Gwasanaeth Chwarae
Mae Chwarae Caerffili yn y camau cychwynnol o ddod â rhagor o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ar draws bwrdeistref Caerffili. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys sesiynau chwarae teithiol gan ddechrau gyda'r gyfres Chwarae yn y Parc.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
- Cynorthwyo gweithwyr chwarae i osod a chlirio sesiynau chwarae gan gynnwys rhannu syniadau ar gyfer cynlluniau sesiwn
- Hwyluso chwarae plant gan weithio o fewn yr egwyddorion gwaith chwarae.
- Bod yn awyddus i ddysgu am ddadansoddiadau o risgiau a manteision a sicrhau amgylchedd chwarae cyfoethog.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
- Hyfforddiant ar Ddiogelu
- Cyflwyniad llawn i'r rôl gan gynnwys trosolwg ar gefnogi chwarae.
- Crys T i'w wisgo wrth gyflwyno'r prosiect.
- Cyfle i adeiladu ar brofiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd mewn awyrgylch hwyliog.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Cysylltwch â Becki Miller - Swyddog Digonolrwydd Chwarae yn Chwarae@caerffili.gov.uk.