Chwaraeon Caerffili
Mae adran Datblygu Chwaraeon y gwasanaeth Chwaraeon Caerffili yn cynorthwyo cyfranogwyr o bob oed i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn amrywiaeth o leoliadau.
Rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o raglenni yn amrywio o Chwaraeon Ysgolion, Rhaglenni Cymunedol, Llythrennedd Corfforol, Sesiynau Chwaraeon Penodol, Chwaraeon Anabledd, Dyfodol Cadarnhaol a Chynlluniau/Gwersylloedd Chwaraeon yn ystod gwyliau’r ysgol.
Rydyn ni’n cynorthwyo darpariaeth a chyfleoedd am chwaraeon o fewn y fwrdeistref er mwyn cynorthwyo mwy o bobl, i fod yn fwy egnïol, yn fwy aml.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
- Cynorthwyo yn ystod Cynlluniau Chwaraeon/Gwersylloedd Chwaraeon.
- Gwirfoddoli a chefnogi digwyddiadau ysgol a chymunedol fel 10 Cilomedr Caerffili neu fathau eraill o gystadleuaeth neu ŵyl chwaraeon.
- Cynorthwyo gyda sesiynau cymunedol gyda'r nos (sesiynau twdlod 3-6 oed neu sesiynau Allgymorth Dyfodol Cadarnhaol).
- Cynorthwyo mewn amrywiaeth o ffyrdd yn ystod sesiynau, gwersylloedd neu ddigwyddiadau megis cynorthwyo hyfforddwyr, gweithio gyda chyfranogwyr penodol, dyfarnu, cadw sgôr a hyfforddi.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
- Gwiriad llawn y Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd
- Sesiwn Sefydlu Gwirfoddolwyr
- Pecyn Gwirfoddolwyr
- Cynorthwyo a Mentora gan Swyddogion Datblygu Chwaraeon
- Uwchsgilio Diogelu a Chymorth Cyntaf (os oes angen)
- Cyfleoedd posibl i fynychu cyrsiau chwaraeon penodol
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Ben Hammond – Swyddog Datblygu’r Gweithlu
E-bost: chwaraeoncaerffili@caerffili.gov.uk
Twitter: @Sport_Leisure
Facebook: Sport Caerphilly