Uwchgynllun coed duon fwyaf (ebrill 2024)

Cynnwys

1. Cyflwyniad

2. Ardal yr Astudiaeth

3. Y Cyd-destun

4. Gweledigaeth ar gyfer Coed Duon Fwyaf

5. Strategaeth Ddatblygu

6. Fframwaith yr Uwchgynllun

7. Cyflawni a gweithredu newid

Atodiad 1: Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Atodiad 2: Asesu Cynigion Safle-Benodol yn erbyn Nodau Llesiant Cenedlaethol ac Amcanion Llesiant

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyflwyniad

Mae’r Uwchgynllun hwn yn cyflwyno’r cyfleoedd datblygu ac adfywio ar gyfer Coed Duon Fwyaf. Ei nod yw cryfhau’r economi a gwella’r amodau diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Mae gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) y potensial i ddenu buddsoddiad ac ysgogi gweithgarwch economaidd. Mae’n ceisio ail-gydbwyso economi’r rhanbarth drwy liniaru’r pwysau ar Gaerdydd a thrwy hyrwyddo twf mewn trefi llai a chymunedau diwydiannol. Mae’r Uwchgynllun hwn yn cyflwyno strategaeth ac ystod o brosiectau sy’n gydnaws â’r CCRCD.

Bydd Cronfa Fuddsoddi’r Fargen Ddinesig yn cynorthwyo cwblhau Metro’r De Ddwyrain. Mae gwelliannau i wasanaethau bysiau, sy’n darparu lefel uchel o hygyrchedd ledled yr ardal, yn rhan o’r pecyn cyffredinol. Disgwylir y bydd camau datblygu’r Metro yn y dyfodol yn creu gorsaf yng Nghrymlyn a chysylltiadau cyflymach drwy ardal yr Uwchgynllun.

Fel fframwaith cynhwysfawr ond hyblyg, bydd yr Uwchgynllun yn cael ei adolygu yn unol â’r Strategaeth Adfywio (‘Sylfaen ar gyfer Llwyddiant’ yw’r fersiwn ddiweddaraf) a phedwar Uwchgynllun arall sy’n eistedd oddi tani. Mae’n bosibl y bydd rhai prosiectau wedi’u cwblhau cyn yr adolygiad cyntaf, ond bydd eraill yn cymryd mwy na phum mlynedd i’w cwblhau.

Mae’r Strategaeth Adfywio gyfredol (‘Sylfaen ar gyfer Llwyddiant’) yn nodi pedair thema allweddol:

  • Cefnogi Busnes
  • Cysylltu Pobl a Llefydd
  • Cefnogi Pobl
  • Cefnogi Ansawdd Bywyd.

Mae’r Uwchgynllun yn trafod datblygiad yn gyffredinol, ond mae hefyd yn nodi safleoedd y dylid eu gwarchod, eu datblygu neu eu hailddatblygu. Mae’n cefnogi cynigion am dai mewn lleoliadau cynaliadwy ac yn annog mwy o weithgarwch yn yr economi ymwelwyr, busnes, hamdden, ac addysg. Mae’n ceisio sefydlu Coed Duon fel canolfan isranbarthol sydd â chysylltiadau da at rannau eraill o ardal yr Uwchgynllun a’r Fwrdeistref Sirol ehangach.

Mae pedwar o’r pum Uwchgynllun sy’n eistedd o dan ‘Sylfaen ar gyfer Llwyddiant’ wedi’u paratoi a’u cymeradwyo fel a ganlyn:

  • Uwchgynllun Basn Caerffili (Gorffennaf 2018)
  • Uwchgynllun Ystrad Mynach (Ebrill 2019)
  • Uwchgynllun Ardal Adfywio Blaenau’r Cymoedd (Tachwedd 2020)
  • Uwchgynllun Cwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf (Hydref 2022)

Mae’r Strategaeth Adfywio a’r Uwchgynlluniau cysylltiedig yn darparu sylfaen ar gyfer nodi a manteisio ar gyfleoedd cyllid grant ac adfywio i wella’r Fwrdeistref Sirol.

Mae’r Uwchgynllun yn cynnwys sawl cynnig sy’n ystyried Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r CDLl yn gosod amcanion o ran defnydd o dir ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a hefyd nodau mwy hirdymor sy’n ymestyn i’r degawd nesaf. Bydd y CDLl diwygiedig (yr ail Gynllun Datblygu Lleol sy’n disodli’r cyntaf) yn darparu’r fframwaith polisi ar gyfer datblygu tan 2035.

Ardal yr astudiaeth

Mae Coed Duon Fwyaf yn agos i ganol Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n ddigon pell o Gaerffili, Caerdydd a Chasnewydd i fod yn ardal ar wahân, gyda’i sectorau diwydiannol, masnachol, hamdden a thwristiaeth ei hun.

Yn 2021, roedd gan yr ardal boblogaeth o 23,500 (ffynhonnell: cyfrifiad 2021), ac mae’n cynnwys 23 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, y mae saith o’r rhain (Coed Duon 2, Cefn Fforest 1, Cefn Fforest 2, Crymlyn 3, Pengam 1, Pengam 2, a Phontllan-fraith 2) yn y 25% o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is isaf yng Nghymru, a fesurir ar sail amddifadedd cyffredinol. Mae amddifadedd yn dueddol o gronni mewn ardaloedd adeiledig.

Mae’r CDLl Mabwysiedig yn nodi tair ardal strategaeth yn y Fwrdeistref Sirol: Ardal Adfywio Blaenau’r Cymoedd, y Dramwyfa Cysylltiadau Gogleddol, a’r Dramwyfa Cysylltiadau Deheuol. Mae ardal yr Uwchgynllun yn ffurfio rhan ddwyreiniol y Dramwyfa Cysylltiadau Gogleddol.

Yng Nghoed Duon Fwyaf mae Prif Ganol Tref (Coed Duon) a thair canolfan gymdogaeth (Cefn Fforest, Crymlyn ac Oakdale). Mae'n cynnwys wardiau Coed Duon, Cefn Fforest a Phengam, Crymlyn, Maes-y-cwmwr, Penmaen, a Phontllan-fraith.

Prif sectorau cyflogaeth Coed Duon Fwyaf yw gweithgynhyrchu, cyfanwerthu/manwerthu, addysg, gweinyddiaeth gyhoeddus a iechyd dynol. Mae’r CDLl Mabwysiedig yn amddiffyn 11 safle cyflogaeth yn ardal yr Uwchgynllun, sef: Llwyfandir 2, Parc Busnes Oakdale; Pen-y-fan, Croespenmaen; Croespenmaen, Oakdale; Penmaen; Heol Newbridge, Pontllan-fraith; Tram Road, Pontllan-fraith; Switchgear, Pontllan-fraith; Woodfieldside, Pontllan-fraith; St. David’s, Pengam; Britannia, Pengam; a Pharc Hawtin, Gellihaf. Gyda’i gilydd, mae gan y rhain ardal gyfunol o tua 171 hectar.

Y prif atyniadau i ymwelwyr yng Nghoed Duon Fwyaf a’r cyffiniau yw:

  • Sefydliad Lles y Glowyr Coed Duon (a elwir yn ‘BMI’);
  • Gwesty a Chlwb Gwledig a Golff Bryn Meadows (cyfleuster 4*);
  • Parc Eco Cefn Fforest;
  • Pont a cherflun y Siartwyr;
  • Gwesty Maes Manor (cyfleuster 3* rhestredig);
  • Traphont Maes-y-cwmwr-Hengoed;
  • Pentref Model Oakdale;
  • Pwll Pen-y-Fan;
  • Maes Carafanau Pen-y-fan.

Mae’r prif lwybrau trafnidiaeth yn cynnwys yr A469, yr A472, y B4251, y B4254, yr A4048 a’r B4252. Mae’r gorsafoedd rheilffordd agosaf (Pontnewydd, Hengoed, Pengam ac Ystrad Mynach) y tu allan i ardal yr Uwchgynllun, ond disgwylir y bydd prosiectau Metro Plus De Cymru yn darparu gorsaf newydd yng Nghrymlyn yn yr hirdymor. Mae gan ganol tref Coed Duon orsaf fysiau fodern, ac mae gwasanaethau bws aml yn caniatáu i bobl deithio o fewn a thu hwnt i ardal yr Uwchgynllun.

Y cyd-destun

Wrth ddarparu’r cyd-destun ar gyfer yr Uwchgynllun, mae’n bwysig deall y cryfderau, y gwendidau, y cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghoed Duon Fwyaf.

Cryfderau

  • Tirwedd deniadol.
  • Sylfaen cyflogaeth cryf ac eang.
  • Mae gan ganol tref Coed Duon gymysgedd cryf o fanwerthwyr cenedlaethol a busnesau annibynnol, ac mae wedi perfformio’n rhesymol dda er gwaethaf heriau Covid a newidiadau yn y byd manwerthu.
  • Mae economi nos a gyda’r hwyr canol tref Coed Duon yn gryf, diolch i bresenoldeb Sinema Maxime (yr unig sinema yn y Fwrdeistref Sirol), Sefydliad y Glowyr Coed Duon, a Blackwood Little Theatre).
  • Rhwydwaith da o lwybrau teithio llesol gyda chysylltiadau rhagorol â’r rhwydwaith beicio cenedlaethol.
  • Mae’r A472 yn cynnwys rhan o’r dramwyfa strategol canol y cymoedd dwyrain-gorllewin, gan ddarparu cysylltiad strategol drwy ardal yr Uwchgynllun. Mae’r llwybr hwn bellach yn cael ei ystyried ar gyfer llwybr tramwy cyflym ar y Metro yn y dyfodol.
  • Mae cysylltiadau gogledd-de da i Dredegar a Chasnewydd.
  • Mae Ffordd Fenter Sirhywi yn darparu mynediad ardderchog o Goed Duon i brif ganolfan cyflogaeth y Fwrdeistref Sirol, sef Parc Busnes Oakdale ac Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan.
  • Parciau cyhoeddus deniadol.
  • Mae ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg (Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Fleur-de-Lys) yn helpu i hybu’r Gymraeg.
  • Mae Maes Manor a Chwrs Golff Bryn Meadows yn cynnig atyniad o ansawdd da i ymwelwyr.
  • Mae gan y rhan fwyaf o aneddiadau ystod a dewis da o dai.

