News Centre

Cynllun Cymorth Costau Byw - Diweddariad (30/04/220

Postiwyd ar : 30 Ebr 2022

Cynllun Cymorth Costau Byw - Diweddariad (30/04/220
Cost of living payment

Mae Cynllun Cymorth CostAu Byw Llywodraeth Cymru yn cynnwys 2 ran; prif gynllun gyda thaliad o £150 fesul aelwyd gymwys a chynllun dewisol. 

Os ydych yn gymwys o dan y prif gynllun ac yn talu'ch treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, ac rydym wedi casglu 1 taliad treth gyngor gennych, dylech dderbyn taliad costau byw erbyn y 6ed o Fai.

Ar gyfer pob talwr treth gyngor arall sy'n gymwys o dan y prif gynllun, byddwn yn darparu ffurflen ar-lein tua chanol mis Mai.Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn penderfynu ar ei gynllun dewisol ei hun o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru a bydd manylion y cynllun hwnnw'n cael eu cyhoeddi yn ystod mis Mai. 

Edrychwch ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.


Ymholiadau'r Cyfryngau