Cerbydau niwsans
Mae'r rhan fwyaf o broblemau parcio yn cael eu hachosi gan y ffaith syml bod gormod o geir ar gyfer parcio sydd ar gael. Fodd bynnag, achosir rhai problemau parcio gan bobl sy'n torri'r gyfraith a phan fydd hyn yn digwydd, gall y cyngor neu'r heddlu weithredu.
Gwerthu cerbyd ar yr heol
Mae'r drosedd o werthu cerbydau ar yr heol wedi'i fwriadu i dargedu'r bobl hynny sy'n rhedeg busnes o werthu cerbydau modur a defnyddio'r heol fel ystafell arddangos ffug. Mae'r ymddygiad hwn yn anheg i drigolion lleol a busnesau cyfagos gan na allent ddefnyddio'r heol eu hunain i barcio cerbydau ac yn amharu ar eu bywydau bob dydd.
Bydd person yn cyflawni trosedd os bydd yn gadael dau neu'n fwy o gerbydau modur wedi eu parcio o fewn 500 metr o'i gilydd ar heol neu heolydd lle maent yn cael eu harddangos neu eu hysbysebu ar werth at ddibenion busnes o werthu cerbydau modur. Ni fwriedir i dargedu gwerthwyr preifat unigol achlysurol o gerbydau sengl.
Fodd bynnag, ers 2011, os ydych yn dymuno gwerthu, arddangos neu gynnig unrhyw eitem ar werth, gan gynnwys cerbydau modur, mewn stryd yna mae'n rhaid i chi gael trwydded masnachu ar y stryd neu ganiatâd masnachu ar y stryd, boed yw'r cerbyd yn cael ei werthu gan fasnachwr neu unigolyn preifat. Yr unig eithriad fyddai cynnig eich cerbyd personol ar werth y tu allan i'ch cartref eich hun.
Os byddwch yn darganfod trosedd o'r fath, cysylltwch â Safonau Masnach.
Trwsio cerbydau ar yr heol
Mae'r drosedd o drwsio cerbyd hefyd wedi ei anelu'n bennaf at rheini sydd yn gweithredu'n anghyfrifol fel rhan o fusnes ac yn defnyddio'r heol fel gweithdy ffug.
Nid yw'r gyfraith yn gymwys i unigolion preifat sydd yn cyflawni mân waith i'w cerbydau neu'r rheini sy'n cyflawni gwaith angenrheidiol i gerbyd wrth ochr yr heol er mwyn iddynt ddechrau symud eto ar ôl i gerbyd fethu neu ar ôl damwain.
Os ydych yn darganfod masnachwr cerbydau yn cyflawni trosedd o'r fath, cysylltwch â Safonau Masnach.
Os bydd eich cwyn mewn perthynas ag unigolyn preifat yn atgyweirio cerbydau ar yr heol a "lle mae'r atgyweirio wedi rhoi achos rhesymol i greu annifyrrwch i bobl yn y cyffiniau”, cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd.
Cerbydau masnachol
Rydym wedi sefydlu polisi newydd, sy'n mynd i'r afael â pharcio niwsans o loriau a bysiau. Mae'n amod o'r drwydded a roddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Traffig, bod gorfodaeth i gerbydau masnachol dros 3.5 tunnell gael gorsaf weithredol. Fodd bynnag, bydd rhai gyrrwyr anystyriol yn anwybyddu'r rheol hon a pharcio mewn ardaloedd preswyl.
Os fydd hyn yn broblem barhaol, gallwn wneud gorchymyn sydd yn rhwystro parcio i gerbydau masnachol niwsans. Caiff gorchmynion eu cymeradwyo mewn 'parthau' a dim ond yn cael eu caniatáu ar ôl ymgynghori â phreswylwyr ac aelodau lleol ac yn dilyn ymchwiliad i weld a ydynt yn briodol.
Os bydd parcio lori neu fws yn achosi niwsans i chi ffoniwch ein llinell Gofal Cwsmer Priffyrdd ar 01443 866511. Fel arall, cysylltwch â'r Asiantaeth Gwasanaethau Gweithredwyr Cerbydau ar 08706 060440.