Heriau

  • Mae nifer uwch na chyfartaledd Cymru o bobl wedi’u cyflogi yn y sector gweithgynhyrchu, sy’n fregus i effeithiau dirwasgiad.
  • Mae bron i 8% o’r boblogaeth mewn iechyd gwael neu wael iawn (cyfrifiad 2021).
  • Mae llawer o’r busnesau yng nghanol y dref mewn hen adeiladau bach.
  • Mae rhannau o ganol tref Coed Duon yn edrych wedi dyddio.
  • Nid yw trigolion ac ymwelwyr yn cael digon o wybodaeth am atyniadau lleol.
  • Nid oes digon o lety i ymwelwyr.
  • Nid oes gorsaf reilffordd gan Goed Duon Fwyaf, a gellid gwella’r opsiynau teithio heb gar rhwng gorsafoedd cyfagos (Pontnewydd, Hengoed, Pengam ac Ystrad Mynach).
  • Mae llwybr strategol yr A472 drwy Faes-y-cwmwr yn dioddef tagfeydd ar adegau prysur.

Cyfleoedd

  • Ymagwedd fwy hyblyg tuag at ddefnydd o dir yng nghanol y dref.
  • Creu strydoedd mwy bywiog yng nghanol tref Coed Duon drwy annog mannau ar gyfer defnydd dros dro, stondinau dros dro, marchnadoedd a chynyddu nifer y digwyddiadau yng nghanol y dref.
  • Metro De Cymru a Metro Plus (gwasanaethau rheilffordd gwell a llwybr cyflym canol y cymoedd ar hyd yr A472 a fydd yn ei gwneud yn haws cyrraedd canol tref Coed Duon).
  • Cysylltiadau â’r rhwydwaith llwybr beicio ledled y Cymoedd drwy’r rhwydweithiau teithio llesol a beicio cenedlaethol.
  • Ffynonellau newydd o gyllid adfywio.
  • Gwneud gwell defnydd o ofodau agored cyhoeddus er budd trigolion ac ymwelwyr.
  • Gallai newidiadau mewn patrymau gwaith leihau tagfeydd ar y ffyrdd ar adegau brig traddodiadol.

Peryglon

  • Chwyddiant a dirwasgiad ar ôl cau busnesau (colli swyddi, toriadau i wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys trafnidiaeth), gostyngiad mewn sylfaen manwerthu).
  • Cystadleuaeth gan ganolfannau manwerthu a hamdden mwy (gan gynnwys siopau tu allan i drefi).
  • Siopa ar y rhyngrwyd.
  • Mae’n bosibl y bydd llai o gyllid adfywio ar gael.
  • Poblogaeth sy'n heneiddio.

Gweledigaeth ar gyfer coed duon fwyaf

Mae’r dadansoddiad yn Adran 3 yn arwain at Weledigaeth sy’n ceisio gwneud y gorau o gryfderau a chyfleoedd Coed Duon Fwyaf:

‘Bydd Coed Duon Fwyaf yn lle dengar a ffyniannus lle bydd pobl yn dewis byw, gweithio a threulio eu hamser rhydd yno. Bydd tai newydd yn bodloni anghenion lleol mewn lleoliadau cynaliadwy, a bydd canol tref Coed Duon yn brysur ac yn gymdeithasol gyda’r dydd a’r nos. Bydd gan yr ardal economi gref ac amrywiol, system drafnidiaeth effeithlon ac amgylcheddol gyfrifol, a chyfleusterau cymunedol cynaliadwy sy’n hybu llesiant.’

Cefnogir y Weledigaeth gan Amcanion Strategol (gweler A – F isod) a fydd yn llywio ei chyflawniad ac yn trosi'n uniongyrchol i gyfres o brosiectau a chamau gweithredu.

Amcanion Strategol

A. Diogelu a gwella statws Coed Duon Fwyaf fel canolfan gyflogaeth isranbarthol drwy wneud y canlynol:

  • Diogelu safleoedd cyflogaeth sefydledig;
  • Ailddatblygu tir cyflogaeth gwag neu wedi’i danddefnyddio;
  • Nodi safleoedd ar gyfer dibenion newydd sy’n creu swyddi;
  • Amrywio defnydd yng nghanol tref Coed Duon (gweler Amcan B);
  • Annog datblygiad priodol mewn canolfannau masnachol llai;
  • Gwella’r economi ymwelwyr (gweler Amcan C); a
  • Chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion, colegau a chyflogwyr.

Mae’n bwysig gwneud y mwyaf o bob cyfle cyflogaeth. Mae cynnal a gwarchod y safleoedd cyflogaeth presennol, ailddatblygu tir gwag neu sy’n cael ei danddefnyddio, a manteisio ar gyfleoedd a gyflwynir mewn sectorau eraill o’r economi yn elfennau allweddol wrth sefydlu hyn. Dylai hefyd fod modd nodi safleoedd ar gyfer dibenion newydd sy’n creu swyddi.

B. Sefydlu canol tref Coed Duon fel canolfan isranbarthol sy’n ddeniadol, yn hygyrch ac yn brysur yn y dydd a’r nos.

Gall canol tref Coed Duon, gyda'i sinema, gorsaf fysiau, siopau, tafarndai, caffis a lleoliadau adloniant, fod yn ganolbwynt diwylliant a masnach isranbarthol. Gan fod arferion siopa wedi newid, mae’r Uwchgynllun yn ceisio ehangu’r economi nos a gyda’r hwyr, a chreu treflun mwy deniadol ac addas i gerdded ynddo. Bydd datblygiadau defnydd cymysg yn helpu i brysuro canol y dref a’i wneud yn fwy cymdeithasol gyda’r dydd a gyda’r hwyr. Bydd yr Uwchgynllun yn annog ‘teithiau cysylltiedig’ rhwng canol y dref ac atyniadau eraill yng Nghoed Duon Fwyaf.

C. Ehangu ac amrywio’r economi ymwelwyr.

Bydd ehangu ac amrywio’r economi ymwelwyr yn helpu i ysgogi gweithgarwch economaidd. Yn debyg i weddill y Fwrdeistref Sirol, mae angen mwy o lety i ymwelwyr ar Goed Duon Fwyaf. Dylid annog pobl i ymweld ag atyniadau yn yr ardal. Bydd gwelliannau mewn teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cefnogi’r amcan hwn.

D. Gwella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghoed Duon Fwyaf a thu hwnt.

Mae’r Uwchgynllun yn ceisio gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng ardaloedd preswyl, canolfannau masnachol, safleoedd cyflogaeth ac atyniadau ymwelwyr. Mae gan system drafnidiaeth well botensial i ysgogi gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd a chreu cymuned fwy teg a chynhwysol.

E. Hyrwyddo llesiant drwy wella neu greu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy.

Gall cyfleusterau cymunedol (e.e. canolfannau cymunedol, ysgolion cynradd/uwchradd, parciau, cefn gwlad, caeau chwaraeon a’n canolfannau hamdden strategol) helpu pobl i fod yn weithgar yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn gorfforol. Lle mae achos busnes, byddwn ni’n buddsoddi mewn cyfleusterau strategol allweddol i sicrhau eu bod yn briodol, yn ddeniadol, yn ysbrydoledig ac yn gyfleus i ffyrdd o fyw, gan weithio i gynyddu effaith yr holl amwynderau cymunedol yn unol â Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor.

F. Darparu tai a fydd yn bodloni anghenion lleol mewn lleoliadau cynaliadwy.

Mae angen tai ‘marchnad’ a ‘fforddiadwy’ ar Goed Duon Fwyaf. Bydd yr Uwchgynllun yn rhoi blaenoriaeth i ailddatblygu tir gwag, wedi’i danddefnyddio a/neu ‘dir llwyd’ ar gyfer tai mewn llefydd hawdd eu cyrraedd.

Strategaeth ddatblygu

Bydd yr adran hon yn nodi’r strategaeth ddatblygu yn ardal yr Uwchgynllun. Bydd safleoedd penodol yn cael eu hystyried yn yr adran nesaf (‘Fframwaith yr Uwchgynllun’).

Newid hinsawdd a datgarboneiddio

Mae Cytundeb Paris 2015, a fabwysiadwyd gan 196 o wledydd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, yn ceisio cadw’r ‘cynnydd yn y tymheredd cyfartalog byd-eang ymhell o dan 2°C yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol’, ac yn ymdrechu ‘i gyfyngu’r cynnydd mewn tymheredd i 1.5°C yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol’.

Ynghyd â Llywodraeth Cymru, datganodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili argyfwng hinsawdd yn 2019. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Mae datgarboneiddio’n ymwneud â lleihau, ac yn y pen draw, cael gwared ag allyriadau CO2 sy’n gysylltiedig â gweithgarwch dynol. Yn ymarferol, bydd yr ymdrech ddatgarboneiddio yn cynnwys symud o danwydd ffosil i ffynonellau ynni carbon isel amgen.

Mae gan Strategaeth Datgarboneiddio’r Cyngor bedair egwyddor: Lleihau, Cynhyrchu, Gwrthbwyso a Phrynu. Bydd y Cyngor yn lleihau lefelau defnyddio, yn cynhyrchu ei drydan gwyrdd glân ei hun, yn gwrthbwyso allyriadau carbon, ac yn ceisio cyfyngu ar ei effaith carbon drwy'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae'n eu prynu. Mae’r Cyngor yn bwriadu:

  • Lleihau’r defnydd o garbon mewn adeiladau (hen a newydd), goleuadau stryd, trafnidiaeth a rheoli gwastraff;
  • Cynhyrchu trydan a gwres gwyrdd;
  • Defnyddio ffynonellau ynni naturiol (er enghraifft, hydrogen);
  • Gwrthbwyso allyriadau carbon (plannu coed, rheoli coetiroedd presennol, ail-wylltio gwlyptiroedd, defnyddio atebion draenio cynaliadwy, dargyfeirio’r defnydd o danwydd ffosil, buddsoddi mewn diwydiannau cynaliadwy); a
  • Phrynu gan gynhyrchwyr cynaliadwy a/neu leol.

Cymaint â phosibl, dylai’r prosiectau a nodwyd yn yr Uwchgynllun hwn ac unrhyw gynlluniau llunio lleoedd dilynol ddilyn egwyddorion y Strategaeth Datgarboneiddio.

Cyflogaeth a sgiliau

Mae 11 safle yn ardal yr Uwchgynllun sydd wedi’u gwarchod at ddefnydd cyflogaeth yn y CDLl Mabwysiedig, fel a ganlyn:

  • Llwyfandir 2, Parc Busnes Oakdale (safle cynradd) (13.04 hectar)
  • Pen-y-fan, Croespenmaen (safle cynradd) (73.01 hectar)
  • Croespenmaen, Oakdale (safle eilaidd) (6.53 hectar)
  • Croespenmaen, Oakdale (safle eilaidd) (5.95 hectar)
  • Heol Newbridge, Pontllan-fraith (safle eilaidd) (12.75 hectar)
  • Tram Road, Pontllan-fraith (safle eilaidd) (2.49 hectar)
  • Switchgear, Pontllan-fraith (safle eilaidd) (10.06 hectar)
  • Switchgear, Pontllan-fraith (safle eilaidd) (1.94 hectar)
  • St. David’s, Pengam (safle eilaidd) (5.16 hectar)
  • Britannia, Pengam (safle eilaidd) (2.88 hectar)
  • Parc Hawtin, Gellihaf (safle cynradd) (29.82 hectar)

Mae’r safleoedd hyn yn darparu oddeutu 164 hectar o gyfleoedd cyflogaeth, ac mae’n hanfodol bod y safleoedd hyn yn parhau i gael eu gwarchod yn yr ail CDLl sy’n disodli’r cyntaf. Er bod angen gwarchod y safleoedd hyn i gadw eu statws cyflogaeth, mae hefyd yn bwysig bod modd iddynt esblygu i ateb anghenion busnes y dyfodol, a dylid defnyddio ymagwedd hyblyg tuag at eu moderneiddio a’u hailddatblygu.

Dyrannwyd pedwar Llwyfandir cyflogaeth ym Mharc Busnes Oakdale at ddefnydd cyflogaeth yn y CDLl Mabwysiedig. Mae Llwyfandir 3 wedi cael ei ailddatblygu ar gyfer Ysgol Uwchradd Islwyn, ac mae gwaith datblygu cyflogaeth wedi digwydd ar Lwyfandir 1, 2 a 4. Disgwylir i’r darnau o dir sy’n weddill ar y Llwyfandir gael eu defnyddio yn y tymor byr i ganolig.

Fel gweddill y Fwrdeistref Sirol, mae angen mentrau bach a chanolig ac unedau busnesau ‘cychwynnol’ ar Goed Duon Fwyaf, ond mae hefyd angen safleoedd mwy arno a fydd yn denu cyflogwyr newydd ac yn galluogi busnesau sefydledig i ehangu. Mae’n bwysig bod modd i bobl gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd safleoedd cyflogaeth mawr, yn enwedig Parc Busnes Oakdale.

Yr economi sylfaenol (gan gynnwys yr economi ymwelwyr)

Mae’r economi sylfaenol yn cynnwys gwasanaethau a chynhyrchion sylfaenol sy’n ein cadw ni’n ddiogel, yn iach ac yn waraidd. Mae elfennau o’r economi sylfaenol yn cynnwys:

  • Gwasanaethau iechyd a gofal
  • Bwyd
  • Tai
  • Ynni
  • Adeiladu
  • Twristiaeth
  • Manwerthwyr ar y stryd fawr 

Mae Cymdeithas Twristiaeth Caerffili, sef grŵp o fusnesau twristiaeth lleol, eisoes yn hysbysebu atyniadau’r Fwrdeistref Sirol i ddarpar ymwelwyr. Er mwyn bod ag economi ymwelwyr gryfach, bydd ar Goed Duon Fwyaf angen mwy o atyniadau amlwg, mwy o lety i ymwelwyr, a theithiau haws rhwng atyniadau, canolfannau masnachol a chyfleusterau hamdden. Yn agos i Goed Duon Fwyaf mae nifer o atyniadau rhanbarthol pwysig i ymwelwyr hefyd, fel Coedwig Cwmcarn, Parc Coedwig Afan, Castell Rhaglan, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy (AHNE). Mae’r Uwchgynllun yn ceisio ehangu ar yr economi sylfaenol drwy amcanion strategol B, C, D ac F.

Canol tref coed duon

Dylai canol tref Coed Duon fod yn ddiogel, yn ddengar ac yn brysur yn ystod y dydd a’r nos. Yn ogystal â bod â chymysgedd o ddefnydd cydnaws, dylai fod yn hawdd ei gyrraedd o ardaloedd eraill Coed Duon Fwyaf. Dylai gael ei adnabod fel man lle gall pobl byw, gweithio, dysgu a mwynhau treulio amser gyda’i gilydd.

Trafnidiaeth a chysylltedd

Mae’r prif lwybrau trafnidiaeth yn yr Uwchgynllun yn cynnwys yr A469, yr A472, y B4251, y B4254, yr A4048 a’r B4252. Mae’r gorsafoedd rheilffordd agosaf y tu allan i ardal yr Uwchgynllun, ond disgwylir y bydd prosiectau Metro Plus De Cymru yn darparu gorsaf newydd yng Nghrymlyn, a fyddai’n gwasanaethu Parciau Busnes Oakdale a Phen-y-fan yn well. Mae gan ganol tref Coed Duon orsaf fysiau, ac mae gwasanaethau bws aml yn caniatáu i bobl deithio o fewn a thu hwnt i ardal yr Uwchgynllun. Gallai prosiect Metro Plus De Cymru greu llwybr tramwy cyflym o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd yr A472. Byddai’r llwybr hwn yn cynyddu hygyrchedd i Goed Duon a’r ganolfan gyflogaeth yn Oakdale/Pen-y-fan. Byddai gwasanaeth aml a chyflym dwyrain-gorllewin yn darparu cyswllt hanfodol i’r llwybrau metro gogledd-de presennol er mwyn cynyddu hygyrchedd a chysylltedd, a symleiddio teithiau i lefydd fel Caerffili a Pharc Busnes Oakdale.

Teithio llesol

Mae’r term ‘teithio llesol’ yn cyfeirio at deithiau ‘pwrpasol’ a gaiff eu gwneud ar droed, mewn cadair olwyn neu ar feic. Gallai cyrchfan ‘taith teithio llesol’ fod yn weithle, yn ysgol, yn siop, yn orsaf rheilffordd, neu’n atyniad ymwelwyr. Gall llwybrau teithio llesol wella iechyd y cyhoedd a golygu bod llefydd yn haws eu cyrraedd. Mae’r strategaeth datblygu yn ceisio datblygu’r economi leol drwy gysylltu atyniadau, canol trefi a safleoedd cyflogaeth mawr (er enghraifft, Parc Busnes Oakdale). Mae eisoes gan Goed Duon Fwyaf rwydwaith eang o lwybrau teithio llesol, ac mae’r rhain wedi’u nodi, yn ogystal â gwelliannau posibl i’r rhwydwaith, ym Map Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor (gweler prosiect D2 am ragor o fanylion).

Cyfleusterau cymunedol

Bydd yr Uwchgynllun yn cefnogi’r gwaith o wella cyfleusterau cynaliadwy yn unol â’r CDLl mabwysiedig a Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor. Bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o greu cyfleusterau cymunedol mewn lleoliadau addas.

Tai

Am resymau cymdeithasol ac amgylcheddol, dylid dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd cyn gynted â phosibl. Gall tir sy’n cael ei defnyddio mewn lleoliadau cynaliadwy fod yn addas ar gyfer tai, a gall adeiladau masnachol gwag fod yn addas i’w troi’n fflatiau neu’n dai. Mae angen tai wedi’u hadeiladu o’r newydd ar Goed Duon Fwyaf, ac mae’r CDLl Mabwysiedig yn dyrannu safleoedd tir llwyd a thir glas i’w datblygu. Gall prosiectau ‘safleoedd ar hap’ fel yn hen Ysgol Gyfun Oakdale a Phentref Gerddi’r Siartwyr (cyn swyddfeydd y Cyngor), Pontllan-fraith, hefyd helpu i ddiwallu’r angen am dai ‘marchnad’ a ‘fforddiadwy’ (gweler prosiectau F4 ac F6 yr Uwchgynllun, yn y drefn honno).

Fframwaith yr uwchgynllun

Mae’r adran hon yn nodi’r cynigion safle-benodol a fydd yn helpu i gyflawni’r weledigaeth hon ar gyfer ardal yr Uwchgynllun. Mae llawer o’r prosiectau’n gysylltiedig â’i gilydd, ond gellid cyflawni rhai ohonynt yn unigol.

A. Diogelu a gwella statws ardal yr Uwchgynllun fel canolfan gyflogaeth isranbarthol trwy wneud y canlynol:

  • Diogelu safleoedd cyflogaeth sefydledig;
  • Ailddatblygu tir cyflogaeth gwag neu wedi’i danddefnyddio;
  • Nodi safleoedd ar gyfer dibenion newydd sy’n creu swyddi;
  • Amrywio defnydd yng nghanol tref Coed Duon;
  • Annog datblygiad priodol mewn canolfannau masnachol llai;
  • Gwella neu greu atyniadau ymwelwyr; a
  • Chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion, colegau a chyflogwyr.

