Cartref Nyrsio Ynys-ddu

Hen Orsaf yr Heddlu, Bryn Hyfryd, Ynys-ddu, ger Crosskeys, NP11 7JQ.
Ffôn: 01495 200061
E-bost: Ynysdducarehome@outlook.com

Adroddiad Monitro Contractau

  • Enw/Cyfeiriad y Darparwr: Cartref Nyrsio Ynys-ddu, Hen Orsaf yr Heddlu, Mount Pleasant, NP11 7JQ
  • Dyddiad/Amser yr Ymweliad/ Ymweliadau: Dydd Iau 29 Mehefin 2023, 9.00am–2.00pm (gyda'r Swyddogion Ymweld wedi'u rhestru isod) Dydd Mercher 4 Hydref 2023, 9.30am–12.35pm                              
  • Swyddog/Swyddogion Ymweld: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Jay Ventura Santana, Nyrs Arweiniol Cartrefi Cymunedol Cymru a Llywodraethu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Karen Taylor, Nyrs Arweiniol Cartrefi Cymunedol Cymru a Llywodraethu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan                             
  • Yn bresennol: Natasha James, Rheolwr Cofrestredig

Cefndir

Mae Cartref Nyrsio Ynysddu wedi'i gofrestru i ddarparu gofal i gyfanswm o 31 o bobl, sydd naill ai ag anghenion preswyl neu nyrsio. Mae'r cartref yn cynnwys 3 llawr ac mae wedi'i leoli mewn safle uchel ym mhentref Ynysddu. 

Ar adeg yr ymweliadau roedd 29 o bobl yn byw yng Nghartref Nyrsio Ynysddu, gyda 2 swydd nyrsio wag.   

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad ym mis Awst 2023 a amlygodd dim ond nifer fach o feysydd i’w gwella, ac roedd adroddiad yr arolygiad yn gadarnhaol am y gofal a’r cymorth sy'n cael eu darparu yn y Cartref. 

Fel rhan o'r broses fonitro, mae adborth yn cael ei gasglu gan weithwyr proffesiynol (gweithwyr cymdeithasol ac ati) a pherthnasau ac ati, ac yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ychydig iawn o faterion/pryderon oedd wedi dod i law.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gall y darparwr gael camau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw’r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth) ac argymhellion arfer da yw camau datblygiadol. 

Argymhellion Blaenorol

Camau Unioni

Disgrifiad swydd i gael ei ddiweddaru gyda'r derminoleg ddiweddaraf. Amserlen: O fewn 1 mis. Rheoliad 35, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Goruchwyliaeth i ddangos tystiolaeth o unrhyw sgyrsiau/trafodaethau dwy ffordd sy'n cael eu cynnal gyda staff (a materion a phryderon, anghenion hyfforddi, camau i'w cymryd ac ati.) ac i gynnal gwerthuso. Amserlen: Yn barhaus. (Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Wedi'i gwblhau'n rhannol.

Goruchwyliaeth i'w chynnal rhwng y rheolwr a'r Unigolyn Cyfrifol yn chwarterol yn rheolaidd. Amserlen: O fewn mis. (Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Heb ei ddogfennu ar hyn o bryd.

Bylchau mewn hyfforddiant i gael eu blaenoriaethu a'u mynychu gan yr holl staff.  Amserlen: Yn barhaus. (Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Wedi'i gwblhau'n rhannol.

Unigolyn Cyfrifol

Mae'r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth yn ymweld â Chartref Nyrsio Ynysddu yn rheolaidd i oruchwylio'r gwasanaeth a'i ansawdd. Cafodd yr adroddiadau chwarterol diweddaraf ar gyfer eleni eu gweld, a oedd yn nodi bod meysydd allweddol yn cael eu hamlygu i'w gwella. 

Roedd Datganiad o Ddiben a canllaw ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth y cartref ar gael ac wedi cael eu diweddaru ym mis Awst 2022.

Pe bai'r Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Cofrestredig yn absennol byddai'r Uwch Nyrs/Dirprwy Reolwr yn dirprwyo yn eu habsenoldeb.

