Ysgol Iau Bedwas ac Ysgol Gynradd Rhydri

Mae cyrff llywodraethu Ysgol Iau Bedwas ac Ysgol Gynradd Rhydri, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Yr Awdurdod Lleol ALl) yn bwriadu defnyddio'r pwerau a roddwyd iddo gan Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Ffederasiwn Ysgol Iau Bedwas ac Ysgol Gynradd Rhydri. 

Mae cyrff llywodraethu'r ddwy Ysgol wedi ymgynghori â'r awdurdod lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) ac mae pob un ohonynt yn cefnogi'r cynnig. 

Os derbynnir y cynnig, bydd y Ffederasiwn yn dod i rym ar 1 Medi 2019.

Os hoffech lenwi ffurflen ymateb, gellir gweld copi yn y ddogfen atodedig.

Gellir anfon ffurflenni wedi'u llenwi at unrhyw un o'r canlynol:

  • Ysgol Iau Bedwas, Stryd-yr-eglwys, Bedwas, Caerffili, CF83 8EB
  • Ysgol Gynradd Rhydri, Rhydri, Caerffili, CF83 3DF
  • Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG 
  • E-bost: ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ddydd Llun 22 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.