News Centre

Canolfan bleidleisio ymlaen llaw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 28 Ebr 2022

Canolfan bleidleisio ymlaen llaw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Bydd pleidleiswyr cofrestredig yn cael cyfle unigryw i fwrw eu pleidlais ar gyfer etholiadau mis Mai mewn canolfan bleidleisio ymlaen llaw yn Nhŷ Penallta, Ystrad Mynach.
 
Y penwythnos cyn yr etholiad, ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill a dydd Sul 1 Mai, bydd pencadlys y Cyngor yn cael ei drawsnewid yn orsaf bleidleisio fawr rhwng 10am a 4pm.
 
Mae Caerffili yn un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru i roi rhagor o hyblygrwydd i bleidleiswyr o ran sut a phryd y maen nhw'n pleidleisio.
 
Sut i bleidleisio;
 
  • Dewch â’ch cerdyn pleidleisio chi os oes gennych chi un (peidiwch â phoeni os nad oes)
  • Byddwch chi wedyn yn casglu eich cerdyn pleidleisio chi
  • Yn syml, pleidleisiwch ac rydych chi wedi gorffen! 

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Swyddog Canlyniadau’r Etholiad, Christina Harrhy, “Rydyn ni'n awdurdod blaengar ac rydyn ni bob amser yn awyddus i fod yn rhan o rywbeth newydd ac arloesol.
 
Rydyn ni'n gobeithio, drwy gynnig y ganolfan bleidleisio ymlaen llaw, y gallwn ni gynnig rhywfaint o hyblygrwydd i drigolion sy’n awyddus i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd.
Rydym hefyd yn gyffrous i weld unwaith eto ein cenhedlaeth nesaf o bleidleiswyr sydd newydd droi’n 16 oed yn defnyddio eu pleidlais am y tro cyntaf mewn etholiad lleol.
 
Rydyn ni yn gobeithio parhau i fod yn rhan o’r newid mewn prosesau a moderneiddio’r broses bleidleisio ar gyfer y dyfodol.”
 
I gael rhestr o’r bobl sydd wedi'u henwebu, ewch i – https://www.caerphilly.gov.uk/My-Council/Voting-and-elections/Forthcoming-Elections?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau