Gwasanaeth Ieuenctid
Rydyn ni'n wasanaeth addysg ar gyfer pob person ifanc rhwng 11-25 oed, ond yn wahanol i ysgolion, mae gennym ni berthynas anffurfiol, gwirfoddol gyda phobl ifanc.
Rydyn ni'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, yn ymestyn o gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, i droi llaw at weithgareddau newydd, i dderbyn cymorth gyda heriau ac i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael hwyl, yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, a'u bod nhw'n dysgu, yn cyflawni, ac yn anelu at wneud yn dda ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
- Gweithio o fewn prosiect neu dîm ieuenctid ar draws y fwrdeistref sirol.
- Adeiladu perthnasau gyda phobl ifanc
- Cynorthwyo ac annog unigolion
- Helpu i drefnu a chyflwyno gweithgareddau
- Bod yn esiampl dda
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
- Cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a gweithio gydag unigolion/grwpiau/teuluoedd/cymunedau
- Cymorth gan dîm o weithwyr ieuenctid
- Mynediad at hyfforddiant
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Joanna Nicholson
E-bost: Nichoj1@caerffili.gov.uk
Ffôn: 07771 872634