News Centre

Tîm Allweddi Caerffili yn dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer elusen Clefyd Niwronau Motor

Postiwyd ar : 26 Ebr 2022

Tîm Allweddi Caerffili yn dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer elusen Clefyd Niwronau Motor
Mae aelodau o'r tîm y tu ôl i Allweddi Caerffili, cynllun prydlesu sector preifat arloesol, wedi dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Bydd wyth aelod o dîm Allweddi Caerffili, gan gynnwys swyddogion a landlordiaid, yn cymryd rhan yn ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows eleni.  Mae’r tîm wedi dewis Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor fel ei elusen ddewisol ar ôl i un o landlordiaid cyntaf y cynllun gael diagnosis o’r cyflwr yn ddiweddar.

Mae'r fenter yn cael ei harwain gan dîm Atebion Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.  Mae Allweddi Caerffili yn atal digartrefedd drwy baru tenantiaid ag eiddo rhent preifat addas ac yn gweithio i helpu'r tenant a'r landlord i sicrhau bod y denantiaeth yn cael ei chynnal.

Yn cymryd rhan yn y ras mae staff Cyngor Caerffili, sef Byron Jones, Liam Roberts, David Francis a Hannah Williams, a landlordiaid Allweddi Caerffili, sef Craig Coombes a Tom Collins, ynghyd â Charlotte Burles Corbett a Ruth Powell sy'n cynrychioli Fforwm Landlordiaid Preifat Caerffili.

I gyfrannu, ewch i Mae aelodau o'r tîm y tu ôl i Allweddi Caerffili, cynllun prydlesu sector preifat arloesol, wedi dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Bydd wyth aelod o dîm Allweddi Caerffili, gan gynnwys swyddogion a landlordiaid, yn cymryd rhan yn ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows eleni.  Mae’r tîm wedi dewis Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor fel ei elusen ddewisol ar ôl i un o landlordiaid cyntaf y cynllun gael diagnosis o’r cyflwr yn ddiweddar.

Mae'r fenter yn cael ei harwain gan dîm Atebion Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.  Mae Allweddi Caerffili yn atal digartrefedd drwy baru tenantiaid ag eiddo rhent preifat addas ac yn gweithio i helpu'r tenant a'r landlord i sicrhau bod y denantiaeth yn cael ei chynnal.

Yn cymryd rhan yn y ras mae staff Cyngor Caerffili, sef Byron Jones, Liam Roberts, David Francis a Hannah Williams, a landlordiaid Allweddi Caerffili, sef Craig Coombes a Tom Collins, ynghyd â Charlotte Burles Corbett a Ruth Powell sy'n cynrychioli Fforwm Landlordiaid Preifat Caerffili.

I gyfrannu, ewch i www.justgiving.com/team/CaerphillyKeys10k

Am ragor o wybodaeth am Allweddi Caerffili, ewch i www.caerphillykeys.co.uk/cy/

 


Ymholiadau'r Cyfryngau