Cartref Nyrsio Parc Trafalgar

Heol Islwyn, Heol Pontypridd, Nelson, Treharris, CF46 6HG.
Ffôn: 01443 450423
E-bost: trafalgar.manager@hc-one.co.uk
Gwefan: www.hc-one.co.uk

Adroddiad Monitro Contract

Enw/Cyfeiriad y Darparwr: Cartref Preswyl Trafalgar Park, Heol Islwyn, Heol Pontypridd, Nelson CF46 6HG
Dyddiad yr Ymweliad: Dydd Mawrth 24 Hydref 2023
Swyddog(ion) sy'n Ymweld: Ceri Williams, Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Yn Bresennol: Ellen Smith, Rheolwr Cartref, HC-One

Cefndir

Mae Cartref Gofal Trafalgar Park yn eiddo mawr ar gyriau Nelson. Y darparwr gofal yw HC-One. Mae'r cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal preswyl a gofal preswyl dementia ac roedd dwy swydd wag ar adeg yr ymweliad. Cafodd yr arolygiad diwethaf ei gynnal gan AGC ym mis Rhagfyr 2022, ni nodwyd unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio na meysydd gwella.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, bydd Trafalgar Park yn cael camau unioni a chamau datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw'r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth ac ati), a'r camau datblygiadol yw'r rhai sy'n cael eu hystyried yn arfer da.

Argymhellion Blaenorol

Camau Unioni

Mae Cynlluniau Personol yn cael eu llunio gyda chyfranogiad y defnyddiwr gwasanaeth ac wedi'u llofnodi gan y defnyddiwr gwasanaeth lle bynnag y gallent, neu gan gynrychiolydd. Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Wedi'i gyflawni: Roedd tystiolaeth ar gael o gyfranogiad unigolion a'u cynrychiolwyr yn eu cynlluniau personol ac adolygiadau.

Mae'r Cynllun Personol yn cael ei adolygu'n gyson ac mae'n cael ei ddiwygio a'i ddatblygu er mwyn adlewyrchu newidiadau yn anghenion gofal a chymorth yr unigolion a'r canlyniadau personol. Rheoliad 16, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Wedi'i gyflawni: Roedd y cynlluniau personol a gafodd eu gweld wedi cael eu hadolygu o fewn yr amserlenni perthnasol ac yn cael eu diwygio yn ôl yr angen.

Dylid cwblhau hyfforddiant staff, ar gyfer cyrsiau hyfforddiant gorfodol sy'n hwyr, cyn gynted â phosibl. Rheoliad Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Heb ei gyflawni: Gweler corff yr adroddiad

Nid oedd unrhyw gamau datblygiadol yn yr adroddiad blaenorol.

Canfyddiadau'r Ymweliad

Edrychwyd ar ffeiliau dau breswylydd yn ystod yr ymweliad. Roedd y ddwy ffeil wedi'u mynegeio'n glir ac roedd yn hawdd mynd at yr wybodaeth.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys yr asesiadau cyn derbyn angenrheidiol i breswylwyr. Roedd Cynlluniau Personol ac asesiadau risg yn fanwl, yn bersonol, ac yn rhoi darlun da o'r preswylydd a'i anghenion cymorth a hefyd beth allai gael ei gyflawni yn annibynnol. 

Roedd y Cynlluniau Personol a gafodd eu gweld yn cynnwys yr holl anghenion wedi'u nodi yn y cynlluniau gofal a chymorth wedi'u paratoi gan yr awdurdod lleol.

Roedd y Cynlluniau Personol a gafodd eu gweld yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cynnwys gwybodaeth fanwl am hoffterau/anhoffterau ac arferion, ac yn cynnwys tystiolaeth o'r preswylydd yn cymryd rhan wrth lunio'r cynllun personol. Pan nad oedd gan y preswylydd y gallu i wneud hyn, roedd tystiolaeth o ymgynghori â'r teulu ynghylch anghenion gofal a chymorth y preswylydd.

Roedd asesiadau risg priodol ar waith yn ôl yr angen, i ddiwallu anghenion yr unigolyn.

Mae adolygiadau'n cael eu cwblhau'n fisol, sy'n arfer da. Cafodd yr adolygiadau a gafodd eu gweld yn y ffeiliau eu cwblhau'n amserol. Roedd hefyd dystiolaeth bod preswylwyr neu eu cynrychiolwyr yn cymryd rhan yn yr adolygiad.

Gwelwyd cofnodion dyddiol nifer o unigolion yn ystod yr ymweliad. Roedden nhw i gyd yn cynnwys gwybodaeth fanwl, gan gynnwys rhestrau gwirio o ran eu gofal personol ac roedd cofnodion ysgrifenedig yn cynnwys gwybodaeth am sut gwnaeth y preswylydd dreulio ei ddiwrnod, gan gynnwys ei hwyliau a'i gyflwyniad.

O edrych ar ffeiliau preswylwyr, roedd hi'n amlwg bod newidiadau/dirywiadau sy'n gysylltiedig â phreswylwyr yn cael eu cofnodi a bod y cartref yn gwneud atgyfeiriadau i'r asiantaethau allanol priodol am gymorth wrth reoli cyflyrau. Gwelwyd atgyfeiriadau at ddeietegydd, meddyg teulu, tîm anymataliaeth pan fo angen.

Mae cofnodion dyddiol yn cael eu harchwilio gan uwch aelodau o staff a'r tîm rheoli a gweithredir ar sail unrhyw bryderon, ac maen nhw hefyd ffurfio rhan o'r adolygiadau misol.

Roedd y ffeiliau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am hanes bywyd a lles unigolion, gyda manylder da o ran y preswylwyr, gan gynnwys teulu, galwedigaethau yn y gorffennol, manylion am hobïau a diddordebau, a beth oedd yn bwysig iddyn nhw. 

Staffio

Mae cymhareb staffio'r cartref yn ystod y dydd yn cynnwys 11 aelod o staff gofal a dau uwch aelod o staff gofal sy'n gweithio mewn dwy gymuned. Yn ogystal â'r uchod, mae'r Rheolwr, Dirprwy Reolwr, Cynorthwyydd Gweinyddol, Cynorthwyydd Golchi Dillad, dau Gynorthwyydd Cegin, a dau Gynorthwyydd Domestig. Mae'r sifft nos yn cynnwys chwe gofalwr a dau uwch ofalwr. Mae dau gydlynydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cyflogi yn y cartref.

Edrychwyd ar ddwy ffeil staff yn ystod yr ymweliad monitro. Roedd y ddwy ffeil yn drefnus ac yn cynnwys y ddogfennaeth angenrheidiol, gan gynnwys ffurflen gais fanwl, cofnod cyfweliad gyda sgôr, lluniau o'r aelod o staff a geirdaon wedi'u gwirio. Mae cronfa ddata yn cael ei chynnal sy'n darparu tystiolaeth o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer staff.

Roedd tystiolaeth o hunaniaeth yn bresennol ar y ddwy ffeil staff a oedd yn cynnwys copïau o'u tystysgrifau geni a phasbortau.

Mae cyfarfodydd staff yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac yn cael eu cofnodi, ac mae'r cofnodion hefyd ar gael i staff nad oedden nhw'n bresennol yn y cyfarfodydd.

Hyfforddi a Goruchwylio

Ar adeg yr ymweliad, roedd ystadegau hyfforddi ar gyfer staff yn dangos bod 77% o staff wedi cwblhau'r cyrsiau hyfforddi gorfodol. Eglurodd y rheolwr fod cydymffurfiaeth yn dda o ran hyfforddiant, fodd bynnag, roedd llawer o staff newydd nad oedden nhw wedi cwblhau rhai cyrsiau eto, ac eglurodd fod y ffigyrau hefyd yn cynnwys aelodau o staff oedd wedi gadael neu nad oedd yn gweithio ar yr adeg honno.

Mae gofyn i staff hefyd gwblhau hyfforddiant mewn cyrsiau nad ydyn nhw'n orfodol, er mwyn deall a chynorthwyo'r preswylwyr dan eu gofal yn well. Roedd y rhain yn cynnwys gofal dementia, hyrwyddo croen iach a gofalu am glwyfau, a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Cafodd tystiolaeth ei darparu bod staff yn cael goruchwyliaeth wyneb yn wyneb ag uwch aelod o staff o fewn yr amserlenni wedi'u gosod yn y rheoliadau. Gwelwyd enghraifft o oruchwylio, roedd y fformat yn cynnwys sgwrs agored rhwng staff a'r rheolwr, gan gynnwys unrhyw faterion cymorth neu hyfforddiant oedd ei angen, a hefyd eitemau i'w trafod a chamau ar gyfer y cyfarfod nesaf. 

Mae staff hefyd yn cael gwerthusiadau blynyddol gyda'u rheolwr llinell.

Cyfleusterau ac Arsylwadau

Roedd awyrgylch cynnes, ymlaciol yn y cartref, ac fe welon ni ryngweithio cadarnhaol rhwng staff a phreswylwyr yn ystod y dydd. Cafodd staff eu harsylwi'n cynnig opsiynau ac yn gwneud beth oedd preswylwyr ei eisiau. Roedd y cartref yn lân ac yn daclus drwyddo draw heb unrhyw dystiolaeth o beryglon nac arogleuon drwg. Mae ystafelloedd preswylwyr yn lân, yn olau a phob un â thystiolaeth o bersonoli gydag effeithiau, dodrefn a ffotograffau personol.

Mae dau gydlynydd gweithgareddau newydd wedi cael eu cyflogi gan y cartref ac yn cynllunio digwyddiadau sy'n seiliedig ar adborth gan breswylwyr a'u diddordebau.

Mae gwiriadau cynnal a chadw rheolaidd, fel profi larymau tân, tymheredd dŵr a mesuriadau CO2 yn cael eu cynnal gan y cyflogai cynnal a chadw ac yn cael eu cofnodi yn y ffeil cynnal a chadw. Mae'r rheolwr hefyd yn cynnal hapwiriadau cynnal a chadw.

Cafodd yr asesiad diogelwch tân diwethaf ei gwblhau ym mis Mai 2023 gyda'r holl argymhellion wedi'u cwblhau. Mae ymarferion tân yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn unol ag amserlenni wedi'u nodi mewn rheoliadau ac yn cael eu cofnodi. Roedd Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng yn bresennol yn ffeiliau'r ddau breswylydd a welwyd ac roedden nhw'n gyfredol o ran unrhyw anghenion cymorth y byddai eu hangen wrth adael ac yn cael eu hadolygu'n fisol hefyd.

Adborth Preswylwyr a Pherthnasau

Siaradwyd â nifer o breswylwyr yn ystod yr ymweliad, gydag adborth cadarnhaol ganddyn nhw. Dywedodd y preswylwyr eu bod nhw'n hapus yn byw yn y cartref. Mae cyfarfodydd preswylwyr yn cael eu cynnal yn rheolaidd, lle gall preswylwyr drafod pob agwedd ar fyw yn y cartref a chymryd rhan wrth gynllunio digwyddiadau.

Cysylltwyd hefyd â pherthnasau unigolion sy'n byw yn y cartref i gael adborth.

Fe wnaethon nhw gadarnhau eu bod nhw'n cael gwybod am ofal a lles eu perthynas sy'n byw yn y cartref, ac yr ymgynghorir â nhw ynghylch hyn, a'u bod nhw'n cael gwybod am apwyntiadau ysbyty, newidiadau mewn iechyd ac ati.

