FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Glofa Frig Nant Llesg

Derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gais cynllunio ar gyfer cynigion gan Miller Argent (South Wales) Cyf i adennill 6 miliwn tunnell fetrig o lo gan ddefnyddio dulliau cloddio wyneb ar 478 hectar o dir i'r gorllewin o Rhymni, i'r gogledd o Fochriw ac i'r de o'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Gall aelodau o'r cyhoedd archwilio copïau o'r wybodaeth yn Nhŷ Pontllan-fraith, Heol Coed Duon, Pontllan-fraith yn ystod unrhyw oriau rhesymol tan 5 pm. Mae hefyd ar gael i'w harchwilio yn Llyfrgell Rhymni, Llyfrgell Bargod, Llyfrgell Deri a Llyfrgell Nelson.

Y Pwyllgor Cynllunio

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn adrodd y gais cynllunio 13/0732/MIN ar gyfer cloddio wyneb a gwaith cysylltiedig yn Nant Llesg, i'r gogledd o Fochriw, i'w Bwyllgor Cynllunio ar 10 Mehefin 2015. Bydd y cais yn cael ei ohirio ar gyfer ymweliad safle i Aelodau yn y cyfarfod hwnnw, a fydd yn digwydd ar 23 Mehefin 2015. Yna cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio Arbennig ar 24 Mehefin 2015.

Cynhelir y Pwyllgor Cynllunio Arbennig yn Siambr y Cyngor yn Nhŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG. Bydd yn cychwyn am 2.00 pm Bydd yr amserlen ar gyfer y cyfarfod fod fel a ganlyn:-

  • Cyflwyniad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio - 15 munud
  • Materion gweithdrefnol i'w trafod gan y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio neu'r Rheolwr Rheoli Datblygu - 15 munud
  • Swyddog achos i amlinellu'r cynllun - 30 munud
  • Gwrthwynebwyr i'r cynllun - 45 munud
  • Aelodau nad ydynt yn Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio - 30 munud (heb ragfarnu hawl Aelodau'r Cyngor o dan ei gyfansoddiad i annerch y Pwyllgor Cynllunio)
  • Ymgeiswyr a chefnogwyr y cynllun - 45 munud
  • Trafodaeth a phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y weithdrefn hon, cysylltwch â Tim Stephens, Rheolwr Rheoli Datblygu ar 01495 235359 neu e-bostiwch stepht@caerffili.gov.uk.

Gwybodaeth bellach - 16 Hydref 2014

Ail Adendwm i'r Datganiad Amgylcheddol (PDF 2.9 mb)

Ail Adendwm i'r Datganiad Amgylcheddol ac Atodiadau'r Adendwm I (PDF 120.6 mb)

Ail Adendwm i'r Datganiad Amgylcheddol ac Atodiadau'r Adendwm II (PDF 112.9mb)

Ail Adendwm i'r Datganiad Amgylcheddol a Darluniau'r Adendwm (PDF 38.4 mb)

Crynodeb Annhechnegol yr Ail Adendwm i'r Datganiad Amgylcheddol (PDF 23.3 mb)

Adendwm i'r Datganiad Cynllunio (PDF 4.2 mb)

Ail Restr Gwallau - Cais Cynllunio a Dogfennau Wrth Gefn (PDF 206kb)

Dogfennau a Gyflwynwyd - 10 Hydref 2013

Llythyr Eglurhaol (PDF 178kb)

Datganiad Cynllunio a'r Atodiadau (Crynodeb Annhechnegol) (PDF 90mb)

Datganiadau Amgylcheddol Cyfrol I: Asesiadau Technegol Rhan 1 (PDF 17.3 mb) 

Datganiadau Amgylcheddol Cyfrol I: Asesiadau Technegol Rhan 2 (PDF 4.7mb)

Datganiadau Amgylcheddol Cyfrol II: Atodiadau Rhan 1 (PDF 120mb) 

Datganiadau Amgylcheddol Cyfrol II: Atodiadau Rhan 2 (PDF 157mb)

Datganiadau Amgylcheddol Cyfrol II: Atodiadau Rhan 3 (PDF 40mb)

Datganiadau Amgylcheddol Cyfrol III: Darluniau Rhan 1 (PDF 100mb)

Datganiadau Amgylcheddol Cyfrol III: Darluniau Rhan 2 (PDF 497mb)

Crynodeb Annhechnegol (PDF 10mb)

Datganiad Dylunio a Mynediad (PDF 353kb)

Datganiad Ymgynghoriad Cyhoeddus (PDF 18mb)

Atodiad i Bennod 8 o'r Datganiad Amgylcheddol 'Ecoleg a Chadwraeth Natur' a Rhestr Gwallau ar gyfer dogfennau cais gwreiddiol

Llythyr (PDF 925kb)

Rhestr Gwallau (PDF 665kb)

Adendwm (PDF 14.8mb)

Gweithdrefn y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer penderfynu ar y cais cynllunio

Mae manylion cyfredol ar gael yn y llythyr amgaeedig.

Gweithdrefn y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer penderfynu ar y cais cynllunio (PDF 434kb)

Cytundebau drafft a gyflwynwyd gan Miller Argent

Cytundeb drafft o dan Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a chytundeb drafft o dan Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae ymgeiswyr, Miller Argent, wedi cyflwyno'r cytundebau drafft hyn mewn cysylltiad â'u cais cynllunio.

Cytundeb drafft o dan Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Cytundeb drafft o dan Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

Dogfennau a gomisiynwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol

Asesiad Economaidd o Lofa Frig Nant Llesg arfaethedig (PDF)

Atebolrwydd Adfer ac Ôl-ofal (PDF)