Gofynnwyd am Bolisïau a Gweithdrefnau Gorfodol ac fe’u gwelwyd (e.e. diogelu, cwynion, derbyniadau/cychwyn gwasanaeth ac ati), gyda phob un ohonyn nhw wedi’u hadolygu yn ystod y misoedd diwethaf, ond roedd rhai yn cyfeirio at derminoleg hen ffasiwn.

Rheolwr Cofrestredig

Mae'r Rheolwr wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (rheoleiddiwr y gweithlu) ac mae'n weladwy ac yn hygyrch i staff ac ymwelwyr fel ei gilydd. Hefyd, mae gan y Rheolwr ddull ‘ymarferol’ ac mae’n cynorthwyo gyda darparu gofal a chymorth i’r preswylwyr. 

Nid oes gan y Cartref Deledu Cylch Cyfyng (goruchwylio) yn unrhyw le y tu mewn neu'r tu allan i'r adeilad, felly nid oes angen dogfennau caniatâd i'w cwblhau gan aelodau'r teulu.

Hyfforddi Staff

Mae mynediad at hyfforddiant staff trwy sefydliadau fel Evergreen, Langfords, Tîm Datblygu Gweithlu Blaenau Gwent/Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae gan staff fynediad at ystod o hyfforddiant e.e. diogelu, rheoli heintiau, hylifau/maeth, urddas a phreifatrwydd, cwympo, iechyd a diogelwch ac ati. Roedd y matrics hyfforddi yn awgrymu bod bylchau yn hyfforddiant staff, fodd bynnag roedd tystiolaeth o dystysgrifau bod y mwyafrif o'r staff wedi mynychu llawer o gyrsiau hyfforddi ond bod angen diweddaru'r matrics i adlewyrchu hyn. Mae angen rhywfaint o hyfforddiant allweddol (diogelu) ar rai staff nad ydyn nhw wedi mynychu'r cyrsiau hyn.

Staffio

Mae 2 gydlynydd gweithgareddau sydd wedi'u cyflogi i ddarparu gweithgareddau i breswylwyr. Mae llawer o weithgareddau yn cael eu trefnu, e.e. maldod, sesiynau canu, ymarferion cadair ac ati. Mae pobl hefyd yn cael eu cynorthwyo i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol yn ystafelloedd yr unigolyn ei hun ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n dymuno defnyddio’r lolfa, neu’r rhai na allan nhw wneud hynny.  Roedd lluniau ar y wal o bobl yn mwynhau eu hunain ac roedd rhai lluniau digidol parti traeth ar gael o barti a gafodd ei gynnal yn ystod yr haf. Roedd cardiau ‘diolch’ i’w gweld ar yr hysbysfwrdd hefyd.

Mae lefelau staffio yn parhau fel 2 nyrs gymwysedig ar ddyletswydd yn ystod y dydd, 5/6 gofalwr yn ystod y bore a'r prynhawn. Yn ystod y nos mae 1 nyrs ar ddyletswydd a 2 ofalwr, fodd bynnag, o ystyried y gofynion sy’n gysylltiedig â chynllun yr adeilad, byddai cael trydydd gofalwr ar ddyletswydd yn lleddfu'r pwysau. Mae'r Cartref yn defnyddio asiantaeth nyrsio pan fo angen, sy'n sicrhau bod yr un staff yn gweithio yn y lleoliad i sicrhau cysondeb.

Mae'r ‘Cynnig Rhagweithiol – Mwy Na Geiriau’ (polisi diwygiedig Deddf yr Iaith Gymraeg) yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyfathrebu yn Gymraeg i bobl y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddyn nhw, heb i'r person ofyn am hynny. Mae’r Cartref yn ceisio darparu ar gyfer y rhai sy’n dymuno sgwrsio yn y Gymraeg, ac mae Datganiad o Ddiben y Cartref yn adlewyrchu hynny. Fodd bynnag, pe byddai preswylydd yn gwbl Gymraeg ei iaith, ni fyddai'r Cartref yn gallu darparu ar gyfer ei anghenion. Ar hyn o bryd, mae preswylydd sy'n siarad Cymraeg ac mae yna staff sy'n gallu siarad Cymraeg sgyrsiol. Mae llyfrau cyfathrebu Cymraeg i'r holl staff eu defnyddio hefyd.

