News Centre

Digwyddiad cyntaf gwanwyn 2024 yn denu miloedd i ganol tref Ystrad Mynach

Postiwyd ar : 03 Ebr 2024

Digwyddiad cyntaf gwanwyn 2024 yn denu miloedd i ganol tref Ystrad Mynach
Cafodd digwyddiad cyntaf y flwyddyn, Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, ei gynnal ddydd Sadwrn 23 Mawrth 2024.
 
Daeth 5,623 o ymwelwyr i ganol tref Ystrad Mynach ar y diwrnod, gyda phresenoldeb yn cyrraedd uchafswm o 995 am 12pm. Dyma oedd diwrnod prysuraf y flwyddyn i’r dref hyd yn hyn, gyda 4,493 yn fwy o ymwelwyr o'i gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol. Roedd nifer yr ymwelwyr hefyd yn uwch na'r nifer yn y digwyddiad diwethaf a gafodd ei gynnal yn Ystrad Mynach adeg y Nadolig.
 
Roedd amrywiaeth eang o weithgareddau ac adloniant yn y ffair, gan gynnwys cwrdd â Chwningen y Pasg a'i chyfarch, Alice in Pantoland, The Mid Wales Ghostbusters, fferm anwesu, paentio wynebau, sawl stondin bwyd a diod, a llawer mwy!
 
Roedd positifrwydd y digwyddiad o fudd mawr i ganol y dref, y manwerthwyr, a’r gymuned.
 
Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am y digwyddiad:
 
Dywedodd Jon Richards o siop recordiau Fields of Magnetic Horizon, “Roedd yn ddigwyddiad bywiog, gyda llawer o wynebau newydd yn y siop er gwaethaf tywydd garw, ac roedd llawer o adborth cadarnhaol gan bobl.”
 
Dywedodd Gareth Price o D. Emlyn Lloyd, “Byddai'r tywydd wedi gallu bod yn well ond roedd yn braf gweld pobl o gwmpas y lle yn mwynhau eu hunain o hyd.”
 
Rydyn ni'n cynnal Ffair y Gwanwyn arall yng nghanol tref Coed Duon ddydd Sadwrn 13 Ebrill 2024. Dewch draw am ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu!


Ymholiadau'r Cyfryngau