A1 – llwyfandir oakdale, oakdale

Mae’r safleoedd hyn un ai wedi’u neilltuo neu eu gwarchod at ddibenion cyflogaeth yn y CDLl (gweler polisïau EM1.3: Llwyfandir, Oakdale (safle cynradd), EM1.4: Llwyfandir 2, Oakdale (safle cynradd), EM1.5: Llwyfandir 3, Oakdale (safle cynradd) ac EM1.6: Llwyfandir 4, Oakdale (safle cynradd)). Mae’r ‘llwyfandiroedd’ yn rhannau o Barc Busnes Oakdale, sef cyn bwll glo 400 erw sydd â chymysgedd o swyddfeydd ac adeiladau diwydiannol.

Mae Llwyfandir 1 yn y broses o gael ei werthu i Lywodraeth Cymru. Ar ôl ei brynu, mae LlC wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £3 miliwn yn y safle i ddarparu’r seilwaith angenrheidiol i hwyluso ei ailddatblygiad yn y dyfodol.

Llwyfandir 2: Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sefydlu Menter Gogledd y Cymoedd (NVI) a fydd yn edrych yn benodol ar fynd i’r afael â heriau hyfywedd ar draws nifer o ardaloedd â ffocws, gydag un o’r rhain yn safleoedd ac eiddo strategol. Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy’r Fenter hon i gyflawni’r gwaith paratoi angenrheidiol i ddatgloi Llwyfandir 2 er mwyn galluogi’r sector preifat i ailddatblygu’r safle a chreu swyddi ychwanegol.

Mae Llwyfandir 4 yn debygol o gael ei werthu i ddatblygwyr preifat unwaith y bydd materion technegol wedi’u trefnu.

Egwyddorion datblygu:

  • Creu clwstwr o ddefnyddiau sy’n creu swyddi yn agos at dai, seilwaith trafnidiaeth a llwybrau beicio arfaethedig;
  • Ymestyn y ffordd fynediad a rhoi tir heb ei ddatblygu ar gael i adeiladau bach ‘cychwynnol’;
  • Cynyddu statws a buddsoddiad yng Nghoed Duon Fwyaf;
  • Amrywio sail cyflogaeth ac economi’r ardal.

A2 – gwarchod, uwchraddio neu ailddatblygu safleoedd cyflogaeth presennol

Mae’r CDLl Mabwysiedig wedi nodi 11 safle cyflogaeth i’w gwarchod o dan bolisi EM2. Gyda’i gilydd, mae’r safleoedd hyn yn darparu tua 164 hectar o dir ac yn darparu ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth sy’n bodoli. Mae’n hanfodol bod y safleoedd hyn yn cael eu gwarchod, eu huwchraddio neu eu hailddatblygu os ydynt yn dod yn wag neu’n cael eu tanddefnyddio.

B. Sefydlu canol tref Coed Duon fel canolfan isranbarthol sy’n ddeniadol, yn hygyrch ac yn brysur yn y dydd a’r nos.

B1 – sgwâr y coed duon, coed duon

Byddai sgwâr newydd a/neu farchnad yn y dref, wedi’i amgylchynu gan gymysgedd o ddefnyddiau cydnaws, yn prysuro canol y dref ac yn ei wneud yn fwy deniadol.

Egwyddorion datblygu:

  • Ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol;
  • Creu swyddi ac ysgogi gweithgarwch economaidd yng nghanol y dref;
  • Helpu i gynnal anheddiad diffiniedig a chanol tref diffiniedig;
  • Dylai’r safle a ddatblygir greu ac ymuno ag amgylchedd sy’n ddiogel ac yn gyfleus i deithwyr llesol;
  • Cyfle i ychwanegu at y gymysgedd o ddefnyddiau yng nghanol y dref.

B2 – defnyddiau amrywiol, adeiladau wedi’u hadnewyddu, unedau gwag

Dylai adeiladau amlwg gael eu cynnal a, lle bo’n bosibl, eu gwella, a bydd datblygiadau defnydd cymysg yn helpu i brysuro canol y dref yn ystod y dydd a’r nos. Er enghraifft, gyda chymorth Cyllid Trawsnewid Trefi LlC, mae ‘Store 21’ gynt (87-88 y Stryd Fawr) wedi’i ailddatblygu yn bum siop llai a naw fflat. Dylai ymagwedd hyblyg tuag at reoli’r canol annog y defnydd o unedau gwag ar gyfer digwyddiadau untro neu fusnesau dros dro.

B3 – gwelliannau amgylcheddol a hygyrchedd

Mae Cynllun Llunio Lleoedd ar gyfer canol tref Coed Duon wrthi’n cael ei baratoi. Bydd y cynllun yn ystyried canol y dref yn ei gyfanrwydd, ac yn gwneud argymhellion ar gyfleoedd i ailddatblygu, amrywio a gwelliannau amgylcheddol er mwyn gwella hunaniaeth gref y dref. Gallai llwybrau treftadaeth arfaethedig helpu i gynyddu nid yn unig nifer yr ymwelwyr ond hefyd hyd ymweliad arferol.

B4 – economi’r nos a gyda’r hwyr

Mae Sinema Maxime, Sefydliad y Glowyr Coed Duon (BMI), Little Blackwood Theatre a sawl tafarn eisoes yn denu trigolion ac ymwelwyr i ganol y dref gyda’r nos. Serch hynny, byddai tref maint Coed Duon yn elwa ar fwy o fariau, bwytai a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Bydd yr Uwchgynllun yn cefnogi ymdrechion i ehangu economi’r nos a gyda’r hwyr, a hysbysebu canol y dref fel ‘pecyn’ o atyniadau gyda’r nos.

B5 – digwyddiadau canol tref

Cynhaliodd canol y dref ‘barti traeth trefol’ ym mis Gorffennaf 2023, a bydd ffair fwyd a chrefft ar thema’r gaeaf yn cael ei chynnal bob mis Tachwedd. Gallai mathau eraill o wyliau ac arddangosfeydd apelio i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Gallai gŵyl fwyd a diod adnabyddus, er enghraifft, helpu i sefydlu Coed Duon fel canolfan isranbarthol, gan wneud y dref a’r ardal gyfagos yn fwy deniadol i fuddsoddwyr a datblygwyr. Byddwn yn archwilio digwyddiad i ddathlu hanes glofaol cyfoethog yr ardal, gan gyfeirio pobl at lwybrau treftadaeth a thynnu sylw at Sefydliad y Glowyr Coed Duon a’i bensaernïaeth unigryw.

C1 – sefydliad y glowyr coed duon (‘bmi’)

Adeiladwyd Sefydliad y Glowyr Coed Duon (a gaiff ei alw’n ‘BMI’) fel neuadd snwcer yn 1925. Roedd ychwanegiadau diweddarach yn cynnwys ystafell ddarllen, llwyfan, ystafelloedd ymarfer ar gyfer cymdeithasau lleol, a’r Brif Neuadd. Ar ôl i byllau glo ddechrau cau yn y 1970au, aeth y BMI yn adfail a chafodd ei werthu yn y pen draw i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym 1989. Mae bellach yn lleoliad adloniant sydd â rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau. Bydd y rheolwyr yn trefnu mwy o ddigwyddiadau awyr agored i ddenu ymwelwyr newydd i’r ardal.

Egwyddorion datblygu:

  • Hyrwyddo Sefydliad y Glowyr Coed Duon fel atyniad isranbarthol;
  • Ehangu’r ystod o ddigwyddiadau i gynnwys digwyddiadau awyr agored a digwyddiadau eraill;
  • Cynyddu’r defnydd o’r cyfleusterau ategol gan gynnwys gofodau cyfarfod, stiwdio ddawns a gwasanaethau lletygarwch;
  • Gosod y BMI yng nghanol y ‘pecyn’ o atyniadau gyda’r nos.

D. Gwella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghoed Duon Fwyaf a thu hwnt.

D1 – metro de cymru a metro plus

Bydd rhaglenni Metro De Cymru a Metro Plus yn arwain at y gwelliannau canlynol yn ardal yr Uwchgynllun neu’n agos iddi:

  • Gwasanaethau rheilffordd mwy aml;
  • Gorsaf reilffordd yng Nghrymlyn (cynnig Metro Plus);
  • Gwelliannau i orsafoedd rheilffordd sy’n bodoli (amgylchedd mwy atyniadol, mynediad di-risiau);
  • Llwybr tramwy cyflym canol y cymoedd ar hyd cyswllt dwyrain-gorllewin strategol yr A472, gan gynyddu hygyrchedd i ganol tref Coed Duon a’r brif ganolfan gyflogaeth yn Oakdale/Pen-y-fan.

D2 – gwelliannau i orsafoedd rheilffordd llanhiledd a threcelyn

Bydd rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd yng ngorsaf reilffordd Trecelyn yn creu gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd, gan roi mwy o fynediad i drigolion ardal yr Uwchgynllun at swyddi, nwyddau a gwasanaethau. Bydd y rhaglen hefyd yn ehangu platfformau sy’n bodoli, yn creu platfformau newydd, ac yn gwella cyfleusterau yng ngorsaf Llanhiledd a Threcelyn.

D3 - teithio llesol

Mae Map Teithio Llesol y Cyngor yn nodi bron i 400 o welliannau i lwybrau cerdded a/neu feicio. Mae’r Map yn uchelgeisiol ac yn cyflwyno cynigion Teithiol Llesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Bydd y gwaith o ddatblygu a chyflawni’r cynigion yn dibynnu ar argaeledd cyllid. Aliniadau dangosol yw’r llwybrau a ddangosir, a all gael eu newid wrth i lwybrau gael eu datblygu ymhellach. Mae’r map ar gael yma:

HYPERLINK "https://datamap.gov.wales/maps/active-travel-network-maps/"

D4 – gwasanaethau bws

Mae gwasanaethau bws yn gweithredu yn ardal yr Uwchgynllun a thu hwnt, ond maent yn amrywio o ran amlder ac amseroedd. Er enghraifft, er bod Cyfnewidfa Coed Duon yn cynnig gwasanaethau yn gynnar yn y bore a gyda’r nos, mae gan Britannia wasanaeth bob hanner awr sy’n stopio cyn chwech o’r gloch y nos.

