News Centre

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sefydliad Llythrennedd Carbon Lefel Efydd yn swyddogol

Postiwyd ar : 19 Ebr 2024

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sefydliad Llythrennedd Carbon Lefel Efydd yn swyddogol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i achredu fel sefydliad Llythrennedd Carbon Lefel Efydd.
 
Mae'r achrediad hwn yn amlygu ymroddiad y sefydliad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau ei allyriadau carbon sefydliadol a'i ymrwymiad i weithio tuag at ddyfodol carbon is.
 
Cyflwynodd Cynnal Cymru gwrs achrededig i swyddogion sy’n gweithio ar y Strategaeth Datgarboneiddio. O ganlyniad, mae dros 50 o aelodau staff wedi cael yr hyfforddiant ac wedi mynd ymlaen i gael eu hardystio'n ffurfiol yn Garbon Llythrennog.
 
Mae pob dysgwr wedi addo gwneud newidiadau yn eu gwaith a’u gweithredu nhw a fydd yn lleihau allyriadau carbon a chyfrannu at ymrwymiad y sefydliad i fod yn awdurdod lleol carbon net sero erbyn 2030.
 
Yn 2019, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Mae cyflawni statws Sefydliad Llythrennedd Carbon Lefel Efydd yn un o'r camau cyntaf ar y daith hon i sefydlu diwylliant carbon isel. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Rydyn ni'n falch o gael ein hachredu fel sefydliad Llythrennedd Carbon Lefel Efydd, a dyma'r cam cyntaf ar ein taith Llythrennedd Carbon.  Mae'r wobr yn dangos ein hymroddiad i'n hymrwymiad carbon sero net." 
 
Dywedodd Dave Coleman, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr y Prosiect Llythrennedd Carbon, "Mae Llythrennedd Carbon yn sgìl hanfodol, sy'n hollbwysig i bob gweithle, cymuned a man astudio. Drwy ddod yn Sefydliad Llythrennedd Carbon Lefel Efydd, mae Cyngor Caerffili wedi dangos ei ymrwymiad i gamau carbon isel gwirioneddol, effaith amgylcheddol ac economaidd, ac adeiladu dyfodol carbon isel i ni i gyd".


Ymholiadau'r Cyfryngau