Cartref Nyrsio Glan-yr-Afon

Lôn Glan-yr-Afon, Pengam, Coed Duon, NP12 3WA.
Nifer y gwelyau: 49 Cartref Gofal gyda Nyrsio 
Categori: 19 Preswyl Pobl Hŷn / 30 Person Hŷn (Nyrsio) 
Deuol Cofrestredig

Ffôn: 01443 835196
E-bost: info.glanyrafoncarehome@gmail.com 

Adroddiad Monitro Contract 

  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Cartref Nyrsio Glan-yr-Afon, Glan-yr-Afon Lane, Trelyn, Coed Duon NP12 3WA
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022
  • Swyddog(ion) Ymweld: Ceri Williams - Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Alex Matthew, Rheolwr, Glan-yr-Afon 

Cefndir 

Mae Glan-yr-Afon yn gartref gofal yn Nhrelyn sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal preswyl a gofal nyrsio i uchafswm o 39 o bobl.  Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw leoedd gwag.

Cafodd yr adroddiad monitro diwethaf ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2019 ac, ar yr adeg honno, roedd dau gam unioni ac ni chafodd unrhyw gamau datblygiadol eu nodi. Cafodd ymweliadau monitro a chyfathrebu agos â'r cartref eu cynnal drwy gydol y pandemig Covid.

Mae'r cartref yn eiddo i Comfort Care Homes a'r Unigolyn Cyfrifol yw Swarnlata Bansal.  Mae'r gwasanaeth wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae'n ofynnol iddo fodloni amodau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA).

Argymhellion Blaenorol

Camau Unioni

Rhaid i bob aelod o staff gael goruchwyliaeth un i un o leiaf bob chwarter. (RISCA Rheoliad 36). Wedi'i gyflawni: Mae staff yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd o fewn yr amserlenni sydd wedi'u nodi yn y rheoliadau.

Mae cyfarfodydd staff rheolaidd yn cael eu cynnal, (o leiaf chwe chyfarfod y flwyddyn) ac maen nhw'n cael eu cofnodi. (RISCA Rheoliad 38). Heb ei gyflawni: Gweler corff yr adroddiad.

Canfyddiadau'r Ymweliad

Staffio, Hyfforddi a Goruchwylio

Mae staff y cartref yn cynnwys nyrsys a gofalwyr cymwys. Yn ogystal â'r staff hyn, mae yna Reolwr, Gweinyddwr, cydlynwyr gweithgareddau, unigolyn sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw, staff y gegin, staff domestig a staff golchi dillad.

Mae'r cartref wedi defnyddio staff asiantaeth yn y gorffennol pan oedd angen, ond mae'r niferoedd staffio yn gyflawn ar hyn o bryd. Pan mae staff asiantaeth yn cael eu defnyddio, maen nhw'n dod o un asiantaeth ac yn ddau aelod rheolaidd o staff.

Mae'r tîm staff yn hyblyg ac yn cyflawni sifftiau yn ôl yr angen er mwyn bodloni unrhyw ddiffygion yn y rota.

Cafodd ffeil staff ei harchwilio yn ystod yr ymweliad. Roedd y ffeil a gafodd ei harchwilio yn cynnwys ffotograff cyfredol o'r aelod staff a phrawf adnabod angenrheidiol.

Roedd ffurflenni cais manwl yn bresennol yn y ffeil ynghyd â chofnod cyfweliad gyda mecanwaith sgorio a senarios cyfweliad.

Roedd cytundebau wedi'u llofnodi a disgrifiadau swydd hefyd yn bresennol yn y ffeil.

Nid oedd unrhyw fylchau heb esboniad mewn cyflogaeth ac roedd dau eirda ysgrifenedig gofynnol yn y ffeil, a oedd hefyd wedi'u dilysu gan y cartref.

Roedd tystiolaeth o wiriad diweddar gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy ddefnyddio'r gwasanaeth diweddaru blynyddol.

Mae hyfforddiant yn cael ei gynllunio drwy gydol y flwyddyn ac yn cael ei ddarparu i staff gan gwmni hyfforddi allanol. Mae'r cartref hefyd yn defnyddio hyfforddiant ar-lein ac mae gan bob aelod o staff fanylion mewngofnodi er mwyn cwblhau hyfforddiant ar-lein.

Mae staff yn cael eu hyfforddi mewn pynciau gorfodol ac anorfodol.