Mae Metro Plus De Cymru yn ystyried llwybr cyflym strategol canol y cymoedd a fydd yn cynyddu hygyrchedd i ganol dref Coed Duon a’r brif ganolfan gyflogaeth yn Oakdale/Pen-y-fan.

D5 - cerbydau trydan

Mae polisi Llywodraeth Cymru yn ffafrio’r defnydd o gerbydau trydan dros rai sydd â pheiriannau tanio mewnol. Mae pwyntiau gwefru ar gael ym meysydd parcio’r Cyngor ar y Stryd Fawr, yr Orsaf Drenau a Masnachwyr y Farchnad yng Nghoed Duon, ac mae cynnig ar eu cyfer ym maes parcio Maes y Sioe Coed Duon. Bydd yr Uwchgynllun yn cefnogi’r syniad o greu cynlluniau rhent a phwyntiau gwefru ar gyfer beiciau trydan.

E1 – blackwood little theatre, heol woodbine, coed duon

Sefydlwyd Blackwood Little Theatre ym 1929, sef grŵp theatr bach sy’n cynnal pantomeimiau, comedïau, dramâu a darnau cystadleuaeth ar gyfer pobl o bob oed yn y gymuned leol.

Egwyddorion datblygu:

  • Hyrwyddo’r lleoliad i ysgogi economi’r nos a gyda’r hwyr yng nghanol tref Coed Duon.

E2 – sefydliad y glowyr cefn fforest, bryn road, cefn fforest

Mae elusen wedi’i sefydlu i adfer a rheoli Sefydliad y Glowyr Cefn Fforest. Ar ôl sawl cam adnewyddu, bydd y sefydliad yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, addysgol, adloniadol a diwylliannol. Yn y pen draw, gallai fod â chaffi cymunedol, ystafelloedd cyfarfod, a swyddfeydd.

E3 – glofa navigation, crymlyn

Mae gan Lofa Navigation, sy’n wag ers 1967, gymysgedd o adeiladau rhestredig Gradd II a Gradd II*. Mae grŵp o wirfoddolwyr, Friends of the Navigation, yn bwriadu adfer yr adeiladau a’u hagor i fusnesau a grwpiau cymunedol. Efallai y bydd modd cynnal digwyddiadau a chynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ ar y safle hefyd.

Lluniwyd uwchgynllun drafft yn 2021, ond mae’n debygol y bydd angen i’r ‘Cyfeillion’ wneud cais am gyllid cyn i unrhyw waith datblygu mawr allu dechrau.

Pe bai prosiect y Metro yn creu gorsaf reilffordd yng Nghrymlyn, byddai gan Lofa Navigation gysylltiadau da â rhannau eraill o’r de.

Rhaglen Gwella Amgylcheddol SATC

Cyfres o safonau yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) y mae'n rhaid i bob cartref awdurdod lleol a chymdeithas tai yng Nghymru eu bodloni. Mae safon amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol ‘y dylai pob cartref gael ei leoli mewn amgylchedd y gall preswylwyr uniaethu ag ef ac y gallant fod yn falch o fyw ynddo’.

Mae’r prosiectau canlynol yn cael eu datblygu fel rhan o’r rhaglen hon:

E4 – canolfan siopa trinant, trinant

Bydd tirlunio, meinciau a goleuadau newydd yn gwneud canolfan siopa Trinant yn fwy deniadol ac yn fwy hygyrch. Dylai'r prosiect gael ei gwblhau yn 2023 a gallai gynyddu gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal.

E5 – parc sglefrio, maes chwarae, maes y sioe coed duon

Bydd parc sglefrio’n cael ei adeiladu rhwng maes chwarae i blant a champfa awyr agored cyn diwedd 2024. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu i gynyddu gweithgarwch cymdeithasol a chorfforol i sawl grŵp oedran.

E6 – parc maes-y-cwmwr, maes-y-cwmwr

Ers mis Rhagfyr 2021, mae'r Cyngor wedi gwella'r maes chwarae ac wedi adeiladu uned aml-chwarae a champfa awyr agored. Bydd parc sglefrio concrit yn cael ei adeiladu cyn diwedd 2024. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu i gynyddu gweithgarwch cymdeithasol a chorfforol i sawl grŵp oedran.

Addysg

Mae’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’n rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol hirdymor gyda’r nod o greu cenhedlaeth o Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghymru.

Y ‘weledigaeth’ ar gyfer Caerffili yw: ‘Darparu’r cyfleoedd gorau mewn bywyd i bob dysgwr ... drwy ddarparu addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel ar draws ein hysgolion.’

E7 – ysgol gyfun coed duon, coed duon

Gwella’r cyfleusterau yn Ysgol Gyfun Coed Duon, gan gynnwys system wresogi newydd, llenfuriau, to newydd a gwell ystafelloedd newid.

E8 – llyfrgell pengam, pengam

Bydd estyniad wedi’i adeiladu at y pwrpas yn cynnal sesiynau gofal plant Cymraeg ar ddiwrnodau ysgol. Bydd sesiynau bore a phrynhawn ar gael i blant dwy neu dair oed. Mae’n bosibl y bydd y gwasanaeth yn ehangu yn ôl y galw am ofal trwy’r dydd i blant cyn oed ysgol o bob oed.

E9 – ysgol gymraeg cwm derwen, oakdale

Bydd hen ystafelloedd dosbarth dros dro yn cael eu tynnu, bydd bloc pedair ystafell ddosbarth newydd yn creu 60 o leoedd ysgol, a bydd dau ddarparwr gofal plant cyfrwng Cymraeg yn symud i ran arall o’r ysgol.

E10 – hen ysgol gyfun pontllan-fraith, pontllan-fraith

Bydd Canolfan Dysgwyr Agored i Niwed yn cael ei hadeiladu ar un rhan o’r hen ysgol (gweler caniatâd cynllunio 22/0994/LA), ac mae cynnig ar gyfer neuadd chwaraeon pedwar cwrt, cae 3G amlddefnydd, a chanolfan seibiant yn rhywle arall ar y safle.

Egwyddorion datblygu:

  • Ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol;
  • Defnydd effeithlon o dir (datblygiad dwysedd uchel);
  • Creu cyfleusterau cymunedol;
  • Helpu i ateb y galw lleol am dai;

F. Darparu tai a fydd yn bodloni anghenion lleol mewn lleoliadau cynaliadwy.

Mae gan yr adran hon gymysgedd o safleoedd ‘newydd’ sydd â chaniatâd cynllunio, a safleoedd sydd wedi’u dyrannu yn y CDLl Mabwysiedig ac sydd ar gael i’w datblygu.

F1 – fferm cwm gelli, coed duon

Ym mis Ebrill 2016, rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar apêl (15/0252/OUT / APP/K6920/A/15/3137884) ar gyfer hyd at 120 o anheddau. Mae gwaith datblygu wedi dechrau ar y safle.

F2 – rhodfa pencoed, cefn fforest (hg1.27 yn y cdll mabwysiedig)

Mae rhan ddwyreiniol y safle wedi’i ddatblygu ar gyfer 16 o dai fforddiadwy, ac mae’r ardal orllewinol, y mae seilwaith ffordd newydd yn ei gwasanaethu, yn dal i fod yn addas, mewn egwyddor, ar gyfer tai.

F3 – tir yn fferm ton-y-felin, croespenmaen

Ym mis Medi 2020, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer codi 60 o anheddau (17/0888/FULL), ac mae’r gwaith datblygu wedi dechrau.

F4 – hen ysgol gyfun oakdale, oakdale

Mae’r ysgol wedi’i dymchwel, ac mae gan Cartrefi Caerffili ganiatâd cynllunio amlinellol (21/1192/OUT) i adeiladu hyd at 99 o dai (gyda thua hanner ohonynt yn ‘fforddiadwy’).

Egwyddorion datblygu:

  • Datblygiad dwysedd uchel;
  • Rhoi blaenoriaeth i gerdded, cadeiriau olwyn a beicio;
  • Cysylltu’r safle â llwybrau beicio presennol ac arfaethedig;
  • Helpu i ateb y galw lleol am dai;
  • Darparu gofod agored cyhoeddus.

F5 – gwesty cyffordd tredegar, pontllan-fraith

Rhoddwyd caniatâd cynllunio (12/0787/FULL, a adnewyddwyd o dan 18/0594/NCC) ar gyfer addasu’r hen dafarn yn saith fflat, a chodi chwe uned newydd yn y cefn.

F6 – pentref gerddi’r siartwyr (tŷ pontllan-fraith gynt), pontllan-fraith

Bydd gan Bentref Gerddi’r Siartwyr, y mae ei bensaernïaeth yn seiliedig ar y mudiad gardd-ddinasoedd gwreiddiol, 123 o anheddau (cymysgedd o dai a fflatiau), a bydd tua dwy ran o dair ohonynt yn ‘fforddiadwy’.

F7 – tir yn gellideg heights, maes-y-cwmwr (hg 1.40 yn y cdll mabwysiedig)

Mae’r safle pedwar hectar hwn yn dal i fod yn addas, mewn egwyddor, ar gyfer tai neu gymysgedd o ddefnyddiau.

Egwyddorion datblygu:

  • Ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol neu sy’n cael ei dan-ddefnyddio;
  • Defnydd effeithlon o dir (datblygiad dwysedd uchel);
  • Helpu i ateb y galw lleol am dai;
  • Gwella’r treflun lleol.

