News Centre

Y Cabinet yn mynegi cefnogaeth i newidiadau arfaethedig i ysgolion lleol

Postiwyd ar : 18 Ebr 2024

Y Cabinet yn mynegi cefnogaeth i newidiadau arfaethedig i ysgolion lleol

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ynghylch y cynnig i adleoli Ysgol y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf, drwy greu adeiladau ysgolion cynaliadwy gyda chyfleusterau sy'n cael eu rhannu.

Bu gofyn i aelodau'r Cabinet ystyried yr wybodaeth yn yr Adroddiad Gwrthwynebiadau a chymeradwyo'r argymhellion, drwy bleidlais, i symud ymlaen at y cam cais cynllunio a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer achosion busnes dilynol.

Mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn rhaglen buddsoddi cyfalaf fawr, hirdymor a strategol sy'n cynorthwyo prosiectau adeiladu cyfalaf ar raddfa fawr ledled Cymru gyda'r nod o drawsnewid addysg drwy wella adeiladau ysgolion a'u datblygu fel canolfannau dysgu i ddiwallu anghenion addysgol a chymunedol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2023, cafodd Hysbysiad Statudol ei gyhoeddi ar gyfer y cynnig sy'n ymwneud ag Ysgol y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf, a chafodd cyfnod gwrthwynebu ffurfiol ei gynnal rhwng 8 Ionawr 2024 a 5 Chwefror 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau:

“Rydyn ni'n hynod angerddol ynghylch buddsoddi mewn addysg ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Y cyfleusterau newydd arfaethedig ar gyfer Ysgol y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf yw'r camau nesaf o ran darparu seilwaith dysgu cynaliadwy a modern yn y Fwrdeistref Sirol. Gyda gwrthwynebiadau'n cael eu hadolygu a'u hystyried, rydyn ni'n awyddus i barhau â'r momentwm a dechrau ar y camau cynllunio i gwblhau cam 3 y cynnig.”

Mae aelodau'r Cabinet wedi adolygu a chymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad bellach, a bydd y prosiect nawr yn symud ymlaen i'r cam Cais Cynllunio a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer achosion busnes dilynol.



Ymholiadau'r Cyfryngau