News Centre

Newidiadau i gynllun gwaith atgyweirio yn cynnig rhagor o gymorth i berchnogion tai er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni

Postiwyd ar : 05 Ebr 2024

Newidiadau i gynllun gwaith atgyweirio yn cynnig rhagor o gymorth i berchnogion tai er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni
Gall perchnogion tai ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gael cyllid i wneud eu heiddo yn fwy ynni-effeithlon, diolch i gynigion wedi'u cytuno gan ei Gabinet.
 
Yn ddiweddar, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Bolisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl newydd sy’n nodi blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tai'r sector preifat. Maen nhw’n cynnwys cynlluniau i ddarparu cynhyrchion cymorth ariannol i helpu perchnogion preifat (gan gynnwys landlordiaid y sector preifat) a deiliaid contract (tenantiaid yn gynt) i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi nhw. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Dylai cael cartref diogel a chynnes fod yn hawl sylfaenol ond rydyn ni'n cydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar lawer o’n trigolion a’u gallu i wella neu gynnal eu cartrefi.
 
“Nod Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl yw darparu cymorth ariannol i’r rhai sydd ei angen. Mae hyn yn cynnwys cymorth i wella effeithlonrwydd ynni sy’n hanfodol i sicrhau bod cartrefi’n gynnes ac yn ddiogel, gan hefyd yn cadw costau tanwydd mor isel â phosibl a lleihau allyriadau carbon.”
 
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion tai, landlordiaid preifat a'u tenantiaid, ewch i.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau