Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i unigolion (dros 18 oed) gyflawni gweithgareddau trwyddedadwy (e.e. gwerthu neu gyflenwi alcohol, adloniant rheoledig neu luniaeth hwyr y nos) dros dro mewn mangre nad yw wedi’i hawdurdodi gan drwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb.
Caiff mangreoedd sydd â thrwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb hefyd wneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar gyfer estyniad i weithgareddau trwyddedadwy, oriau ac ati.
Mewn perthynas â Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro, mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu:
- na chaiff digwyddiad dros dro bara mwy na 168 o oriau neu 7 diwrnod
- o leiaf 24 awr rhwng cyfnodau digwyddiadau mewn perthynas â’r un fangre
- rhaid i nifer y bobl sy’n bresennol ar unrhyw adeg beidio â bod yn fwy na 499.
O dan unrhyw amgylchiadau eraill, byddai trwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb yn ofynnol ar gyfer cyfnod y digwyddiad.
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd ac amodau llawn i’w gweld yma
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais ar lein.
Os ydych eisiau gwneud cais trwy’r post, gallwch lawrlwytho pecyn cais sy’n cynnwys ffurflenni a nodiadau cyfarwyddyd.
Ffurflen wybodaeth Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (PDF)
Datganiad Diogelu Data (PDF)
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr o'r ffioedd trwyddedau
Ydych chi’n cynllunio digwyddiad?
Cewch wybod beth y bydd angen ichi ei wneud i gynnal digwyddiad cyhoeddus ym mwrdeistref sirol Caerffili trwy fynd i’r adran cynllunio digwyddiad i gael gwybodaeth am amrywiaeth o gymorth a chanllawiau sydd ar gael oddi wrth ein Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau.