Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni neu Hurio Preifat
Rhaid i unrhyw berson sy’n gyrru cerbyd trwyddedig fod wedi’i drwyddedu fel gyrrwr cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat gyda’r Awdurdod Trwyddedu lle mae’n bwriadu gweithio.
Mae dyletswydd ar Awdurdodau Trwyddedu i ganfod a yw’r ymgeisydd yn ‘berson addas a phriodol’, felly byddwn yn cymryd i ystyriaeth hanes meddygol a throseddol ymgeisydd wrth ystyried ei gais.
Rhaid i yrrwr tacsi trwyddedig hefyd sicrhau bod y cerbyd mae’n ei ddefnyddio wedi’i drwyddedu at ddibenion cludo teithwyr sy’n talu. Gall hwn fod ei gar ei hun neu gar fflyd, ond rhaid iddo fod â thrwydded cerbyd Cerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat.
Gellir galw cerbydau hacni o ochr y ffordd neu o safle tacsis ac nid oes angen eu bwcio ymlaen llaw.
Rhaid bwcio cerbydau hurio preifat ymlaen llaw am dâl a ddiffinnir ymlaen llaw trwy weithredwr trwyddedig, y mae’r gyrrwr yn gweithio iddo. Mae’n drosedd i’r gyrrwr godi teithiwr sydd wedi’i alw o ochr y ffordd.
Manyleb gyrrwr
Bydd angen i bob ymgeisydd am drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni neu Hurio Preifat sefyll prawf addasrwydd/gwybodaeth a dilyn cwrs diogelu; mae’r ddau’n cael eu cynnal a’u rheoli gan Ganolfan Hyfforddiant Torfaen. Rhaid ichi lwyddo yn y prawf hwn a dilyn y cwrs cyn y gallwch gyflwyno cais am y drwydded.
Cynhelir y prawf gwybodaeth dros hanner diwrnod yng Nghanolfan Hyfforddiant Torfaen, 25 Stad Ddiwydiannol Springvale, Cwmbrân, Torfaen, NP44 5BA a chaiff ei rannu’n dair adran:
-
Asesiad o Sgiliau Sylfaenol sy’n cynnwys llythrennedd a rhifedd yn unol â phrofion meincnod a gydnabyddir yn genedlaethol
-
Cyfathrebu ac amgyffred llafar – mae hwn yn asesu gwybodaeth o lwybrau tacsis, gwybodaeth leol a sgiliau cyfathrebu llafar
-
Prawf ar ddealltwriaeth o bolisïau, amodau a safonau archwilio cerbydau Cyngor Caerffili. Gan mai elfen ‘llyfr agored’ yw hon, rhoddir i’r ymgeiswyr yr holl wybodaeth berthnasol mae’r elfen hon wedi’i seilio arni.
Ni fydd yn cymryd mwy na dwy awr i gwblhau’r cwrs diogelu ac mae’n darparu gwybodaeth a chyngor defnyddiol am ddiogelu plant a phobl agored i niwed.
Os ydych chi’n ystyried sefyll y prawf a dilyn y cwrs, rhaid ichi gysylltu â Hyfforddiant Torfaen ar 01633 875929 yn gyntaf i gael y wybodaeth a chyfarwyddiadau angenrheidiol. Yna bydd angen ichi gysylltu â Hyfforddiant Torfaen eto i drefnu’ch lle.
Ar ddiwrnod y prawf a’r cwrs bydd yn ofynnol ichi:
-
Dalu ffi’r prawf, sef £60 (y ffi ar 1 Mawrth 2015) a ffi’r cwrs, sef £35 (ar 1 Awst 2016) gydag arian parod neu siec yn unig, rhoddir derbynebau ar ôl cael y taliad.
-
Darparu dau ddull adnabod, y mae’n rhaid i un fod â ffotograff. Ni chaniateir sefyll profion a dilyn y cwrs diogelu heb ddulliau adnabod.
-
Dod i’r ganolfan hyfforddi o leiaf 15 munud cyn dechrau’r prawf/cwrs.
Ar ôl llwyddo yn y prawf a dilyn y cwrs yn llwyddiannus gallwch wedyn gysylltu ag Is-adran Trwyddedu Caerffili i ofyn am becyn cais am drwydded. Bydd yn ofynnol ichi ddarparu Cerdyn Llwyddo a thystysgrif Hyfforddiant Torfaen wrth gyflwyno’ch cais.
Gofynion Deddf Mewnfudo 2016
Erbyn hyn mae dyletswydd ar awdurdodau trwyddedu i gynnal gwiriadau mewnfudo ar bob ymgeisydd am drwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat a phob gweithredwr cerbyd hurio preifat.
Yn ogystal â gwiriadau perthnasol i ganfod a yw person yn ‘berson addas a phriodol’, ni all awdurdodau lleol roi trwydded gyrrwr neu weithredwr oni fônt wedi’u bodloni bod gan yr ymgeisydd yr hawl i aros a gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Er y gall awdurdodau lleol roi trwyddedau o’r fath i bobl sy’n destun rheolaeth fewnfudo ac sydd ag amser cyfyngedig yn unig i aros yn y Deyrnas Unedig, ni allant eu rhoi ond am gyfnod penodedig ac mae’n rhaid i’r cyfnod hwnnw ddod i ben ar ddiwedd neu cyn diwedd cyfnod y caniatâd i aros. Bydd trwyddedau’n mynd yn ddi-rym yn awtomatig pan fydd y statws mewnfudo’n newid ac mae deiliad y drwydded yn dod yn anghymwys i breswylio a gweithio’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig. Bydd unrhyw berson nad yw’n dychwelyd ei drwydded yn cyflawni trosedd.
