Liberty Care

Adroddiad Monitro Contract 

  • Enw darparwr: Liberty Care
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: Dydd Iau 26 Ionawr 2023
  • Swyddog(ion) Ymweld: Ceri Williams - Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Yn bresennol: Gary Lewis (Pennaeth Gweithrediadau) Kim Williams (Rheolwr Cofrestredig)

Cefndir

Mae Liberty Care yn ddarparwr gofal cartref yng Nghoed Duon.  Ar hyn o bryd, maen nhw wedi'u cofrestru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwasanaeth byw â chymorth mewn sawl eiddo ledled y Fwrdeistref Sirol.

Cynhaliwyd yr ymweliad monitro ym mhrif swyddfa Liberty Care ac roedd yn cynnwys edrych ar ystod o ddogfennau, polisïau a gweithdrefnau, cynnal trafodaethau â'r Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Cofrestredig, a hefyd cynnal ymweliadau â nifer o eiddo a siarad â thenantiaid sy'n byw yno.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, caiff y darparwr gamau unioni a datblygiadol i'w cwblhau.  Camau unioni yw’r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth), ac argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Canfyddiadau

Dogfennaeth

Edrychwyd ar Gynlluniau Personol ar ffeiliau unigolion wrth ymweld ag eiddo. Roedd Cynlluniau Personol yn fanwl ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac roedd y rhan fwyaf o’r cynlluniau a gafodd eu gweld yn cynnwys yr holl anghenion a nodwyd o’r cynllun gofal a chymorth a gafodd ei baratoi gan yr awdurdod lleol.

Mae Cynlluniau Personol yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei gyflawni'n annibynnol ac yn rhoi cyfarwyddiadau clir i staff, er mwyn ategu'r elfennau o ofal a chymorth mae unigolion angen cymorth â nhw.  Roedden nhw hefyd yn cynnwys hoffterau, cas bethau, cryfderau, dymuniadau ac anghenion yr unigolion, ac yn rhoi darlun cyffredinol da o bob unigolyn.

Roedd asesiadau risg priodol ar ffeil.  Roedden nhw'n fanwl ac yn cynnwys mesurau i'w cymryd i leihau a, hefyd, sut i ymateb i risgiau a nodwyd wrth ddarparu gofal a chymorth.

Mae'n ofynnol i staff ddarllen a llofnodi'r holl ddogfennaeth cynllunio gofal i ddangos eu bod nhw'n gyfarwydd ag anghenion gofal a chymorth unigolion a sut i'w cyflawni.

Roedd rhai o'r cynlluniau personol a gafodd eu gweld wedi'u llofnodi gan yr unigolion a oedd yn cael gofal a chymorth, ond roedd rhai eraill nad oedd wedi'u llofnodi gan yr unigolyn na chynrychiolydd.

Mae adolygiadau o gynlluniau personol yn cael eu cynnal bob tri mis, sydd o fewn yr amlder a nodir yn y rheoliadau. Roedd y ddogfen adolygu yn ddogfen fanwl a chynhwysfawr ar gyfer y tri mis diwethaf.   Roedd y ddogfen yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, byw bywyd iach ac egnïol, apwyntiadau meddygol, meddyginiaeth, a hybu annibyniaeth. Mae mecanwaith sgorio canlyniadau yn cael ei ddefnyddio i fesur pob canlyniad gyda chrynodeb o'r canlyniadau mae'r unigolyn yn dymuno eu cyflawni yn y cyfnod nesaf.

Roedd unigolion ac aelodau staff wedi llofnodi'r dogfennau adolygu a gafodd eu gweld.

Mae darpariaeth gofal a chymorth dyddiol yn cael ei nodi ar daflen cofnodi monitro dyddiol.   Mae'r ddogfen yn annog staff i gofnodi'r gofal a ddarperir yn gywir, gan gynnwys gofal personol, cyllid, sgiliau byw bob dydd, gweithgareddau cymunedol, nodau, apwyntiadau a phrydau bwyd. Mae sylwadau / pryderon hefyd yn cael eu cofnodi gan staff.

Roedd tystiolaeth ar gael yn y ffeil bod yr unigolion yn cael eu hatgyfeirio at asiantaethau allanol pan fo angen.  Mae unigolion yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau'r GIG, gwasanaethau cymdeithasol a chaiff unrhyw gyngor sy'n cael ei roi neu newidiadau i ofal eu diweddaru mewn cynlluniau personol mewn modd amserol.

Mae staff yn defnyddio llyfr cyfathrebu ym mhob eiddo i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth berthnasol yn dilyn newid sifft. Mae hyn hefyd yn cael ei gadarnhau ar lafar mewn proses drosglwyddo i staff ar ddechrau pob sifft.

Roedd yr holl ffeiliau a gafodd eu gweld yn yr eiddo wedi'u storio'n ddiogel mewn cypyrddau ffeilio dan glo. Roedd y ffeiliau'n drefnus ac yn hawdd eu chwilio. 

