fargen, neu'n gynnig gwych, mewn siop, ar y rhyngrwyd, ar y teledu, ar y radio neu i'w drws. 

Car dymunol sydd wedi gwneud 10,000 o filltiroedd yn unig yn ôl pob golwg, e-bost sy'n addo miloedd o bunnau o arian os ydych chi'n anfon ychydig gannoedd trwy drosglwyddiad banc i gyfrif tramor, y gwyliau moethus hynny gyda'r taliadau cudd, neu'r galwr digroeso hwnnw sy'n cynnig trwsio'r ychydig deils rhydd hynny ar eich to y mae newydd ddigwydd sylwi arnynt wrth iddo basio.

Os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna felly mae hi fel arfer.  Bob dydd, mae awdurdodau sy'n aelodau o Safonau Masnach Cymru yn delio â chwynion lle mae defnyddiwr wedi cael ei dwyllo gan yr hyn yr oedd yn meddwl oedd yn fargen yn eu barn nhw, neu'r addewid o ennill loteri hawdd.

Yn ystod 2022/23, mae Safonau Masnach ledled Cymru wedi: 

  • Darparu cefnogaeth i bron i 1300 o ddioddefwyr sgâm
  • Wedi arbed tua £2.75 miliwn i ddefnyddwyr drwy darfu ar bostiadau twyll marchnata torfol a thaliadau allan
  • Atal bron i £10m o niwed i ddefnyddwyr
  • Yn dilyn ymchwiliadau troseddol, sicrhaodd y llysoedd fod £64,500 o iawndal wedi’i ddyfarnu i ddioddefwyr troseddau.
  • Atal dros £596,000 rhag cael ei drosglwyddo i droseddwyr.

Gall defnyddwyr barhau i gael eu diogelu trwy ‘Gymryd 5’ ar gyfer rhai gwiriadau cyflym. Anwybyddwch yr e-bost â'r wobr, ac os ydych chi'n prynu nwyddau neu wasanaethau dros garreg eich drws, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael hawliau canslo.

Mae 59% o Awdurdodau Safonau Masnach Cymru yn cefnogi'r cynllun cymeradwyo masnachwyr Prynu Gyda Hyder, lle mae masnachwyr cyfrifol a chyfreithlon yn cael eu fetio gan Safonau Masnach ac yn cael eu harchwilio'n flynyddol. Mae hyn yn agored i unrhyw fath o fasnach ac yn ceisio cynnig sicrwydd i ddefnyddwyr.

Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth 0808 223 1144. Mae Adrannau Safonau Masnach yn derbyn hysbysiadau cwynion gan Gyngor ar Bopeth, sy'n ein helpu i dargedu busnesau twyllodrus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Wythnos Safonau Masnach Cymru a'n sianel YouTube.

Gellir clywed y podlediad ar gyfer yma:



Ymholiadau'r Cyfryngau