Cafodd dwy ffeil staff eu gweld a oedd yn awgrymu bod proses recriwtio gadarn wedi cael ei chynnal ym mhob achos. Roedd yr wybodaeth yn y ffeiliau yn cynnwys e.e. geirdaon, ffurflenni cais, ffotograffau staff, gwybodaeth DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd), Contract Cyflogaeth, cofnodion cyfweliad ac ati. Mae'r Cartref wedi cael trwydded noddi sy'n eu galluogi nhw i recriwtio pobl o dramor, ac roedd dogfennaeth berthnasol sy'n ymwneud â gwybodaeth fisa a thrwydded breswylio ar gyfer un o'r aelodau staff yn bresennol.

Goruchwylio ac Arfarnu

Mae matrics goruchwylio/gwerthuso, ond ar hyn o bryd nid yw hwn yn cynnwys unrhyw ddyddiadau i nodi pryd mae sesiynau wedi cael eu cynnal. Mae sesiynau yn cael eu cynnal rhwng yr aelod staff a'r Rheolwr. O'r ffeiliau staff a gafodd eu gweld, roedd yn amlwg bod sesiynau goruchwylio wedi cael eu cynnal, ond nid oes gan y Rheolwr oruchwylio wedi'i dogfennu'n barhaus, er bod sgyrsiau am ei rôl ac ati yn cael eu cynnal.

Sicrhau ansawdd

Mae'n ofynnol i'r Cartref Nyrsio gynhyrchu adroddiadau sicrhau ansawdd bob 6 mis sy'n dangos bod preswylwyr, perthnasau, staff a rhanddeiliaid eraill yn cymryd rhan. Dylai hyn hefyd gynnwys dadansoddiad o'r adborth hwn, y gwersi sydd wedi cael eu dysgu o gwynion/diogelu, tueddiadau/canlyniadau archwiliadau, ymweliadau ac arolygiadau gan yr Unigolyn Cyfrifol. Cafodd yr adroddiad diweddaraf ei ddarparu a gafodd ei gydnabod i fod yn drosolwg cynhwysfawr o'r gwasanaeth.

Mae trosglwyddo staff yn digwydd ar ddechrau pob sifft sy'n cynnwys yr holl staff ar sifft ar y pryd. Hefyd, mae llyfr adrodd lle mae diweddariadau pwysig yn cael eu nodi gan staff fel bod pobl sy'n dod ar sifft, a allai fod yn absennol am ychydig ddyddiau, yn gallu darllen a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau diweddar. Mae'r Cartref hefyd yn defnyddio grŵp WhatsApp i gyfleu gwybodaeth i'r tîm staff.

Mae llyfrau cyfathrebu wedi'u cyflwyno i'r holl breswylwyr fel y gall ymwelwyr (teulu/ffrindiau) ysgrifennu unrhyw sylwadau a fydd yn bwydo i mewn i'r broses sicrhau ansawdd er mwyn sicrhau bod adborth gwerthfawr yn cael ei gasglu ac y gall camau gweithredu ddeillio o hynny. Mae'r rhain yn cael eu casglu'n rheolaidd ond mae ymwelwyr yn ymwybodol bod ‘polisi drws agored’ yn parhau er mwyn i unigolion allu codi unrhyw bryderon mewn modd amserol hefyd.

Ar hyn o bryd nid yw cyfarfodydd tîm staff a chyfarfodydd preswylwyr/perthnasau yn cael eu cynnal. Cadarnhaodd y Rheolwr fod cynlluniau i ailddechrau cyfarfodydd tîm staff.

Archwiliad o ffeiliau a dogfennaeth

Cafodd dwy ffeil eu gweld a oedd yn cynnwys mynegai ac roedd yr holl wybodaeth yn hawdd ei chanfod.

Roedd Cynlluniau Personol (cynlluniau gofal) ar waith ar gyfer llawer o feysydd angen e.e. symudedd, maeth, gofal personol, ymataliaeth, cyfathrebu ac ati, ac roedd asesiadau risg addas yn bresennol hefyd. Nid oedd y cynllun cymorth gofal personol yn cynnwys rhywfaint o fanylion am hoffterau'r person o ran ymolchi, ac nid oedd yn ymddangos bod cynlluniau meddyginiaeth personol yn bresennol. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Rheolwr fod rheoli meddyginiaeth yn cael ei gynnwys mewn cynllun Gofal a Chymorth addas arall.

