Gwasanaeth Hamdden
Mae gwasanaethau Hamdden CBSC yn darparu cyfleusterau chwaraeon, ffitrwydd a hamdden ar gyfer pob oed a gallu. Rydyn ni’n cynnal 6 phwll nofio, 8 campfa a nifer o gyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored ar draws holl ardaloedd y fwrdeistref.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
- Ffitrwydd – cynorthwyo yn unrhyw un o’n campfeydd o’r radd flaenaf. Gweithio ochr yn ochr â'n haelodau tîm profiadol i gyflwyno rhaglenni ymarfer corff personol, darparu dosbarthiadau ymarfer corff grŵp eithriadol a darparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol.
- Nofio – cynorthwyo ein timoedd arbenigol i gyflwyno ein rhaglen ddyfrol helaeth. Mae gwersi nofio i Blant ac Oedolion, dosbarthiadau ffitrwydd dŵr ac achub bywydau ymhlith y rolau amrywiol y gallai gwirfoddolwyr eu cael.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
Ochr yn ochr â’n darparwyr hyfforddiant mewnol ac allanol, rydyn ni’n cynnig y cyfle i wirfoddolwyr ennill cymwysterau ‘am ddim’ sy’n berthnasol i’r diwydiant, fel:
- Hyfforddwr Campfa Lefel 2,
- Gwobr Achubwr Bywyd Pwll Nofio
- Athrawon Nofio
- Hyfforddwr ymarfer grŵp.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Cysylltwch ag Arweinwyr Tîm Ardal y Gwasanaethau Hamdden:
Gwobr Achub Bywyd: Matt Taylor: taylom1@caerffili.gov.uk
Nofio: Sian Jones:joness@caerffili.gov.uk
Ffitrwydd: Sean Spooner: spoonsh@caerffili.gov.uk