Lleiniau ar gyfer garejis a lloriau caled

Stay Connected

Gallwch nawr gofrestru am hysbysiadau e-bost. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion arall y cyngor.

Yma, cewch fanylion am y lleiniau ar gyfer garejis a lloriau caled sydd ar gael i'w prydlesu. Gellir defnyddio'r llain ar gyfer cadw cerbyd modur preifat wedi'i drethu a'i yswirio a ddefnyddir yn rheolaidd. Os ydych am adeiladu garej, bydd angen ei adeiladu yn unol â manyleb y Cyngor. Edrychwch ar y fanyleb leiaf yma.
 
Mae tenantiaid yn gwbl gyfrifol am yr holl waith cynnal a chadw ac atebolrwydd am strwythur y garej a'r llain. Bydd angen caniatâd cynllunio cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau. Cysylltwch â'r adran Gynllunio ar 01443 866416/cynllunio@caerffili.gov.uk neu Lisa Jennings 01443 864102/jennil2@caerffili.gov.uk i drafod ymhellach.
 
Safle garej Cwmcarn yn Heol Nantcarn

Cysylltu â ni

Os hoffech siarad ag aelod o’r Tîm Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol, Cysylltwch â Lisa Jennings ar 01443 864102.

Os hoffech chi i gael eich rhoi ar ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag argaeledd tir ac eiddo cofrestrwch ar gyfer hysbysiadau e-bost.

Os hoffech wneud cais i ddefnyddio, prydlesu neu brynu tir neu eiddo, llenwch ein ffurflen gais.

Sites