Roedd matrics hyfforddi yn gallu dangos bod staff wedi cyflawni'r hyfforddiant angenrheidiol diweddaraf sy'n eu galluogi nhw i gyflawni eu rolau.

Mae'n ofynnol bod staff yn cwrdd ar gyfer goruchwyliaeth un-i-un gyda'u rheolwr llinell, neu swyddog cyfatebol, neu aelod uwch o staff, o leiaf bob chwarter.  Cafodd samplau o oruchwyliaeth ei darparu i'r Swyddog Monitro Contractau a oedd yn dangos bod staff yn cael eu goruchwylio ar adegau rheolaidd fel sy'n ofynnol.

Cafodd enghreifftiau o oruchwyliaeth staff eu hadolygu ac roedden nhw'n dangos tystiolaeth fod sesiynau'n cynnwys lles a datblygiad y staff a hefyd yn seiliedig ar arfer o ran rhedeg y cartref.

Roedd yr holl staff wedi cael gwerthusiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

Dogfennaeth

Cafodd ffeiliau dau breswylydd eu harchwilio fel rhan o’r ymweliad monitro.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys asesiadau cyn derbyn wedi'u cwblhau.

Roedd y cynlluniau personol a gafodd eu harchwilio yn cynnwys yr holl anghenion a gafodd eu hamlygu yng nghynllun gofal a chymorth yr awdurdod lleol. Roedd y cynlluniau yn fanwl o ran anghenion gofal a chymorth y preswylwyr. Fodd bynnag, gellid cynnwys mwy o fanylion am hoffterau/cas bethau ac arferion.

Mae Cynlluniau Personol yn cael eu hadolygu'n fisol, sy'n arfer da. Nid oedd tystiolaeth bod yr unigolyn neu gynrychiolydd yn cymryd rhan mewn adolygiadau gofal.

Roedd asesiadau risg priodol ar waith, lle bo angen, er mwyn diwallu anghenion y person.

Roedd angen diweddaru cynllun gofal codi a chario a gafodd ei archwilio ar un o ffeiliau'r preswylwyr yn dilyn asesiad therapi galwedigaethol diweddar lle'r oedd anghenion y preswylydd wedi newid. Cafodd y rheolwr wybod am hyn, ac fe weithredodd y newidiadau ar unwaith.

Mae cofnodion dyddiol yn fanwl ac yn cynnwys manylion am anghenion gofal y person ar gyfer y diwrnod hwnnw.  Roedd cofnodion hefyd yn cynnwys gwybodaeth am les y person.  Mae cofnodion dyddiol hefyd yn cael eu hadlewyrchu a'u hystyried yn yr adolygiad misol o Gynlluniau Personol.

Roedd tystiolaeth yn y ddwy ffeil a gafodd eu harchwilio o atgyfeiriadau'n cael eu gwneud i asiantaethau allanol priodol megis Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi ac ati, pan oedd angen.

Roedd dogfen ddisgrifiadol yn bresennol yn y ddwy ffeil ac roedd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar gyfer y ddau breswylydd am hanes eu bywydau ac amlinelliad byr o’u hanghenion iechyd a gofal.

Roedd cynlluniau gofal diwedd oes yn bresennol yn y ddwy ffeil. Roedd y rhain yn fanwl ac yn cynnwys dymuniadau a dewisiadau’r preswylwyr o ran eu gofal a chymorth diwedd oes.

Mae gan y cartref system ar waith o ran ceisiadau Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) gan gynnwys manylion y ceisiadau a wnaed, dyddiadau dod i ben a phryd mae angen adnewyddu.

Sicrwydd Ansawdd

Nid oes adolygiad diweddar o ansawdd gofal wedi'i gwblhau. Cafodd y rheolwr wybod y dylid cwblhau'r rhain bob chwe mis fel sy'n ofynnol yn y rheoliadau.

Fodd bynnag, roedd ymweliadau chwarterol wedi'u dogfennu gan yr Unigolyn Cyfrifol. Roedd hwn yn adroddiad manwl yn monitro perfformiad y gwasanaeth, ymgysylltu â staff a phreswylwyr ac arolygiad cyffredinol o'r safle.

