News Centre

Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yn cael Lefel Aur y Marc Ansawdd a Chanolfan Ieuenctid Parc Virginia yn agor yn swyddogol

Postiwyd ar : 12 Ebr 2024

Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yn cael Lefel Aur y Marc Ansawdd a Chanolfan Ieuenctid Parc Virginia yn agor yn swyddogol
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi ennill Lefel Aur y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Cafodd y wobr ei dathlu wrth agor Canolfan Ieuenctid Parc Virginia yn swyddogol yng Nghaerffili yr wythnos hon.
 
Mae'r cyflawniad yn cydnabod gwella safonau wrth ddarparu a gweithredu gwasanaethau gwaith ieuenctid, sy'n galluogi pobl ifanc i ddysgu a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol, yn ogystal â chanolbwyntio ar bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth. Mae’r wobr hefyd yn cydnabod cyflawniadau ac yn dathlu datblygiad pobl ifanc.
 
Roedd Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili eisoes wedi ennill Lefel Efydd ac Arian y Marc Ansawdd yn 2022 a 2023 cyn ennill Lefel Aur y Marc Ansawdd, sy’n dangos ymrwymiad parhaus y gwasanaeth i barhau i wella safonau.
 
Mae Canolfan Ieuenctid Parc Virginia, yr Hwb Darpariaeth Ieuenctid newydd ar gyfer De Caerffili, yn cynnig cymorth a gweithgareddau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae amrywiaeth o weithgareddau clwb ieuenctid ar gael, o gelf a chrefft i goginio a gwobr Dug Caeredin. Hefyd, bydd grwpiau cymorth arbenigol, cymorth i bobl ifanc i fynd i mewn i'r gwaith a'r coleg, gweithdai pynciau llosg a chymorth o ran digartrefedd ar gael.
 
Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cynhwysiant addysg ac mae Canolfan Ieuenctid Parc Virginia hefyd yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion gwbl weithredol. Mae'r cydweithio addysgol hwn yn golygu bod pobl ifanc sy'n mynychu yn ystod oriau ysgol hefyd yn elwa ar gael mynediad at gymorth gwaith ieuenctid.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae’n wych agor Canolfan Ieuenctid Parc Virginia yn swyddogol a dathlu Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yn ennill Lefel Aur y Marc Ansawdd. Hoffwn i longyfarch pawb dan sylw am y cyflawniad rhagorol hwn.
 
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld ein pobl ifanc yn cael profiad cadarnhaol yng Nghanolfan Ieuenctid Parc Virginia. Rwy'n gwybod y bydd y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio a'i fwynhau gan bobl ifanc am nifer o flynyddoedd i ddod”.


Ymholiadau'r Cyfryngau