Goleuadau Stryd a rhoi gwybod am oleuadau stryd diffygiol
Oleuo rhannol yn ystod y nos a gwaith trosi LED
Cefnogodd yr aelodau'r cynnig i drosi holl lampau stryd y fwrdeistref sirol i Ddeuodau Allyrru Golau (LED) a gweithredu goleuadau rhan amser yn ystod y nos (rhwng hanner nos a 5.30am) ar draws y fwrdeistref sirol, ac eithrio wrth ymyl cyffyrdd ac yng nghanol trefi mawr. Dechreuodd y rhaglen ar ddechrau mis Ebrill 2019 a bydd yn parhau ar sail ward fesul ward am gyfnod o tua dwy flynedd.
Cwestiynau cyffredin am Oleuo rhannol yn ystod y nos a gwaith trosi LED
Mae goleuadau stryd yn helpu ffyrdd a llwybrau troed i gael eu defnyddio'n ddiogel. Rydym yn gyfrifol am gynnal dros 27,000 o oleuadau stryd.
Rydym yn annog adroddiadau gan y cyhoedd ynghylch diffygion a phroblemau i'n helpu ni i drefnu i atgyweiriadau gael eu cynnal.
Rhoi gwybod am oleuadau stryd diffygiol
Yn anffodus, er bod archwiliadau rheolaidd yn cael eu cynnal, mae’n anochel bod problemau’n codi o bryd i’w gilydd gyda’n goleuadau stryd. Os byddwch yn dod ar draws golau stryd diffygiol, rhowch wybod i ni.
Er mwyn ein helpu i ymdrin â’r broblem cyn gynted ag sy’n bosibl, byddai’n ddefnyddiol pe baech yn gallu rhoi gwybod i ni beth yw rhif colofn y golau stryd, enw’r ffordd ac union leoliad y golau.
Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.
Faint o amser y bydd y gwaith atgyweirio’n ei gymryd?
Mae’n ofynnol i’n contractwr, Centre Great Ltd atgyweirio diffygion yn unol â’r amserlenni canlynol:
- Bydd difrod damweiniol lle mae golau stryd yn cael ei ystyried yn anniogel neu lle mae gwifrau trydan agored, yn cael eu hatgyweirio o fewn dwy awr o gael eu hysbysu
- Namau sengl o fewn pedwar diwrnod gwaith ar ôl eu hysbysu - Gweler Cwestiynau Cyffredin.
- Namau adran sy'n effeithio ar fwy na dwy lamp yn olynol mewn ardal o fewn dau ddiwrnod gwaith o gael eu hysbysu
Datblygiadau tai newydd a ffyrdd preifat
Datblygwr y safle, ac nid y cyngor, sy’n gyfrifol am osod goleuadau stryd mewn datblygiad tai newydd. Os ydym wedi cytuno i fabwysiadu'r ffordd, mae’n ofynnol i’r datblygwr osod y goleuadau stryd i safon y cytunwyd arni cyn i ni fabwysiadu’r ffordd. Fodd bynnag, ni allwn fynnu bod goleuadau stryd yn cael eu gosod tra bydd y safle’n cael ei ddatblygu.
Nid ni sy’n gyfrifol am oleuadau ar ffyrdd preifat nad ydynt wedi’u mabwysiadu, a rhaid i berchnogion yr eiddo hwnnw wneud eu trefniadau eu hunain i osod goleuadau ar y ffyrdd a’r llwybrau troed.