Cydsyniad masnachu ar y stryd
Os ydych chi eisiau gwerthu, arddangos neu gynnig i’w gwerthu unrhyw eitem ar stryd yna mae’n rhaid ichi fod â thrwydded masnachu ar y stryd neu gydsyniad masnachu ar y stryd.
Mae’r gweithgareddau canlynol yn enghreifftiau o fasnachu ar y stryd a fyddai’n dod o dan y darpariaethau:
- Faniau pysgod a sglodion
- Faniau cebabau a byrgyrs
- Faniau hufen iâ
- Gwerthwyr blodau
- Hysbysebu cerbydau i’w gwerthu ar ochr y ffordd
Mae’n bosibl nad yw’r rhestr uchod yn cynnwys y math o eitemau yr ydych eisiau eu gwerthu, ond nid yw’n golygu eich bod wedi’ch eithrio. Argymhellwn ichi gysylltu â ni i drafod eich cynlluniau yn enwedig cyn gwneud unrhyw ymrwymiadau ariannol sylweddol.
Bydd unrhyw berson a gaiff ei euogfarnu o fasnachu ar stryd cydsyniad, heb gydsyniad masnachu ar y stryd, yn euog o drosedd ac yn agored i gael dirwy o hyd at £1,000 yn dilyn euogfarn.
Ble y gallwch fasnachu a beth i’w ystyried
Dylech gysylltu â ni (trwyddedu) i drafod a yw’r stryd lle’r ydych eisiau lleoli’ch stondin neu’ch fan yn addas. Dylech hefyd ystyried:
- Lleoliad
- Diogelwch parcio
- Rheoli traffig
- Yr effaith amgylcheddol ar breswylwyr lleol (h.y. sŵn, sbwriel a llygredd aer)
- A oes angen man gwerthu bwyd arall yn y pentref
- Oriau gweithredu
- Mynychder masnachu
Ffioedd
Cliciwch yma i weld y ffioedd trwyddedau
Sut i wneud cais
Mae ein pecyn cais yn darparu’r ffurflen gais, amodau cydsyniad, hysbysiad cyhoeddus a pholisi.
Cais am (adnewyddu) cydsyniad masnachu ar y stryd (PDF)
Hysbysiad cais am gydsyniad masnachu sefydlog ar y stryd (PDF)
Polisi Masnachu ar y Stryd (1 Mai 2017) (PDF)
Y broses gwneud cais
Cyn y byddwn yn rhoi cydsyniad masnachu ar y stryd, byddwn yn ymgynghori â’r awdurdodau perthnasol a’r partïon â buddiant canlynol:
- Adrannau’r cyngor
- Priffyrdd
- Gwasanaethau Eiddo
- Safonau Masnach
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Iechyd yr Amgylchedd
- Cynllunio
- Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
- Datblygu Economaidd
- Cynghorwyr y ward berthnasol
- Eraill
- Heddlu Gwent
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Perchennog tir y safle arfaethedig ar gyfer masnachu ar y stryd
Ar gyfer ceisiadau sefydlog newydd bydd angen ichi hysbysebu manylion y gweithgareddau arfaethedig yn y cyffiniau, trwy osod yr hysbysiad cymeradwy yn agos i’r safle arfaethedig.
Gall aelodau o'r cyhoedd a busnesau sy'n debygol o gael eu heffeithio gan roi Caniatâd Masnachu ar y Stryd wrthwynebu.
Sylwer: Dylai pob sylw gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod ymgynghori 14 diwrnod. Dylai unrhyw sylwadau ymwneud â’r amcanion, sef:
- Atal troseddau
- Atal anhrefn cyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Atal niwsans cyhoeddus
- Hyrwyddo diogelwch y cyhoedd (Sylwer bod hyn yn cynnwys agweddau iechyd y cyhoedd o ran atal lledaenu afiechyd)
- Diogelu cyfleusterau lleol
Sylwer: Bydd yr holl sylwadau sy'n dod i law yn cael eu hanfon ymlaen at yr ymgeisydd am ei sylwadau, er mwyn i'r ymgeisydd gael cyfle i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sydd gan y gwrthwynebydd. Byddwn ni'n dileu unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai'n galluogi eraill i adnabod aelodau'r cyhoedd neu fusnesau. Os nad oes modd datrys y mater, bydd gwrthwynebwyr yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu (Tacsi a Chyffredinol) i benderfynu ar y cais.
Gall hyn gymryd sawl wythnos i'w drefnu.