F8 – tŷ melin, croespenmaen

Bydd preswylwyr presennol yn cael eu symud o Dŷ Melin i gartrefi pwrpasol yn hen Ysgol Gyfun Oakdale (gweler prosiect F4). Bydd Cartrefi Caerffili yn clirio safle Tŷ Melin ac yn cysylltu â’r Adran Gynllunio i sefydlu a yw’r safle’n addas ar gyfer datblygu tai a/neu fflatiau newydd.

Egwyddorion datblygu:

  • Ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol neu sy’n cael ei dan-ddefnyddio;
  • Defnydd effeithlon o dir (datblygiad dwysedd uchel);
  • Helpu i ateb y galw lleol am dai;
  • Gwella’r treflun lleol.

F9 – tai gwarchod ynyswen, pontllan-fraith

Mae cynlluniau mewnol ac allanol wedi cael eu hailgyflunio i ddarparu 13 o fflatiau hygyrch, rampiau hygyrch i gadeiriau olwyn a mannau patio, mannau parcio newydd a baeau ambiwlans newydd.

Egwyddorion datblygu:

  • Helpu i ateb y galw lleol am dai gwarchod a thai hygyrch.

Cyflawni a gweithredu newid

Mae’r tabl isod yn nodi’r prosiectau a nodwyd yn Adran 7 yr adroddiad, yn ogystal â’r allbynnau disgwyliedig y bydd y prosiect yn eu cyflawni a sut bydd y cynigion hyn yn mynd i’r afael ag amcanion ‘Sylfaen ar gyfer Llwyddiant’. Mae’r tabl yn nodi costau dangosol pob cynllun ac yn amlygu unrhyw gyllid sydd wedi’i sicrhau hyd yma. Dylid nodi bod llawer o’r prosiectau hyn ar gam embryonig ac, felly, gellir ond amcangyfrif yr allbynnau a’r costau.

Amcan strategol yr Uwchgynllun Prosiect/cyfle Disgrifiad Allbwn/Allbynnau dangosol/disgwyliedig Amcanion y strategaeth adfywio Cyllid wedi’i sicrhau a chostau posibl
A. Diogelu a gwella statws Coed Duon Fwyaf fel canolfan gyflogaeth isranbarthol drwy wneud y canlynol:- Diogelu safleoedd cyflogaeth sefydledig;- Ailddatblygu tir cyflogaeth gwag neu wedi’i danddefnyddio;- Nodi safleoedd ar gyfer dibenion newydd sy’n creu swyddi;- Amrywio defnydd yng nghanol tref Coed Duon;- Annog datblygiad priodol mewn canolfannau masnachol llai;- Gwella'r economi ymwelwyr;- Cryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion, colegau a chyflogwyr. A1. Llwyfandir Oakdale, Oakdale Defnydd cyflogaeth - Swyddi ychwanegol SB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL3: Creu Ardal Fywiog I’w gadarnhau
A2. Gwarchod ac ailddatblygu safleoedd cyflogaeth presennol Gwarchod ac ailddatblygu safleoedd os yw’r tir yn cael ei danddefnyddio neu’n wag er mwyn i swyddogaeth cyflogaeth yr Uwchgynllun aros yn gryf. - Gwarchod swyddi- Swyddi ychwanegol SB2: Cefnogi twf economaidd ac arloesedd Tasg yn mynd rhagddi. Buddsoddwyr preifat yn debygol o ysgwyddo unrhyw gostau.
B. Sefydlu canol tref Coed Duon fel canolfan isranbarthol sy’n ddeniadol, yn hygyrch ac yn brysur yn y dydd a’r nos. B1. Sgwâr y Coed Duon, Coed Duon Datblygiad masnachol - Swyddi ychwanegol- Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a gwariant yng nghanol y dref- Gwell strydlun- Mwy o ddefnydd yn ystod y nos SB1: Adeiladu economi gadarnach a mwy amrywiolSB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL3: Creu Ardal FywiogSQL7: Ail ffocysu canol trefi i gwrdd ag anghenion preswylwyr a busnesau I’w gadarnhau
B2. Defnyddiau amrywiol, adeiladau wedi’u hadnewyddu, unedau gwag Dylid cynnal a chadw adeiladau amlwg a, lle bo’n bosibl, eu gwella. Bydd datblygiadau defnydd cymysg yn helpu i brysuro canol y dref gyda’r dydd a gyda’r hwyr. Dylai ymagwedd hyblyg tuag at reoli’r canol annog y defnydd o unedau gwag ar gyfer digwyddiadau untro neu fusnesau tymor byr. - Ehangu a chryfhau economi’r nos- Dylid ystyried bod cyfleoedd cyflogaeth masnachol, gan gynnwys swyddfeydd a gwasanaethau, mewn unedau manwerthu presennol yn fwy ffafriol SB1: Adeiladu economi gadarnach a mwy amrywiolSB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL3: Creu Ardal FywiogSQL4: Cynyddu twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol i ddod yn gyrchfan twristiaid gydnabyddedig.SQL7: Ail ffocysu canol trefi i gwrdd ag anghenion preswylwyr a busnesau Newid graddol. Y sector cyhoeddus yn debygol o ysgwyddo’r costau.
B3. B3 – Gwelliannau amgylcheddol a hygyrchedd Gwneud canol y dref yn fwy diogel, dengar a chyfleus i gerddwyr - Ehangu a chryfhau economi’r nos- Dylid ystyried bod cyfleoedd cyflogaeth masnachol, gan gynnwys swyddfeydd a gwasanaethau, mewn unedau manwerthu presennol yn fwy ffafriol SB1: Adeiladu economi gadarnach a mwy amrywiolSB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL3: Creu Ardal FywiogSQL4: Cynyddu twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol i ddod yn gyrchfan twristiaid gydnabyddedig.SQL7: Ail ffocysu canol trefi i gwrdd ag anghenion preswylwyr a busnesau Newid graddol. Y sector cyhoeddus yn debygol o ysgwyddo’r costau.
B4. Economi’r nos a gyda’r hwyr Ehangu economi’r nos a gyda’r hwyr, a hysbysebu canol y dref fel ‘pecyn’ o atyniadau gyda’r nos. - Ehangu a chryfhau economi’r nos- Dylid ystyried bod cyfleoedd cyflogaeth masnachol, gan gynnwys swyddfeydd a gwasanaethau, mewn unedau manwerthu presennol yn fwy ffafriol SB1: Adeiladu economi gadarnach a mwy amrywiolSB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL3: Creu Ardal FywiogSQL4: Cynyddu twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol i ddod yn gyrchfan twristiaid gydnabyddedig.SQL7: Ail ffocysu canol trefi i gwrdd ag anghenion preswylwyr a busnesau Newid graddol. Y sector cyhoeddus yn debygol o ysgwyddo’r costau.
B5. Digwyddiadau canol tref Cefnogi digwyddiadau cyhoeddus fel gwyliau ac arddangosfeydd a fyddai’n apelio i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. - Ehangu a chryfhau economi’r nos- Dylid ystyried bod cyfleoedd cyflogaeth masnachol, gan gynnwys swyddfeydd a gwasanaethau, mewn unedau manwerthu presennol yn fwy ffafriol SB1: Adeiladu economi gadarnach a mwy amrywiolSB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL3: Creu Ardal FywiogSQL4: Cynyddu twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol i ddod yn gyrchfan twristiaid gydnabyddedig.SQL7: Ail ffocysu canol trefi i gwrdd ag anghenion preswylwyr a busnesau Newid graddol. Mae’n bosibl y bydd y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn rhannu’r costau.
C. Ehangu ac amrywio’r economi ymwelwyr. C1. Sefydliad y Glowyr Coed Duon (BMI) Dylid ei hyrwyddo fel rhan ganolog nid yn unig o atyniadau gyda’r nos canol tref Coed Duon, ond hefyd fel ‘pecyn’ o atyniadau i ymwelwyr Coed Duon Fwyaf. - Mwy o ymwelwyr i Goed Duon a gweddill ardal yr Uwchgynllun- Mwy o alw am lety a lletygarwch- Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol a diwylliannol SB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydauSQL4: Cynyddu twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol i ddod yn gyrchfan twristiaid gydnabyddedig.SQL7: Ail ffocysu canol trefi i gwrdd ag anghenion preswylwyr a busnesau i’w gadarnhau
D. Gwella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghoed Duon Fwyaf a thu hwnt. D1. Gwelliannau Metro De Cymru a Metro Plus Gwasanaethau ychwanegol. Gwasanaethau amlach. Posibilrwydd o orsaf newydd yng Nghrymlyn. Llwybr tramwy cyflym canol y Cymoedd ar hyd cyswllt strategol dwyrain-gorllewin A472. - Mwy o deithwyr rheilffordd- Llai o dagfeydd ar y ffyrdd CPP2: Hyrwyddo Integreiddio a Chysylltu Trafnidiaeth Gyhoeddus Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ysgwyddo’r costau ac yn rheoli’r prosiectau.
D2. Gwelliannau i orsafoedd rheilffordd Llanhiledd a Threcelyn Gwasanaeth bob awr rhwng Tref Glynebwy a Chasnewydd. Gwell hygyrchedd a chyfleusterau. Platfformau newydd ac estynedig. - Mwy o deithwyr rheilffordd- Llai o dagfeydd ar y ffyrdd CPP2: Hyrwyddo Integreiddio a Chysylltu Trafnidiaeth Gyhoeddus Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ysgwyddo’r costau ac yn rheoli’r prosiectau.
D3. Teithio llesol Gwella llwybrau cerdded, i gadeiriau olwyn, a beicio yn ardal yr Uwchgynllun - Hyrwyddo gweithgarwch corfforol- Gwella cysylltiadau rhwng llefydd pwysig- Llai o dagfeydd ar y ffyrdd SP8: Cefnogi ymyraethau er mwyn gwella iechydSQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydauSQL3: Creu Ardal Fywiog I’w gadarnhau
D4. Gwasanaethau bws Cynnal, os nad cynyddu, amlder ac ystod y gwasanaethau bws i roi dewis amgen i bobl yn lle dreifio (neu gael eu gyrru) - Llai o dagfeydd ar y ffyrdd CPP2: Hyrwyddo Integreiddio a Chysylltu Trafnidiaeth Gyhoeddus I’w gadarnhau
D5. Cerbydau trydan Datblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau. Hyrwyddo’r defnydd o feiciau trydan - Mwy o ddefnydd o gerbydau trydan- Gwell ansawdd aer yn lleol Ddim yn berthnasol. I’w gadarnhau
E. Hyrwyddo llesiant drwy wella neu greu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy. E1. Blackwood Little Theatre, Coed Duon Hyrwyddo fel cyfleuster celfyddydau cymunedol - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol- Denu ymwelwyr i ardal yr Uwchgynllun SQL3: Creu Ardal FywiogSQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydau I’w gadarnhau
E2. Sefydliad y Glowyr Cefn Fforest, Cefn Fforest Hyrwyddo fel cyfleuster cymunedol - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol SP8: Cefnogi ymyraethau er mwyn gwella iechydSQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydauSQL3: Creu Ardal Fywiog Efallai y bydd yn rhaid i’r elusen wneud cais am gyllid.
E3. Glofa Navigation, Crymlyn Hyrwyddo fel cyfleuster cymunedol a lle busnes - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol- Ysgogi gweithgarwch economaidd- Gwarchod adeiladau hanesyddol SB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSP8: Cefnogi ymyraethau er mwyn gwella iechydSQL3: Creu Ardal Fywiog Posibilrwydd: Grant treftadaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin
E4. Canolfan siopa Trinant, Trinant Gwella’r ardal siopa leol (tirweddu newydd, meinciau, goleuadau). - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol a diwylliannol- Ysgogi gweithgarwch economaidd SB2: Cefnogi twf economaidd ac arloeseddSQL3: Creu Ardal Fywiog £125,000 (Rhaglen Amgylcheddol SATC (Safon Ansawdd Tai Cymru))
E5. Parc Sglefrio, Maes Chwarae, Maes y Sioe Coed Duon Creu cyfleuster cymunedol - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol a diwylliannol- Hyrwyddo gweithgarwch corfforol SQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydauSP8: Cefnogi ymyraethau er mwyn gwella iechydSQL3: Creu Ardal Fywiog £130,000 (Rhaglen Amgylcheddol SATC (Safon Ansawdd Tai Cymru))
E6. Parc Maes-y-cwmwr, Maes-y-cwmwr Gwella cyfleuster cymunedol (maes chwarae wedi'i uwchraddio, uned aml-chwarae, campfa awyr agored, parc sglefrio concrit). - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol a diwylliannol- Hyrwyddo gweithgarwch corfforol SQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydauSP8: Cefnogi ymyraethau er mwyn gwella iechydSQL3: Creu Ardal Fywiog £100,000 – 150,000 (cymysgedd o Raglen Amgylcheddol SATC (Safon Ansawdd Tai Cymru), cyllid arall a Chyngor Cymuned Maes-y-cwmwr)
E7. Ysgol Gyfun Coed Duon, Coed Duon Gwella’r cyfleusterau yn Ysgol Gyfun Coed Duon, gan gynnwys system wresogi newydd, llenfuriau, to newydd a gwell ystafelloedd newid. - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol SQL3: Creu Ardal Fywiog £1,420,000 (grant)
E8. Llyfrgell Pengam, Pengam Gwasanaethau gofal plant ychwanegol. - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol- Ysgogi gweithgarwch economaidd SB2: Cefnogi twf economaidd ac arloesedd £865,942.80 (grant gofal plant Llywodraeth Cymru)
E9. Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Oakdale Hen ystafelloedd dosbarth dros dro i gael eu tynnu. Bloc newydd o bedair ystafell ddosbarth i greu 60 o leoedd ysgol. Dau ddarparwr gofal plant cyfrwng Cymraeg i symud i ran arall o'r ysgol. - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol a diwylliannol SQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydau £1,620,000.00 (grant)
E10. Hen Ysgol Gyfun Pontllan-fraith, Pontllan-fraith Canolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed, neuadd chwaraeon pedwar cwrt, cae 3G amlddefnydd, canolfan seibiant. - Ysgogi gweithgarwch cymdeithasol a diwylliannol- Hyrwyddo gweithgarwch corfforol SQL2: Gwella mynediad i ddiwylliant, hamdden a’r celfyddydauSP8: Cefnogi ymyraethau er mwyn gwella iechydSQL3: Creu Ardal Fywiog Cyllid wedi’i sicrhau drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Dylid cwblhau’r prosiect cyn diwedd mis Awst 2024.
F. Darparu tai sy’n bodloni anghenion tai lleol mewn lleoliadau cynaliadwy. F1. Fferm Cwm Gelli, Coed Duon Tai - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth Bydd datblygwyr preifat yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau.
F2. Rhodfa Pencoed, Cefn Fforest (HG1.27 yn y CDLl Mabwysiedig) Tai - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth Bydd datblygwyr preifat yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau.
F3. Tir Fferm Ton-y-Felin, Croespenmaen Tai - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth Bydd datblygwyr preifat yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau.
F4. Hen Ysgol Gyfun Oakdale, Oakdale Tai - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth Bydd datblygwyr preifat yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau.
F5. Gwesty Cyffordd Tredegar, Pontllan-fraith Tai - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth Bydd datblygwyr preifat yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau.
F6. Pentref Gerddi’r Siartwyr (Tŷ Pontllan-fraith gynt), Pontllan-fraith Tai - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth Bydd datblygwyr preifat yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau.
F7. Tir yn Gellideg Heights, Maes-y-cwmwr Tai - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth Bydd datblygwyr preifat yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau.
F8. Tŷ Melin, Croespenmaen Symud trigolion i gartrefi newydd, clirio'r safle ac adeiladu tai/fflatiau newydd. - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth £10,000,000 (£6,000,000 o Raglen Amgylcheddol SATC (Safon Ansawdd Tai Cymru); grant o £4,000,000).
F9. Tai gwarchod Ynyswen, Pontllan-fraith Gwella tai gwarchod. - Helpu i ateb y galw lleol am dai SQL3: Creu Ardal FywiogSQL5: Gwella’r ddarpariaeth o dai newydd ac ehangu’r stoc dai ar draws pob daliadaeth £3,283,427 (cymysgedd o Raglen Amgylcheddol SATC (Safon Ansawdd Tai Cymru) a grant arall).

