Ysgolion Cynradd Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu

Mae cyrff llywodraethol ysgolion Cynradd Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) (yr Awdurdod Lleol- ALl) yn bwriadu defnyddio'r pwerau a roddwyd iddo gan Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu.  

Mae cyrff llywodraethu'r ddwy Ysgol wedi ymgynghori â'r awdurdod lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) ac mae pob un ohonynt yn cefnogi'r cynnig. 

Os derbynnir y cynnig, bydd y Ffederasiwn yn dod i rym ar 1 Medi 2019.

Os hoffech lenwi ffurflen ymateb, gellir gweld copi yn y ddogfen atodedig.

Completed forms can be sent to any of the following:

  • Ysgol Gynradd Cwmfelin-fach, Stryd-y-brenin, Cwmfelin-fach, Ynys-ddu, NP11 7HL
  • Ysgol Gynradd Ynys-ddu, Stryd Fawr, Ynys-ddu, NP11 7JH 
  • Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG 
  • E-bost: ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ddydd Llun 22 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.