Canolfannau Cymunedol

Mae rhwydwaith canolfannau cymunedol CBSC yn cynnwys 35 o adeiladau yn y fwrdeistref sirol. Mae pob un yn amrywio o ran maint, oedran a math h.y. “cynnig” mewnol ac allanol i ddarpar logwyr/defnyddwyr. Fodd bynnag, mae nhw i gyd yn ateb yr un diben: - cynnig cyfle i drigolion gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cymdeithasol, adloniadol a/neu addysgol, a digwyddiadau yn eu hardal – “maes budd”.

Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?

Er bod yr holl ganolfannau cymunedol ym mherchnogaeth yr awdurdod lleol, mae nhw’n cael eu prydlesu i bwyllgorau rheoli sy'n eu rheoli o ddydd i ddydd. Mae gan bob pwyllgor rheoli statws elusen, ac yn gweithio ar sail gwbl wirfoddol, wedi’i ethol gan drigolion yr ardal y mae’n ei wasanaethu. 

Gallwch chi ddod yn rhan o’r pwyllgor i helpu gyda rolau amrywiol fel trysorydd, ysgrifennydd, cadeirydd, neu fel aelod o’r pwyllgor i fod yn rhan o weithrediadau o ddydd i ddydd a/neu wneud penderfyniadau ar gyfer y ganolfan gymunedol.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

  • bod yn rhan o dîm cefnogol
  • cyfle i gwrdd â phobl newydd
  • mynediad at hyfforddiant priodol

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Cysylltwch ag ysgrifennydd y ganolfan gymunedol y mae gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli â hi.