Roedd Cynlluniau Personol ac Asesiadau Risg wedi cael eu hadolygu’n fisol i ystyried unrhyw newidiadau i anghenion gofal y person.

Roedd cofnodion dyddiol wedi cael eu hysgrifennu'n gynhwysfawr a'u llofnodi a'u dyddio gan yr aelod o staff a oedd yn eu llenwi.

Mae’r ddogfen ‘Dyma fi’ yn cael ei chyflwyno er mwyn gallu cipio gwybodaeth am breswylwyr nad ydyn nhw'n gallu ei rhannu amdanyn nhw eu hunain yn hawdd. Mae hyn yn cynnwys manylion fel y bobl sy'n bwysig yn eu bywydau, digwyddiadau bywyd pwysig, eu hoffterau ac ati a gall fod yn gymorth gwerthfawr i staff sy'n gofalu am bobl.

Cafodd y swyddog monitro contractau ei hysbysu bod cynlluniau i roi gwybodaeth am breswylwyr ar ffurf electronig yn hytrach na ffurf ysgrifenedig yn y dyfodol agos. 

Cynnal a chadw'r cartref

Ar hyn o bryd mae swydd wag ar gyfer rôl cynnal a chadw cartref y mae'r Cartref wrthi'n ceisio recriwtio iddi. Ar hyn o bryd, mae'r holl wiriadau cynnal a chadw yn cael eu cynnal gan Reolwr y Cartref.

Diogelwch Tân/Iechyd a Diogelwch

Roedd yr asesiad risg tân diweddaraf wedi'i gwblhau ym mis Gorffennaf 2023 ac roedd yn cynnwys nifer o argymhellion i'r Cartref fynd i'r afael â nhw. Cadarnhaodd y Rheolwr fod yr holl argymhellion bellach wedi'u cyflawni.

Mae ‘ffeil cydio’ yn y fan a’r lle i’w ddefnyddio os bydd ymarfer tân/tân go iawn sy’n cynnwys gweithdrefnau gwacáu a chyfeiriad at symudedd pobl, a sut i’w cynorthwyo nhw os bydd tân. Nid oedd rhai Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP’s) yn bresennol a gafodd ei dynnu at sylw’r Rheolwr ar adeg yr ymweliad.

Roedd driliau tân wedi cael eu cynnal yn rheolaidd eleni. Roedd nifer dda o staff wedi mynychu'r rhain, gyda throsolwg byr o ble digwyddodd yr ymarfer tân a pha mor dda roedd wedi ei gynnal. Roedd y rhain wedi cael eu cyflawni gan y Rheolwr Cofrestredig yn absenoldeb person cynnal a chadw addas.

Cafodd sgôr Hylendid Bwyd o 4 (da) ei ddyfarnu ym mis Awst 2023 a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion i fynd i’r afael â nhw.

Holiadur preswylwyr

Nid oedd unrhyw gwestiynau penodol o'r Teclyn Monitro, fodd bynnag cafodd sgyrsiau cyffredinol eu cynnal gyda phobl sy'n byw yn y cartref a oedd yn ganmoliaethus am y gofal y maen nhw'n ei gael. Mynegodd preswylydd fod y staff ‘as good as gold’ a’i bod yn teimlo ei bod hi’n cael gofal da iawn.

Holiadur perthnasau

Cysylltwyd â pherthynas am ei adborth a ddywedodd bod y gofal y mae ei frawd yn ei gael yn Ynysddu yn dda iawn.

Asrylwadau (Gweithgareddau, Amgylcheddol, Cyfleusterau)

Roedd staff gofal yn bresennol yn y lolfa yn ystod yr ymweliadau a chawson nhw eu gweld yn ymgysylltu â'r preswylwyr yn ddi-frys.

Mae 2 gydlynydd gweithgareddau yn cael eu cyflogi yn y Cartref sy'n darparu symbyliad i'r preswylwyr ac mae'r trefniadau ymweld hyblyg yn galluogi teulu a ffrindiau i ymweld ar unrhyw adeg. Cafodd y swyddog monitro contractau ei hysbysu am ddigwyddiadau â thema sydd wedi cynnwys nosweithiau cyri, bingo a pharti traeth. Ar y waliau, mae ffotograffau o rai gweithgareddau y mae pobl wedi cymryd rhan ynddyn nhw.