Atodiad 1: nodau deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol

Mae’r Uwchgynllun wedi’i lunio gan ystyried saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r asesiad canlynol yn nodi’r nod, neu’r nodau, sy’n berthnasol i bob amcan strategol.

Dylai datblygiad yn ardal yr Uwchgynllun gyflawni’r canlynol:

A. Diogelu a gwella statws ardal yr Uwchgynllun fel canolfan gyflogaeth isranbarthol trwy wneud y canlynol:

  • Diogelu safleoedd cyflogaeth sefydledig;
  • Ailddatblygu tir cyflogaeth gwag neu wedi’i danddefnyddio;
  • Amrywio defnydd yng nghanol tref Coed Duon;
  • Annog datblygiad priodol mewn canolfannau masnachol llai;
  • Gwella'r economi ymwelwyr; a
  • Chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion, colegau a chyflogwyr.

B. Sefydlu canol tref Coed Duon fel canolfan isranbarthol sy’n ddeniadol, yn hygyrch ac yn brysur yn y dydd a’r nos.

C. Ehangu ac amrywio’r economi ymwelwyr.

D. Gwella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghoed Duon Fwyaf a thu hwnt.

E. Hyrwyddo llesiant drwy wella neu greu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy.

F. Darparu tai a fydd yn bodloni anghenion lleol mewn lleoliadau cynaliadwy.

Nodau llesiant cenedlaethol:

Nod Disgrifiad o’r nod Sut y bydd yn cael ei gyflawni drwy’r Uwchgynllun
Cymru lewyrchus Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas. Amcanion Strategol Perthnasol: A, B, CA: Diogelu safleoedd cyflogaeth a, chyn belled ag y bo modd, helpu i greu swyddi newydd.B: Cefnogi cymysgedd o ddefnyddiau economaidd gynhyrchiol mewn canol trefi.C: Gwella atyniadau ymwelwyr ac annog ymwelwyr i weld rhannau eraill o ardal yr Uwchgynllun.
Cymru gydnerth Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). Ddim yn berthnasol.
Cymru iachach Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. Amcanion Strategol Perthnasol: EE: Hyrwyddo llesiant drwy wella neu greu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy.
Cymru sy'n fwy cyfartal Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau a'u cefndiroedd economaidd-gymdeithasol). Amcanion Strategol Perthnasol: A, B, D, EA: Diogelu swyddi a helpu i greu rhai newydd.B: Ysgogi gweithgarwch economaidd yng nghanol y trefi, sy’n gymharol hawdd eu cyrraedd i’r rhan fwyaf o bobl.D: Dylai amgylchedd adeiledig diogel a hygyrch alluogi pawb i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.E: Sicrhau bod modd i bawb gael mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau pwysig.
Cymru o gymunedau cydlynus Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. Amcanion Strategol Perthnasol: D, ED: Dylai amgylchedd adeiledig diogel a hygyrch alluogi pawb i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.E: Sicrhau bod modd i bawb gael mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau pwysig.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Amcan Strategol Perthnasol: C, EC: Gall economi ymwelwyr iach gynyddu’r galw am fentrau diwylliannol fel gwyliau, theatrau a lleoliadau cerdd. E: Sicrhau bod modd i bawb gael mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau pwysig.
Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. Amcan Strategol Perthnasol: DD: Gallai rhwydweithiau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus helpu i leihau’r defnydd o gerbydau modur sy’n llygru. Gallai’r effeithiau cadarnhaol hyn ledaenu tu hwnt i’r sir.