Staffio

Edrychwyd ar ddwy ffeil staff yn ystod yr ymweliad monitro. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys y ddogfennaeth angenrheidiol, gan gynnwys 2 eirda, gydag o leiaf 1 gan gyflogwr blaenorol; ffurflen gais fanwl; cofnod cyfweliad gyda sgôr; prawf adnabod a chontract cyflogaeth wedi'i lofnodi.

Mae tenantiaid hefyd yn rhan o'r broses recriwtio ac yn cael eu cynnwys ar y panel cyfweld, ac yn ystod y cyfnod sefydlu yn y swyddfa a'r eiddo.

Mae Liberty Care yn adolygu recriwtio a chadw staff yn chwarterol ac yn llunio adroddiad gyda'r canfyddiadau. Roedd yr adroddiad yn tystio i recriwtio a chadw staff da mewn perthynas â'r eiddo a gontractiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dim ond mewn un eiddo a gontractiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y bu angen staff asiantaeth.

Mae rheolwyr ac uwch aelodau eraill o staff ar alwad bob amser i gynnig cymorth i staff yn yr eiddo. Mae'r rheolwyr tŷ ar gyfer pob eiddo hefyd yn cael eu cynorthwyo trwy oruchwyliaeth a chyswllt ffôn rheolaidd.  Mae system ar alwad yn cael ei gweithredu gyda'r nos ac ar benwythnosau gyda rheolwyr yn ei chyflenwi ar sail gylchdro.

Goruchwylio a Gwerthuso

Cafodd matrics goruchwylio ei ddarparu, a oedd yn dangos bod staff yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd gan uwch swyddog o fewn yr amserlenni a nodir yn y rheoliadau.

O'r sesiynau goruchwylio a gafodd eu gweld yn ffeiliau'r staff, roedd yn amlwg bod y staff yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cynorthwyo yn eu rôl gan arweinwyr tîm ac uwch reolwyr, a'u bod nhw'n gwybod y gallen nhw godi materion a'u bod nhw'n teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny gyda'r uwch reolwyr.

Roedd tystiolaeth hefyd ar gael yn ffeiliau'r staff o werthusiadau blynyddol sydd wedi'u cwblhau gyda'r staff.  Mae'r gwerthusiadau hyn yn rhoi cyfle i staff fyfyrio ar eu cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf, i drafod eu rôl, ac i nodi unrhyw anghenion hyfforddi neu gymorth a allai fod ganddyn nhw.

Hyfforddiant

Mae Liberty Care yn defnyddio amrywiaeth o hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer staff.  Mae rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan hyfforddwyr mewnol, gan hefyd ddefnyddio hyfforddiant gan Dîm Datblygu'r Gweithlu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Roedd matrics hyfforddi'n dangos bod y staff ar y cyfan yn meddu ar yr holl hyfforddiant gorfodol diweddaraf, gyda'r staff hynny oedd angen hyfforddiant gloywi eisoes wedi cadw lle ar gyrsiau yn y dyfodol agos.

Mae staff hefyd yn mynychu ystod eang o gyrsiau hyfforddi anorfodol er mwyn cynorthwyo'r unigolion maen nhw'n gweithio gyda nhw.

Roedd y rhan fwyaf o'r staff wedi cyflawni, neu'n gweithio tuag at gymhwyster NVQ/QCF a oedd yn briodol i'w rôl, ac roedd rhai staff yn gweithio tuag at QCF lefel uwch er mwyn eu helpu nhw i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Adborth Defnyddwyr Gwasanaeth a Rhanddeiliaid

Mae gan Liberty Care systemau sicrhau ansawdd, archwiliadau a monitro amrywiol ar waith, sydd i gyd yn bwydo i mewn i'r adolygiad o ansawdd gofal chwe misol, fel sy'n ofynnol gan y rheoliadau.

Cafodd tystiolaeth ei darparu o ymweliadau Unigolion Cyfrifol â gwasanaethau byw â chymorth, a oedd yn cynnwys yr holl ofynion angenrheidiol fel y nodir yn y rheoliadau, megis trafodaethau ag unigolion sy'n cael gofal a chymorth, arsylwadau cyffredinol, adolygu dogfennau a thrafodaethau â staff. Roedd yr adroddiadau hyn hefyd yn cynnwys camau i'w cwblhau yn dilyn yr ymweliad.

Mae adborth defnyddwyr gwasanaeth hefyd yn cael ei gasglu yn ystod cyfarfodydd tenantiaid ym mhob eiddo a drwy holiaduron sicrwydd ansawdd.

Roedd yr adolygiad o ansawdd gofal yn adroddiad cynhwysfawr, gyda meysydd y mae Liberty Care yn eu gwneud yn dda a meysydd i'w gwella neu eu datblygu.

Meddyginiaeth

Mae polisïau a gweithdrefnau meddyginiaeth yn gadarn.  Roedd tystiolaeth i'w gweld wrth ymweld â'r eiddo bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu dilyn yn gywir a meddyginiaeth yn cael ei storio'n ddiogel.