Mae'r Cartref wedi elwa ar do a chladin newydd eleni, mae ffenestri newydd, boeler nwy newydd a rheiddiaduron yn cael eu gosod (oherwydd nad yw'r thermostatau'n gweithio). 

Cafodd clychau galw eu clywed ac fe gafon nhwymateb prydlon yn ystod yr ymweliadau monitro.

Mae Cartref Nyrsio Ynysddu yn Gartref dim ysmygu felly ni fyddai'n derbyn unrhyw breswylydd pe baen nhw'n ysmygu.

Cafodd ei nodi bod y cartref yn lân, yn daclus ac yn rhydd o unrhyw ddrewdod. Mae gan yr ardal patio allanol fyrddau a chadeiriau i bobl eu defnyddio ac mae'n ardal ddiogel a dymunol gyda golygfa hyfryd.

O edrych ar ystafelloedd rhai pobl, roedd yn amlwg eu bod nhw wedi cael eu personoli â’u dillad gwely eu hunain, lluniau, ffotograffau ac ati er mwyn eu gwneud nhw mor gartrefol a chyfforddus â phosibl.

Camau Unioni/Datblygiadol

Matrics hyfforddi i gael ei ddiweddaru i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl hyfforddiant sydd wedi cael ei gyflawni. Mynediad at hyfforddiant gorfodol allweddol ar gyfer yr holl staff. Amserlen: O fewn 3 mis ac yn barhaus. (Rheoliad 34, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Matrics goruchwylio/gwerthuso i gynnwys dyddiadau pan fydd sesiynau wedi'u cynnal. Amserlen: O fewn 3 mis. (Rheoliad 35, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Polisïau/Gweithdrefnau i gynnwys y derminoleg ddiweddaraf. Amserlen: O fewn 2 fis. (Rheoliad 38, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Wedi'i gwblhau yn dilyn yr ymweliadau.

Ysgrifennu Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng ar gyfer y rhai nad ydyn nhw wedi cael eu hychwanegu at y ffeil rhag ofn y byddai argyfwng. Amserlen: Ar unwaith. (Rheoliad 57, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Wedi'i gwblhau yn dilyn yr ymweliadau.

Ailgyflwyno cyfarfodydd tîm staff a rhoi ystyriaeth i gyfarfodydd preswylwyr/perthnasau. Amserlen: O fewn 6 mis. (Rheoliad 38, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Camau Datblygiadol

Ystyried cyflwyno cynlluniau meddyginiaeth personol ar gyfer pob unigolyn, neu fel arall sicrhau bod rheoli meddyginiaeth yn cael ei gynnwys yn gadarn o fewn cynllun cymorth arall y mae pob aelod o staff yn gwybod ble i ddod o hyd iddo. Amserlen: O fewn 1 mis.

Casgliad

Mae Cartref Nyrsio Ynysddu yn parhau i ddarparu amgylchedd croesawgar a gofalgar i breswylwyr ac ymwelwyr. 

Roedd dogfennaeth y Cartref yn gadarn, gyda chynlluniau personol pobl yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac roedd ffeiliau staff yn nodi bod proses recriwtio gadarn ar waith. Er bod y swyddog monitro contract yn ymwybodol bod hyfforddiant staff wedi cael ei gynnal, nid oedd hyn bob amser i'w weld ar y matrics hyfforddi, fodd bynnag roedd sicrwydd y byddai hwn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r hyfforddiant sydd wedi digwydd.

Bu buddsoddiad yng Nghartref Nyrsio Ynysddu o ran gwaith adnewyddu sylweddol sy'n gadarnhaol. 

Mae systemau a phrosesau ar waith i sicrhau darparu ar gyfer lles preswylwyr a staff.

Hoffai'r Swyddog Monitro Contractau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i staff Ynysddu am eu hamser a'u lletygarwch.

  • Author: Andrea Crahart
  • Designation: Contract Monitoring Officer
  • Date: October, 2023