Nid oedd unrhyw dystiolaeth o gyfarfodydd staff ffurfiol yn cael eu cynnal ac wedi'u cofnodi fel sy'n ofynnol o fewn y rheoliadau. Dywedodd y rheolwr fod y staff yn cael eu hysbysu a'u diweddaru ynghylch unrhyw newidiadau trwy gynnal gweithdrefnau trosglwyddo wrth newid sifftiau a hefyd trwy gyfathrebu digidol.  Mae'r rheolwr yn weladwy drwy'r cartref ac mae'n hawdd i'r staff fynd ato pe bai angen iddyn nhw siarad ag ef.

Mae nifer o archwiliadau wedi eu cynnal yn y cartref; yn fewnol gan staff a hefyd gan asiantaethau allanol megis Fferyllydd Gofal Cymhleth, y Gwasanaeth Tân, Iechyd yr Amgylchedd.

Mae archwiliadau mewnol a gafodd eu cwblhau gan y rheolwr yn cynnwys Damweiniau, Digwyddiadau, Cwynion, Meddyginiaeth, Diogelwch Bwyd, Cynlluniau Gofal, Offer Cleient ac Amgylchedd y Cartref, Gwiriadau Cynnal a Chadw, Atal Eitemau Miniog, Hylendid Dwylo a Chyfarpar Diogelu Personol, ac Arolygon Boddhad.

Mae gweithdrefnau trosglwyddo dyddiol cadarn yn y cartref sy'n digwydd bob tro bydd sifft yn newid ac mae'r holl staff yn mynychu.

Mae'r holl breswylwyr yn cael eu trafod, ac mae hyn yn cael ei ddogfennu ar daflenni trosglwyddo dyddiol unigol.  Mae crynodebau o'r trosglwyddiadau dyddiol hefyd yn cael eu hargraffu gyda phob preswylydd wedi'i restru ac fe gaiff unrhyw wybodaeth arwyddocaol ei chofnodi a'i darparu i bob aelod o staff.

Mae’r trosglwyddiadau hefyd yn cynnwys trafodaethau ynglŷn â gweithrediad cyffredinol y cartref, gan gynnwys staffio, unrhyw faterion cynnal a chadw, negeseuon gan berthnasau ac ati.

Mae'r cartref yn cyflogi gweithiwr cynnal a chadw amser llawn ac mae ganddo gynllun ac amserlen cynnal a chadw blynyddol. Mae gwiriadau amrywiol yn cael eu cynnal bob wythnos, bob mis, yn chwarterol a bob chwe mis.  Caiff y gwiriadau hyn eu cofnodi a'u cadw yn y ffeil cynnal a chadw.

Mae nifer o welliannau wedi’u gwneud i amgylchedd y cartref ers yr ymweliad monitro diwethaf gan gynnwys addurno, gosod lloriau newydd drwy'r adeilad, buddsoddi mewn offer golchi dillad newydd a phrynu dau deledu sgrin fawr newydd ar gyfer y lolfa.

Mae asesiad Diogelwch Tân blynyddol y cartref wedi'i drefnu.  Cafodd yr asesiad diwethaf ei ddarparu ar gyfer y Swyddog Monitro Contractau a dangosodd fod un argymhelliad wedi'i weithredu.

Roedd tystiolaeth ar gael o ddriliau tân wedi'u dogfennu a oedd wedi'u cynnal yn y cartref ac roedd y cynlluniau personol ar gyfer gwacáu preswylwyr o'r adeilad mewn argyfwng yn glir ynghylch y cymorth sydd ei angen mewn argyfwng.

Adborth Preswylwyr a Pherthnasau

Yn ystod yr ymweliad monitro, gofynnwyd am adborth gan breswylwyr a pherthnasau'r preswylwyr a oedd yn ymweld â'r cartref ar adeg yr ymweliad.

Rhoddodd un aelod teulu a gafodd ei holi yn ystod yr ymweliad ganmoliaeth i'r staff, y rheolwr ac yn enwedig y staff arlwyo yn y cartref, gan ddisgrifio'r bwyd yn ardderchog.

Cysylltwyd â pherthynas arall dros y ffôn i gael adborth.  Roedden nhw'n dweud bod y cartref yn wych gyda'u perthynas ers iddyn nhw symud i mewn, a dim ond canmoliaeth oedd ganddyn nhw i'r staff. Roedden nhw'n dweud eu bod nhw bob amser yn cael croeso yn y cartref a bod cyfathrebu da gyda nhw.