Mae cyfrifon meddyginiaeth dyddiol yn cael eu cwblhau ar siartiau Cofnod Rhoi Meddyginiaethau, mae archwiliadau meddyginiaeth wythnosol yn cael eu cynnal gan staff ac mae archwiliadau meddyginiaeth misol yn cael eu cynnal gan arweinwyr tîm. 

Roedd y ffeiliau unigol a gafodd eu hadolygu yn yr eiddo yn cynnwys cynlluniau gofal ac asesiadau risg angenrheidiol pe bai angen cymorth ar yr unigolyn gyda meddyginiaeth, a oedd hefyd yn cael eu hadolygu bob chwarter.

Pe bai gwall yn digwydd o ran meddyginiaeth, caiff hyn ei adrodd a'i ymchwilio i nodi unrhyw gamau gweithredu i leihau'r risg y bydd y gwall yn digwydd eto.

Mae Liberty Care yn cynhyrchu adroddiadau dadansoddiadau o wraidd problemau yn ymwneud â meddyginiaeth i ddadansoddi gwallau yn ymwneud â meddyginiaeth bob chwarter.  Mae'r adroddiadau hyn yn dangos mai ychydig iawn o wallau sydd o gymharu â faint o feddyginiaeth sy'n cael ei rhoi ar draws gwasanaethau.

Agwedd at Ofal a Llety

Mae gan Liberty Care Ddatganiad o Ddiben cynhwysfawr sy'n nodi'n glir y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, sut maen nhw'n cael eu darparu ac mae ffocws clir ar sut i gynorthwyo unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol nhw.

Mae gan y cwmni'r polisïau a'r gweithdrefnau angenrheidiol yn eu lle i gyflawni nodau'r datganiad o ddiben.

Mae’r Unigolyn Cyfrifol a’r uwch dîm rheoli yn ymwneud yn weithredol â darparu gofal a chyfleoedd o ddydd i ddydd i’r unigolion maen nhw'n eu cynorthwyo.

Mae'r cwmni hefyd yn elwa ar dîm clinigol mewnol sy'n cynnwys seicolegwyr, arbenigwyr ymddygiad clinigol a therapyddion galwedigaethol, sy'n darparu cymorth i unigolion a staff i gyflawni canlyniadau.

Mae atgyfeiriadau am gymorth/llety yn dod i law gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac unigolion neu eu cynrychiolwyr.  Yna, mae gan Liberty Care broses gadarn ar waith ar gyfer asesu a chynnig tenantiaeth.

Mae'r unigolion yn cael dewis o leoedd gwag ac yn cael cynnig ymweliadau â'r eiddo i gwrdd â staff ac unigolion eraill, ac mae asesiadau cydnawsedd hefyd yn cael eu cynnal, gyda'r tenantiaid presennol yn cael eu hysbysu a'u cynnwys cymaint â phosibl.

Edrychwyd ar gytundebau tenantiaeth priodol mewn ffeiliau unigol wrth ymweld ag eiddo. Er mai Liberty Care yw’r landlord a'r darparwr gofal, nid oes rhaid i denantiaid gael cymorth gan Liberty Care er mwyn cadw eu tenantiaeth, a gallen nhw ddewis darparwr gofal arall. Fodd bynnag, nid oes neb wedi gofyn am y trefniant hwn hyd yma.

Mae cyfle i denantiaid drafod unrhyw faterion yn ymwneud â'u gofal a chymorth neu faterion tenantiaeth yn ystod cyfarfodydd tenantiaeth, adolygiadau o gynlluniau gofal a chyfarfodydd gweithwyr allweddol rheolaidd.

Mae Liberty Care yn cyflogi tîm cynnal a chadw mewnol sy'n ymateb i unrhyw faterion cynnal a chadw sydd wedi'u hadrodd gan arweinwyr tîm yr eiddo.

Camau datblygiadol

Camau Unioni

Ni chafodd unrhyw gamau unioni eu nodi yn ystod yr ymweliad monitro hwn.

Camau Datblygiadol

Ni chafodd unrhyw gamau datblygiadol eu nodi yn ystod yr ymweliad monitro hwn.

Casgliad

Roedd yr ymweliadau monitro â'r swyddfa, ac yn enwedig yr eiddo a'r sgyrsiau ag unigolion, yn gadarnhaol.  Mae'n amlwg bod gan Liberty Care ethos o gynorthwyo unigolion a staff i gyflawni eu nodau.  Mae ffocws clir ar gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyflawni canlyniadau yn annibynnol cymaint â phosibl.  Caiff unigolion eu cynorthwyo a'u diogelu gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda, sydd yn eu tro yn cael eu cynorthwyo gan uwch dîm rheoli gweladwy a rhagweithiol.

Hoffai'r swyddog monitro ddiolch i'r tenantiaid a'r staff am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliadau monitro.

  • Awdur: Ceri Williams
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 24/04/2023