Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2024
Ffair y Gwanwyn lwyddiannus arall gyda miloedd yn ymweld â chanol tref Coed Duon
News Centre
Ffair y Gwanwyn lwyddiannus arall gyda miloedd yn ymweld â chanol tref Coed Duon
Postiwyd ar : 18 Ebr 2024
Cafodd ail Ffair y Gwanwyn 2024 ei chynnal yng nghanol tref Coed Duon ddydd Sadwrn 13 Ebrill 2024.
Daeth 6,926 o bobl i ymweld â chanol y dref ar y diwrnod, gyda'r niferoedd yn cyrraedd uchafbwynt o 1,018 o bobl am 1pm. Roedd 2,759 yn fwy o ymwelwyr yn y dref na'r dydd Sadwrn blaenorol.
Roedd llwyth o adloniant i'r teulu yn y ffair, gan gynnwys perfformwyr theatr stryd, The Mid Wales Ghostbusters, adar ysglyfaethus gyda Falconry UK, gweithdai crefft, anifeiliaid egsotig, reidiau ffair a rhagor! Roedd masnachwyr hyd yn oed yn gwerthu allan erbyn dechrau'r prynhawn.
Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am y digwyddiad:
Dywedodd Gavyn Bolton, McKenzie's Café, "Diwrnod arbennig, roedd hi'n hyfryd gweld y Stryd Fawr mor brysur, roedd llawer o wynebau hen a newydd yma heddiw."
Dywedodd Maxime Cinema, "Diwrnod da, cawson ni lawer o bobl yn dod i mewn, fe wnaeth cynllun newydd y stondinau weithio'n dda i ni."
Dywedodd Huw Edwards o Tidal’s Furniture Store Ltd, "Roedd ansawdd y stondinau yn anhygoel, mae digwyddiadau fel hyn wir yn helpu gyda hirhoedledd y Stryd Fawr."
Dywedodd Gower Doughnut Co., "Diolch i [dîm Digwyddiadau Cyngor Caerffili] a phawb arall a oedd yn rhan o drefnu a rhedeg digwyddiad dydd Sadwrn. Roedd pawb yn gymwynasgar a chyfeillgar iawn. Roedd hefyd yn un o'r digwyddiadau sydd wedi'i drefnu orau i ni fod ynddi, os nad y gorau.”
Dywedodd Sian's Emporium hefyd, "Diolch i'r holl dîm am ddigwyddiad gwych arall – achlysur ffantastig fel arfer."
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Mae hi bob amser yn bleser gweld amgylchedd cyfeillgar i deuluoedd yn Ffair y Gwanwyn, Coed Duon. Mae cefnogaeth da i'r digwyddiad bob amser, felly hoffwn i ddiolch i bawb am ddod i wneud y diwrnod yn llwyddiant!”
Y digwyddiad nesaf yn ein calendr ni yw Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili ddydd Sadwrn 27 Ebrill. Dewch draw am ddiwrnod allan llawn bwyd blasus! Am ragor o wybodaeth, cliciwch
yma.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Hwb Llyfrgell Rhymni i gynnal digwyddiad Lles a Datgarboneiddio ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd
Gwaith adnewyddu Pwll Trecelyn ar fin cael ei gwblhau
Tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili ar restr fer rownd derfynol Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Strategaeth Gwastraff uchelgeisiol wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor
Disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith o adeiladu eu hystafelloedd dosbarth newydd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y