Dywedodd y preswylydd a gafodd ei holi yn ystod yr ymweliad wrth y swyddog monitro ei bod yn hapus iawn yn byw yn y cartref.

Roedd yn dweud fod yn well ganddi dreulio amser yn ei hystafell ond ei bod bob amser yn cael ei hannog i fynd i'r lolfa a mynychu unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau sy'n cael eu cynnal yn y cartref.

Dywedodd y preswylydd ei bod yn mwynhau treulio amser yn ei hystafell yn darllen ac y byddai staff yn dod i mewn yn rheolaidd i holi a oedd hi'n iawn.

Dywedodd y preswylydd fod y staff yn garedig â hi, eu bod nhw'n ymateb yn gyflym iddi pan oedd hi angen ac nad oedden nhw byth yn teimlo'n frysiog wrth gyflawni tasgau gofal.

Cyfleusterau, Arsylwadau a Gweithgareddau

Mae'r cartref wedi'i addurno'n ddymunol ac yn teimlo'n gartrefol. Ni sylwyd ar unrhyw arogleuon drwg wrth gerdded o gwmpas y cartref.

Mae nifer o welliannau wedi’u gwneud i amgylchedd y cartref ers yr ymweliad monitro diwethaf gan gynnwys addurno, gosod lloriau newydd drwy'r adeilad, buddsoddi mewn offer golchi dillad newydd a phrynu dau deledu sgrin fawr newydd ar gyfer y lolfa.

Roedd arsylwadau yn ystod yr ymweliad yn dangos bod pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch a bod gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd y staff yn ymgysylltu ac yn rhannu gyda'r preswylwyr ac yn darparu ar gyfer dewisiadau personol.

Mae bwyd wedi'i baratoi'n ffres ac o ffynonellau lleol, gan ddarparu ar gyfer dewisiadau personol a gan gynnig dewisiadau eraill os oes angen.

Mae dau gydlynydd gweithgareddau amser llawn yn cael eu cyflogi yn y cartref ac mae nifer o weithgareddau ar gael yn rheolaidd.  Mae yna ddigwyddiadau gyda themâu ar gael i'r holl breswylwyr a hefyd amser un i un ar gyfer preswylwyr sydd yn eu hystafelloedd.

Mae gweithgareddau yn cael eu trefnu yn seiliedig ar adborth gan drigolion ac maen nhw'n cael eu teilwra i ddiddordebau unigol. Mae preswylwyr hefyd yn mwynhau tripiau i'r gymuned leol.

Camau Unioni / Datblygiadol

Camau Unioni

Rhaid cynnal adolygiadau o Gynllun Personol sy'n cynnwys yr unigolyn, neu pan fo'n briodol, ei gynrychiolydd. (RISCA Rheoliad 16)

Amserlen: O leiaf bob tri mis.

Rhaid cynnal cyfarfodydd staff rheolaidd (o leiaf chwe chyfarfod y flwyddyn) a’u cofnodi nhw. (RISCA Rheoliad 38).

Amserlen: Lleiafswm o chwe chyfarfod y flwyddyn.

Rhaid cwblhau Adolygiad o Ansawdd Gofal bob chwe mis.  (RISCA Rheoliad 80).

Amserlen: Ar unwaith ac yna bob chwe mis.

Camau Datblygiadol

Y rheolwr i anfon yr holl hysbysiadau Rheoliad 60 at dîm Comisiynu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Casgliad

Roedd hwn yn ymweliad monitro cadarnhaol â'r cartref, gydag enghreifftiau o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i'w gweld trwy gydol yr ymweliad ac roedd yr holl adborth a ddaeth i law ynghylch y cartref a'r staff yn hynod gadarnhaol. 

Roedd yn amlwg bod perthynas ofalgar rhwng y staff a'r preswylwyr, ac awyrgylch hamddenol a dymunol iawn yn ystod y dydd. Roedd presenoldeb staff da, ac roedd yn amlwg o'r arsylwadau bod y staff yn sicrhau bod digon o weithgareddau ar gyfer preswylwyr o ddydd i ddydd.

Yn unol â Strategaeth Monitro Contractau Caerffili, bydd ymweliad monitro pellach yn cael ei gynnal mewn tua 12 mis oni bai bod angen ei gwblhau cyn hynny.

Hoffai'r swyddog ymweld fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r preswylwyr, staff a pherthnasau am eu hamser a'u lletygarwch nhw yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Ceri Williams
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 31/03/2023