Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Pethau i'w gwneud    Digwyddiadau    Cynllunio digwyddiad

 Rhybudd Oren am Dywydd Eithafol / Amber Extreme Weather Warning

Mae disgwyl tymheredd uchel dros y penwythnos a dechrau'r wythnos nesaf. Mae tywydd poeth yn gallu cynyddu perygl diffyg hylif a thrawiad gwres. Mynnwch gyngor ar sut i gadw'n oer gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
High temperatures are expected for the next few days. Hot weather can increase your risk of dehydration and heatstroke. Get advice on how to stay cool from Public Health Wales.

Further information available

Cynllunio digwyddiad

Diweddariad ar y canllawiau diweddaraf ar gyfer (COVID-19)
 

Bydd Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau Caerffili yn dilyn rheoliadau a chanllawiau COVID-19 a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i roi cyngor am ddigwyddiadau.
 
Felly, wrth i lefelau rhybudd newid ac wrth i gyfyngiadau barhau i gael eu llacio dros y misoedd nesaf, bydd y Grŵp Cynghori yn cynorthwyo digwyddiadau sy'n cadw'n gaeth at y canllawiau ar adeg y digwyddiad yn unig.
 
Cyn llenwi'r Ffurflen Hysbysu Digwyddiad a datblygu eich asesiadau risg, edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf am reoliadau a chanllawiau COVID-19 sydd i'w gweld yn: https://llyw.cymru/topic/980/latest
 
Canllawiau i drefnwyr digwyddiadau crynoadau rheoledig yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): https://llyw.cymru/creu-digwyddiadau-covid-effro
 
Rydyn i'n argymell eich bod chi'n edrych ar y dudalen we hon yn rheolaidd gan fod rheoliadau a chanllawiau COVID-19 yn newid yn aml. Rydyn ni'n eich cynghori chi i gyflwyno cais dim ond os yw eich digwyddiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r rheoliadau diweddaraf.
 
Os dewiswch drefnu digwyddiad, nodwch y gallai cyngor a threfniadau newid yn dibynnu ar lefelau mynychder COVID-19 a newidiadau i ganllawiau a rheoliadau Llywodraeth Cymru. Felly, bydd y person sy'n trefnu'r digwyddiad yn gwneud hynny ar ei fenter ei hunan. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gymryd cyfrifoldeb am unrhyw gost neu golled sy'n gysylltiedig â pharatoi digwyddiad pe bai'n cael ei ganslo.

Pan fyddwch yn penderfynu cynnal digwyddiad bach neu gymunedol, mae angen i chi feddwl am bwy fydd yn mynychu, y cyfleusterau y byddant eu hangen, pa fath o weithgareddau fydd gennych ac unrhyw ofynion diogelwch.

Gall ESAG (Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau) Caerffili ddarparu cyngor a chymorth ymarferol i drefnwyr digwyddiadau sy’n trefnu digwyddiad am y tro cyntaf ynghyd â threfnwyr digwyddiadau proffesiynol a phrofiadol sy’n newydd i’r fwrdeistref sirol.

Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau (ESAG)

Mae Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau (ESAG) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i sefydlu er mwyn helpu pobl i gynllunio a threfnu digwyddiadau llwyddiannus a diogel i’r cyhoedd o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Rydym yn cynnig cyfarwyddyd i drefnwyr digwyddiadau ar arfer gorau i sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel ac yn bodloni’r holl ofynion deddfwriaethol, cyfreithiol a gweithredol.

Nid oes ffi am ein cyngor a’n cyfarwyddyd ar y cam cynllunio. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau yn codi tâl am fynychu’r digwyddiad ei hun.

Pwy all fy helpu a rhoi cyngor i mi?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cydweithredu gyda’r Heddlu, Tân ac Achub, Ambiwlans a grwpiau perthnasol eraill i gynnig cyngor a darparu cymorth i unrhyw un sy’n cynllunio digwyddiad.

Gall y Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau gynnig cyfarwyddyd ar:-

  • Sut i gychwyn arni
  • Yr hyn sydd angen i chi ei wneud
  • Pwy ddylech gysylltu â nhw am gyfarwyddyd arbenigol

Y brif wybodaeth yr ydym ei hangen gennych yw, fel a ganlyn:-

  • Pa fath o ddigwyddiad ydych chi’n ei gynllunio
  • Ble caiff ei gynnal
  • Pryd caiff ei gynnal, dyddiad ac amser
  • Pwy fydd yn mynychu
  • Pa niferoedd fydd yn mynychu
  • Pa gyfleusterau fyddwch chi eu hangen i’ch ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys toiledau, cymorth cyntaf, dŵr yfed a lluniaeth.
  • A yw eich digwyddiad ar gyfer grwpiau penodol, megis plant, pobl ifanc, pobl hŷn neu bobl ag anableddau?
  • A oes arnoch angen unrhyw gyfleusterau penodol i’r grwpiau hyn?
  • Beth sydd angen i chi ei wneud i reoli torfeydd yn ddiogel?
  • A yw’r safle arfaethedig y maint priodol ar gyfer y niferoedd fydd yn mynychu?
  • Mae’n bosib y gofynnir am wybodaeth arall, yn dibynnu ar y math o ddigwyddiad yr ydych yn ei gynllunio

Po gynharaf y gallwch ddarparu’r wybodaeth hon, bydd hi’n haws i’r ESAG allu eich helpu chi.

Er mwyn galluogi i drefnwyr digwyddiadau fodloni eu cyfrifoldebau, nid oes ffi am y cyfarwyddyd hwn yn ystod y cam cynllunio. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau yn codi ffi am fynychu’r digwyddiad ei hun.

Materion y mae angen i chi eu hystyried

  • Cynllun gweithredol a fydd yn cynnwys cynllun o’r safle ac asesiad risg
  • Cynllun argyfwng, iechyd a diogelwch, deddfwriaeth a chyfreithiol
  • Cau ffyrdd, arwyddion, effeithiau arbennig ac ati.
  • Diogelwch tân, stiwardio, darpariaeth feddygol, toiledau
  • Mynediad i’r anabl, strwythurau dros dro
  • Mynediad i gerbydau argyfwng, parcio
  • Systemau Sain / PA, bwyd a diod
  • Gwaredu gwastraff
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Trwydded eiddo neu Rybudd Digwyddiad Dros Dro (TEN)
  • Eraill fel sydd angen (yn dibynnu ar y math o ddigwyddiad) 

Aelodau’r Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (yr holl Adrannau perthnasol)
  • Heddlu Gwent
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST)
  • Sefydliadau eraill fel sydd angen

Cyfarfodydd y Grŵp Ymgynghorol Diogelwch

Cynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd, ond gellir cynnal cyfarfodydd arbennig er mwyn trafod digwyddiadau mawr.

Faint o rybudd sydd angen ar y Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau?

Po fwyaf o rybudd a gawn, y mwyaf o amser caiff y trefnwyr i gynllunio’n effeithiol, yn enwedig os yw’r digwyddiad yn un mawr neu os oes angen trwyddedau a/neu gau ffyrdd.

Fel arfer, mae hi’n cymryd 6 mis i drefnu digwyddiad bach a hyd at 12 mis i ddigwyddiad mwy.

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad

Gallwch ddweud wrthym am ddigwyddiad yr ydych yn ei gynllunio drwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Mae fersiwn PDF o’r ffurflen ar gael hefyd, y gallwch ei dychwelyd drwy’r post.

Llenwi hysbysiad digwyddiad ar-lein>

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Os ydych chi wedi creu cyfrif, bydd eich ffurflen yn arbed yn awtomatig wrth i chi symud ymlaen trwy bob adran. Yna, gallwch gyrchu unrhyw ffurflenni sydd wedi'u llenwi'n rhannol drwy fewngofnodi i'ch cyfrif Cyswllt Caerffili.  https://caerphilly.mycouncilservices.com. 

Ffurflen hysbysiad digwyddiad (PDF)

Ffurflen gais digwyddiad arbennig (cau ffyrdd) (PDF)

Gwybodaeth Bellach

  • Cynllunio Digwyddiadau ac Ystyriaethau Gwrthderfysgaeth 
  • Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau – Cylch Gorchwyl (PDF)
  • Taflen wybodaeth am drefnu digwyddiadau – rheolaethau eraill (PDF)
  • Cyfarwyddyd cynllunio digwyddiadau (PDF)
  • ESAG – cysylltiadau defnyddiol (PDF)
  • Ffurflenni a chyfarwyddyd trwydded eiddo
  • Ymgeisio am rybudd digwyddiadau dros dro
  • Cyfarwyddyd Mannau Poblog NaCTSO (PDF)

Hyrwyddo digwyddiad yn y dyfodol

Os ydych wedi trefnu digwyddiad ac am iddo ymddangos ar y Wefan hon, gorau po gyntaf y rhowch chi’r manylion i ni. Mae rhoi gwybod i ni yn gynnar yn golygu y caiff eich digwyddiad ei hyrwyddo’n fwy effeithiol.

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad

Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl