Mabwysiadu ffordd

Beth yw ffordd sydd wedi’i mabwysiadu?

Mae ffordd sydd wedi’i mabwysiadu’n ffordd a gaiff ei chynnal a’i chadw ar bwrs y wlad. ‘Mabwysiadu ffordd’ yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfa lle mae’r cyngor yn dod yn berchen ar ‘stryd breifat’.

Beth yw stryd breifat?

‘Stryd breifat’ yw ffordd na chaiff ei chynnal a’i chadw ar bwrs y wlad. Mae hynny’n golygu nad oes unrhyw reidrwydd arnom fel awdurdod priffyrdd i atgyweirio’r stryd na’i glanhau, er y gallai’r ffordd fod yn hawl tramwy cyhoeddus y gallai cyfraith priffyrdd a thraffig fod yn berthnasol iddi.

Sut y mae ffordd yn cael ei mabwysiadu?

Fel rheol, caiff ffyrdd newydd sydd wedi’u creu yn unol â’n canllawiau eu mabwysiadu drwy gytundeb rhwng y datblygwr a ni dan adran 38 Deddf Priffyrdd 1980.

Fel rheol, ni fydd ffyrdd sy’n bodoli eisoes yn cael eu mabwysiadu oni bai bod eu perchnogion yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau cyfredol. Er enghraifft, gallai’r ffordd:

  • fod heb balmant
  • bod heb gyrbau, llwybrau troed, ffosydd dŵr wyneb, cwteri a goleuadau neu unrhyw un o’r nodweddion hyn
  • bod ag wyneb sydd, fwy na thebyg, mewn cyflwr gwael.

Dan ddarpariaethau adrannau 205 i 228 Deddf Priffyrdd 1980, gallwn benderfynu codi safon stryd breifat drwy:

  • ddarparu unrhyw rai o’r nodweddion coll neu bob un ohonynt, neu
  • wella safon unrhyw nodweddion sy’n bodoli eisoes ar draul y perchennog.

Mae’r weithdrefn hon yn ein galluogi i fabwysiadu’r stryd fel priffordd y gellir ei chynnal a’i chadw ar bwrs y wlad, pan fydd y gwaith angenrheidiol wedi’i gwblhau.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.

Cysylltwch â ni