'Sylfaen ar gyfer Llwyddiant 2018-2023' - Strategaeth Adfywio ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae ‘Sail i Lwyddiant' yn ceisio darparu fframwaith ar gyfer adfywiad y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol am y 5 mlynedd nesaf hyd at 2023. Mae'r ddogfen yn nodi blaenoriaethau strategol ar gyfer adfywio o dan bedwar thema allweddol:
- Helpu Pobl (lleihau anghydraddoldeb, meithrin gallu a gwydnwch i greu cymunedau iachach, ffyniannus, cydlynol);
- Helpu Busnes (creu cyfleoedd cyflogaeth, cynyddu gweithgareddau entrepreneuraidd, annog arloesi a gwella mynediad at gyflogaeth);
- Helpu Ansawdd Bywyd (darparu'r amgylchedd ffisegol cywir ar gyfer ein cymunedau a fydd yn eu hannog i ffynnu);
- Cysylltu Pobl a Lleoedd (gwella cysylltedd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn fyd-eang).
Sail i Lwyddiant (PDF)
Sylfaen ar gyferLlwyddian Sicrhau Ffyniant ar ôl Covid-19 (PDF)
Mae Gweledigaeth Strategol ar gyfer Adfywio’r Fwrdeistref Sirol wedi’i chymylu drwy gydol 2020 gan 2 ddigwyddiad arwyddocaol – COVID-19 a Brexit – ac mae effaith economaidd sylweddol y ddau yn parhau. Yn ogystal ag effaith hysbys iawn y pandemig ar iechyd y cyhoedd, mae ei effaith ynghyd ag effaith Brexit ar yr economi yn ddwys.
Mewn ymateb, mae’r Cyngor wedi sefydlu Fframwaith Adfer Strategol i helpu’r Cyngor a’r Fwrdeistref Sirol ehangach i adfer wrth barhau i gefnogi’r Amcanion Llesiant a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2018-23. Mae’r fframwaith adferiad economaidd, Sicrhau Ffyniant ar ôl COVID-19, wedi’i baratoi i gyflawni ein hamcan strategol ni o gefnogi busnesau, ac mae gan y fframwaith hwn dri cham gwahanol fel a ganlyn: Y cam Ailddechrau; y Cyfnod Diwygio; a'r Cyfnod Adnewyddu.
Yn cefnogi'r strategaeth adfywio mae cyfres o uwchgynlluniau sy'n nodi cynigion safle-benodol ar sail ardal gyfan, gyda'r nod o wella llesiant mewn cymunedau lleol trwy ddarparu datblygiad cynaliadwy a chyflenwol, gan gynnwys tai, datblygiad economaidd, hamdden/adloniant a seilwaith. Ar ôl eu cwblhau, mae'r uwchgynlluniau hyn wedi'u mabwysiadu fel canllawiau cynllunio atodol.
Cynlluniau gweithredu canol tref