Mae’r Uwchgynllun wedi’i baratoi’n unol â’r pum ffordd o weithio:

Cyfranogiad – Mae cynigion yr Uwchgynllun yn destun ymgynghoriad â’r gymuned leol, ac maent wedi’u datblygu drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid fel aelodau ward a Chynghorwyr cymuned.

Cydweithredu – Mae datblygiad yr Uwchgynllun wedi defnyddio arbenigedd cynrychiolwyr allweddol ar draws adrannau awdurdodau lleol, gan gynnwys Cynllunio, Adfywio, Tai, Peirianneg a Chefn Gwlad. Bydd y gwaith o gyflawni’r prosiectau a nodwyd yn yr Uwchgynllun yn cynnwys cydweithio rhwng y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector, a bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r partneriaid hyn i gyflawni cynlluniau mewn modd cydweithredol.

Hirdymor – Mae’r amcanion a nodwyd, a’r prosiectau a fydd yn cyflawni’r amcanion hyn, yn rhan o weledigaeth fwy hirdymor o wella rôl ardal yr Uwchgynllun. Mae’r Uwchgynllun yn cydnabod yr angen am ddatblygiad i gefnogi twf economaidd ond mae’n cydnabod y dylai’r datblygiad hwn fod o natur gynaliadwy, o ran ei ddiben a’i leoliad.

Integreiddio – Bydd prosiectau’r Uwchgynllun yn helpu i ddarparu sawl un o amcanion y Strategaeth Adfywio (fel a nodwyd yn Adran 7 y ddogfen hon) yn ogystal â’r cynigion sydd yn y Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig. Byddant hefyd yn cyflawni yn erbyn amcanion llesiant y Cyngor, drwy nodi prosiectau a fydd yn arwain at greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi, hyrwyddo ffordd fwy iach a llesol o fyw, a lleihau ôl-troed carbon drwy lwybrau teithio llesol gwell a chyfleusterau gwell yn lleol.

Atal – Mae’r Uwchgynllun yn ceisio gwella ansawdd bywyd lleol fel nad yw problemau presennol yn gwaethygu ac fel bod modd rheoli problemau yn y dyfodol.

Atodiad 2: asesu cynigion safle-benodol yn erbyn nodau llesiant cenedlaethol ac amcanion llesiant cyngor bwrdeistref sirol caerffili.

Mae’r atodiad hwn yn darparu asesiad cychwynnol o’r prosiectau a nodwyd yn yr Uwchgynllun yn erbyn y nodau llesiant cenedlaethol ac amcanion llesiant y Cyngor, fel a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2018-2023. Mae’r amcanion llesiant cenedlaethol wedi’u nodi yn Atodiad 2, ac mae’r amcanion corfforaethol wedi’u nodi isod. Dylid nodi bod llawer o’r prosiectau a nodwyd ar gam embryonig ac felly ni ellir cyflawni dadansoddiad manwl o’r berthynas rhwng cynigion a’r nodau ac amcanion llesiant ar y cam hwn.

Amcanion llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

  • Galluogi ein plant i lwyddo mewn addysg.
  • Galluogi ein trigolion i ffynnu.
  • Galluogi ein cymunedau i ffynnu.
  • Galluogi ein heconomi i dyfu.
  • Galluogi ein hamgylchedd i fod yn wyrddach.
Prosiect Disgrifiad Amcan yr Uwchgynllun Nod llesiant cenedlaethol Nodau llesiant CBSC
A1. Llwyfandir Oakdale, Oakdale Safle cyflogaeth (gosod defnyddiau creu swyddi ymhlith defnyddiau eraill o’r fath ac yn agos at dai a seilwaith trafnidiaeth presennol a llwybr beicio arfaethedig). A, D - Cymru lewyrchus- Cymru sy'n fwy cyfartal- Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.
A2. Gwarchod ac ailddatblygu safleoedd cyflogaeth presennol Gwarchod ac ailddatblygu safleoedd os yw’r tir yn cael ei danddefnyddio neu’n wag er mwyn i swyddogaeth cyflogaeth yr Uwchgynllun aros yn gryf. A - Cymru lewyrchus- Cymru sy'n fwy cyfartal - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.
B1. Sgwâr y Coed Duon, Coed Duon Datblygiad masnachol. A, B - Cymru lewyrchus- Cymru sy'n fwy cyfartal - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
B2. Defnyddiau amrywiol, adeiladau wedi’u hadnewyddu, unedau gwag Dylid cynnal a chadw adeiladau amlwg a, lle bo’n bosibl, eu gwella. Bydd datblygiadau defnydd cymysg yn helpu i brysuro canol y dref gyda’r dydd a gyda’r hwyr. Dylai ymagwedd hyblyg tuag at reoli’r canol annog y defnydd o unedau gwag ar gyfer digwyddiadau untro neu fusnesau tymor byr. A, B, F - Cymru lewyrchus- Cymru sy'n fwy cyfartal- Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
B3. Gwelliannau amgylcheddol a hygyrchedd Canol Tref Coed Duon Cynyddu hygyrchedd a gwella’r amgylchedd adeiledig. B, D - Cymru sy'n fwy cyfartal- Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
B4: Economi’r nos a gyda’r hwyr Ehangu economi’r nos a gyda’r hwyr, a hysbysebu canol y dref fel ‘pecyn’ o atyniadau gyda’r nos. A, B, C - Cymru lewyrchus- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.
B5: Digwyddiadau canol tref Cefnogi digwyddiadau cyhoeddus fel gwyliau ac arddangosfeydd a fyddai’n apelio i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. A, B, C - Cymru lewyrchus- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
C1. Sefydliad y Glowyr Coed Duon (‘BMI’) Parhau i’w hyrwyddo fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau ac adloniant. Mae ganddo botensial i greu galw am lety a lletygarwch yng Nghoed Duon neu’n gyfagos. A, B, C - Cymru lewyrchus- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
D1. Gwelliannau Metro De Cymru a Metro Plus Gwasanaethau ychwanegol. Gwasanaethau amlach. Posibilrwydd o orsaf newydd yng Nghrymlyn. Llwybr tramwy cyflym canol y Cymoedd ar hyd cyswllt strategol dwyrain-gorllewin A472. D - Cymru lewyrchus- Cymru gydnerth- Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
D2. Gwelliannau i orsafoedd rheilffordd Llanhiledd a Threcelyn Gwasanaeth bob awr rhwng Tref Glynebwy a Chasnewydd. Gwell hygyrchedd a chyfleusterau. Platfformau newydd ac estynedig. D - Cymru lewyrchus- Cymru gydnerth- Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
D3. Teithio llesol Gwella llwybrau cerdded, i gadeiriau olwyn, a beicio yn ardal yr Uwchgynllun. D - Cymru sy'n fwy cyfartal- Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru iachach - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.- Galluogi ein Trigolion i Ffynnu.
D4. Gwasanaethau bws Cynnal, os nad cynyddu, amlder ac ystod y gwasanaethau bws i roi dewis amgen i bobl yn lle dreifio (neu gael eu gyrru). D - Cymru sy'n fwy cyfartal- Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
D5. Cerbydau trydan Datblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau. Hyrwyddo’r defnydd o feiciau trydan. D - Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach.
E1. Blackwood Little Theatre, Heol Woodbine Hyrwyddo’r lleoliad i ysgogi economi’r nos yng nghanol tref Coed Duon. E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru lewyrchus- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
E2. Sefydliad y Glowyr Cefn Fforest, Cefn Fforest Hyrwyddo fel cyfleuster cymunedol. E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru lewyrchus- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.- Galluogi ein Trigolion i Ffynnu.
E3. Glofa Navigation, Crymlyn Hyrwyddo fel cyfleuster cymunedol a lle busnes. E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru lewyrchus- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu- Cymru iachach - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.- Galluogi ein Trigolion i Ffynnu.- Galluogi ein Heconomi i Dyfu.
E4. Canolfan siopa Trinant, Trinant Gwella’r ardal siopa leol (tirweddu newydd, meinciau, goleuadau). E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru iachach- Cymru lewyrchus - Galluogi ein Heconomi i Dyfu.- Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
E5. Parc Sglefrio, Maes Chwarae, Maes y Sioe Coed Duon Creu cyfleuster cymunedol newydd. E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru iachach - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
E6. Parc Maes-y-cwmwr, Maes-y-cwmwr Gwella cyfleuster cymunedol (maes chwarae wedi'i uwchraddio, uned aml-chwarae, campfa awyr agored, parc sglefrio concrit). E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru iachach - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
E7. Ysgol Gyfun Coed Duon, Coed Duon Gwella cyfleuster cymunedol. E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru lewyrchus- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu- Cymru iachach - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.
E8. Llyfrgell Pengam, Pengam Gwasanaethau gofal plant ychwanegol. E - Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.- Galluogi ein Plant i Lwyddo mewn Addysg.
E9. Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Oakdale Hen ystafelloedd dosbarth dros dro i gael eu tynnu. Bloc newydd o bedair ystafell ddosbarth i greu 60 o leoedd ysgol. Dau ddarparwr gofal plant cyfrwng Cymraeg i symud i ran arall o'r ysgol. E - Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.- Galluogi ein Plant i Lwyddo mewn Addysg.
E10. Hen Ysgol Gyfun Pontllan-fraith, Pontllan-fraith Canolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed, neuadd chwaraeon pedwar cwrt, cae 3G amlddefnydd, canolfan seibiant. E - Cymru o gymunedau cydlynus- Cymru iachach - Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu.- Galluogi ein Plant i Lwyddo mewn Addysg.- Galluogi ein Preswylwyr i Ffynnu.
F1 – 9 (pob prosiect tai neu brosiectau dan arweiniad tai) Tai newydd. F - Cymru sy'n fwy cyfartal- Cymru o gymunedau cydlynus - Galluogi ein Preswylwyr i Ffynnu.