Nid oedd gan yr un berthynas achos i godi unrhyw gwynion neu fân fater yn y cartref a dywedon nhw fod y staff bob amser yn gymwynasgar ac y bydden nhw'n teimlo'n gyfforddus yn codi mater ag unrhyw un o'r staff pe bai angen.

Dywedodd un perthynas fod y gofal yn wych ac nid oedd yn gallu dod o hyd i wendid, a bod wynebau cyfarwydd bob tro mae'n ymweld, a dywedodd fod y staff yn ofalgar iawn.

Sicrwydd Ansawdd

Mae HC-One yn defnyddio nifer o systemau Sicrwydd Ansawdd mewnol ac mae data yn cael eu casglu a'u harchwilio drwy'r systemau hyn yn ddyddiol, yn wythnosol ac yn chwarterol.

Mae'r rheolwr yn cerdded o gwmpas yn ddyddiol, ac mae cyfarfodydd staff, cyfarfodydd perthnasoedd a phreswylwyr ac arolygon blynyddol gan randdeiliaid yn cael eu cynnal fel modd o goladu gwybodaeth. Mae nifer o archwiliadau rheolaidd yn cael eu cynnal mewn meysydd megis meddyginiaeth, rheoli heintiau ac unrhyw gwympiadau/digwyddiadau. Roedd tystiolaeth ar gael bod camau wedi'u nodi o archwiliadau yn cael eu gweithredu, a phrosesau yn cael rhoi ar waith ar gyfer gwelliant pellach.

Roedd adroddiadau chwarterol yr Unigolyn Cyfrifol ar gael i'r swyddog ymweld ac maen nhw'n cael eu cwblhau o fewn amserlenni wedi'u nodi yn y rheoliadau. Maen nhw'n gynhwysfawr ac yn rhoi tystiolaeth o geisio adborth gan breswylwyr a staff o ran byw a gweithio yn y cartref.

Roedd adroddiadau ar Ansawdd Gofal sy'n cael eu llunio bob chwe mis ar gael hefyd i'r Swyddog Monitro. Eto, roedd y rhain yn adroddiadau manwl sy’n dadansoddi ac yn adolygu'r systemau monitro ar waith i wella'r gofal a chymorth sy'n cael eu darparu ac yn cynnwys camau i'w cymryd yn dilyn canfyddiadau'r adroddiad.

Mae proses drosglwyddo ddyddiol ar waith yn y cartref, sy'n digwydd yn ystod pob newid sifft ac sy'n cynnwys uwch aelodau o staff. Yn ystod y sesiwn drosglwyddo, mae gwybodaeth a diweddariadau yn cael eu rhannu am bob preswylydd, gan gynnwys unrhyw newidiadau sylweddol. Mae cyfarfodydd cyflym dyddiol hefyd yn y cartref, sy'n cynnwys penaethiaid pob adran.

Camau Unioni/Datblygiadol

Camau Unioni

Pob aelod o staff i gael yr hyfforddiant gorfodol a hyfforddiant nad yw’n orfodol diweddaraf. Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Camau Datblygiadol

Anfon copi at Dîm Comisiynu'r Cyngor wrth gyflwyno hysbysiadau Rheoliad 60 i'r rheoleiddiwr.  Contract Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Casgliad

Roedd y cartref yn dawel ac yn hamddenol drwy gydol yr ymweliad gyda digon o staff yn bresennol. Gwelwyd bod y staff yn ofalgar ac yn galonogol i unigolion yn ystod eu rhyngweithio. Mae'r bobl sy’n byw yn y cartref yn cael cynnig dewis ac yn cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'u gofal a chymorth, ac ymgynghorir â nhw ynghylch sut mae'r cartref yn cael ei redeg yn gyffredinol.

Hoffai'r swyddog monitro contractau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r preswylwyr, y Rheolwr a'r staff am eu hamser a'u lletygarwch yn ystod yr ymweliad.

Awdur: Ceri Williams
Swydd: Swyddog Monitro Contractau
Dyddiad: 8 Rhagfyr 2023