Bydd yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd am drwydded gyrrwr neu weithredwr ddarparu copïau gwreiddiol o’r dogfennau rhagnodedig i brofi eu statws mewnfudo a hawl i weithio. Bydd yn ofynnol i’r Cyngor gadw copïau o’r dogfennau gwreiddiol mae wedi’u gweld ac mae’n bosibl y bydd yn gwirio statws mewnfudo ymgeisydd ac yn rhannu gwybodaeth gyda’r Swyddfa Gartref.
Canllawiau Statudol i Awdurdodau Trwyddedu
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau
Sut i wneud cais
Gwneud cais ar-lein am drwydded gyrru cerbyd
Gwneud apwyntiad
Ar ôl ichi lenwi’r ffurflen gais a ffurflen fanwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bydd angen ichi gysylltu â ni i wneud apwyntiad. Rydym yn gweithredu system apwyntiadau yn unig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â ni cyn dod i’n swyddfeydd, neu ni fyddwn yn ymdrin â’ch cais.
Dewch â’r holl ddogfennau adnabod angenrheidiol gyda chi i’r apwyntiad ynghyd â’r ffi drwydded a ffi’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy’n £40 ar hyn o bryd. Rhaid i’r dogfennau gynnwys trwydded yrru gyfredol gan y DVLA, cerdyn/tystysgrif llwyddo yn y prawf gwybodaeth, tystysgrif diogelu a thystysgrif feddygol. Bydd hefyd angen ichi ddarparu dau ffotograff dull pasbort yr un peth â’i gilydd a dynnwyd yn ddiweddar.
Os cawsoch eich geni y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn yr apwyntiad bydd yn ofynnol hefyd ichi ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da ar gyfer pob gwlad rydych wedi byw ynddi ers ichi fod yn 18 oed. Mae’r rhain ar gael o’r Llysgenhadaeth berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan gov.uk.
Bydd gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad cartref. Dylech sicrhau eich bod yn darparu hwn inni cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth ymdrin â’ch cais.
Ar yr amod nad oes gennych unrhyw droseddau a’ch bod yn ffit yn feddygol, caiff eich trwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat ei rhoi ichi.
Os yw gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu’r Dystysgrif Ymddygiad Da yn dweud eich bod wedi’ch euogfarnu o unrhyw drosedd, fodd bynnag, neu os oes gennych 4 pwynt neu ragor ar eich trwydded yrru ar hyn o bryd, bydd angen ichi ddod i gyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu priodol i gael penderfyniad. Byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch hyn.
Mae’n cymryd 6-8 wythnos ar gyfartaledd i brosesu cais.
Gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Caiff pobl sy’n gwneud cais am wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fanteisio ar ei wasanaeth diweddaru, sy’n costio £13.00 y flwyddyn. Mae buddion i hyn; ar ôl talu’r ffi gychwynnol o £40.00 am y gwiriad, caiff yr ymgeisydd wedyn danysgrifio i’r gwasanaeth diweddaru, naill ai:
(i) cyn pen 28 diwrnod ar ôl cwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda’r awdurdod trwyddedu, gan ddefnyddio rhif cyfeirnod y ffurflen, y gellir cael ei fanylion o’r is-adran trwyddedu, neu;
(ii) ar ôl ichi gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cyn pen 19 diwrnod ar ôl y dyddiad dyroddi a ddangosir ar y dystysgrif.
Mae rhagor o fanylion ynghylch y gwasanaeth hwn ar gael ar wefan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sef www.gov.uk/dbs-update-service.
Mae’r buddion i yrwyr tacsi wrth danysgrifio i’r gwasanaeth diweddaru’n cynnwys arbed amser ac arian ar ôl y tair blynedd gyntaf, gan na fyddai angen ichi wneud cais am wiriad arall gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (ar yr amod nad oes unrhyw droseddau wedi cael eu cyflawni ar ôl dyroddi’r gwiriad gwreiddiol) ac ni fydd yn ofynnol ichi ddod i’n swyddfeydd dro ar ôl tro i adnewyddu’ch tystysgrif.
Adnewyddu
Caiff trwyddedau eu rhoi am gyfnod o hyd at 3 blynedd a rhaid eu hadnewyddu os ydych eisiau parhau i yrru cerbydau trwyddedig.
Caiff ffurflenni adnewyddu eu hanfon atoch trwy’r post ychydig o wythnosau cyn bod eich trwydded gyfredol i fod i ddod i ben.
Os yw’n bryd cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd, caiff y ffurflen berthnasol ei hanfon atoch a bydd angen ichi ei llenwi ynghyd â’ch cais, cyn cysylltu â ni i wneud apwyntiad. Dylid gwneud hyn cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl ichi gael eich llythyr atgoffa.
Dewch â’r holl ddogfennau adnabod angenrheidiol gyda chi i’r apwyntiad ynghyd â’r ffi drwydded briodol (a ffi adnewyddu y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os oes angen).