Cartref Nyrsio Valley View

Dan-y-Coed, Hengoed, CF82 7LP
Nifer y gwelyau: 64 Cartref Gofal gyda Nyrsio / Dementia 
Categori: 12 Dementia / 24 Dementia (Nyrsio) / 28 Person Hŷn (Nyrsio) 
Deuol Cofrestredig
Gofal Seibiant Ar Gael
Ffôn: 01443 862217
E-bost: eirwen.jones@carongroup.wales

Adroddiad Monitro Contractau

  • Enw/Cyfeiriad y Darparwr: Cartref Gofal Gwêl y Cwm, Dan-y-Coed, Cefn Hengoed, Hengoed CF82 7LP
  • Dyddiad/Amser yr Ymweliad: Dydd Llun 11 Medi 2023 9.45am–4.30pm, Dydd Mawrth 12 Medi 2023 9.45am–4.15pm, Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 11.30am–5.30pm
  • Swyddog(ion) Ymweld: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau, Tîm Comisiynu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Jill Thomas, Nyrs Arweiniol – Diogelu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Yn bresennol: Eirwen Jones, Rheolwr Cofrestredig, Natasha Meyrick, Dirprwy Reolwr

Cefndir

Mae Cartref Gofal Gwêl y Cwm yn adeilad mawr, unllawr wedi'i leoli yn Hengoed sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal i gyfanswm o 64 o bobl.  Gall y Cartref letya a chynorthwyo 14 o bobl ag amhariad gwybyddol, 50 o bobl sydd angen gofal nyrsio cyffredinol neu ag amhariad gwybyddol.  Mae Gwêl y Cwm yn eiddo i Caron Group sy’n darparu gofal a chymorth arbenigol i bobl sy’n byw gyda dementia. Ar adeg yr ymweliadau, roedd 47 o bobl yn byw yn y Cartref.

Mae Tîm Comisiynu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael adborth gan weithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill yn barhaus ac, yn ystod y flwyddyn gyfredol, aeth y darparwr i'r afael â materion yr adroddwyd arnyn nhw ac roedd, hefyd, rhywfaint o adborth cadarnhaol iawn.

Cynhaliwyd arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Mawrth 2023 lle canfu'r arolygwyr fod y Cartref wedi gwneud gwelliannau sylweddol o ran darparu gofal a'r canlyniadau i bobl.

Adolygwyd Datganiad o Ddiben y Cartref ym mis Mawrth 2023 a rhoddodd drosolwg cynhwysfawr iawn o’r ddarpariaeth y mae’r cartref yn ei chynnig.

Roedd ‘Canllaw Croeso’ y Cartref i breswylwyr a’u teuluoedd wedi’i ddiweddaru ym mis Ebrill 2023 ac roedd yn ddogfen glir iawn yn amlinellu’r hyn y gall unigolion ei ddisgwyl o fyw yng Nghartref Gofal Gwêl y Cwm.

Mae'r Cartref wedi cael sgôr hylendid bwyd o 5 sy'n cael ei raddio'n dda iawn.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gall y darparwr gael camau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw'r rheini y mae'n rhaid eu cwblhau yn unol â Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), a chamau datblygiadol yw argymhellion arfer da. 

Camau Gweithredu Blaenorol

Nid oedd unrhyw gamau i ailedrych arnyn nhw'r tro hwn.

Unigolyn Cyfrifol

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gosod disgwyliadau ar Unigolyn Cyfrifol y gwasanaeth i fod yn atebol am ansawdd y gwasanaeth yn ogystal â chydymffurfiaeth.  Rhan o ddyletswyddau’r Unigolyn Cyfrifol yw ymweld â’r gwasanaeth yn chwarterol er mwyn cael trosolwg o’r gwasanaeth ac adrodd ar ei ansawdd.  Roedd yn amlwg bod yr ymweliadau hyn wedi'u cynnal yn rheolaidd gydag adborth gwerthfawr a chasglu gwybodaeth fel rhan o'r ymweliadau hyn. Roedd yr adroddiadau ymweliad chwarterol yn cynnwys adolygiad o'r cynnydd a wnaed gydag unrhyw gamau gweithredu blaenorol a nodwyd; trafodaethau/adborth a dderbyniwyd gan breswylwyr, perthnasau a staff; archwiliad o gwynion a damweiniau diweddar, hyfforddiant ac ati, gan gynnwys unrhyw gamau i'w cymryd.

Gwelwyd adolygiadau ansawdd (sy’n ofynnol bob chwe mis) a oedd yn dangos bod gwybodaeth allweddol wedi’i harchwilio’n drylwyr, e.e. adborth gan randdeiliaid, unrhyw gwynion/ganmoliaeth, archwiliadau/prosesau, ac unrhyw argymhellion i'w datblygu.

Edrychwyd ar bolisïau a gweithdrefnau'r Cartref er mwyn sicrhau bod y polisïau allweddol/gorfodol yn eu lle, a'u bod wedi cael eu hadolygu yn ddiweddar er mwyn sicrhau eu bod yn dal i fod yn gywir ac yn gyfredol. Roedd rhai enghreifftiau o'r polisïau a welwyd yn cynnwys diogelu, cwynion, chwythu'r chwiban, derbyniadau/cychwyn gwasanaeth ac ati. Roedd yr holl bolisïau wedi'u hadolygu ond dim ond pan fo angen newidiadau ac nid ar sail flynyddol dreigl.

Rheolwr Cofrestredig

Mae’r Cartref yn gweithredu system teledu cylch cyfyng (system wyliadwriaeth) mewn mannau cymunedol, a chaiff pobl wybod am hyn cyn mynd i mewn i'r Cartref ac mae’r ‘Canllaw Croeso’ hefyd yn cyfeirio at hyn. Defnyddir y math hwn o system i wella diogelwch y safle.

Nid oes unrhyw bryderon ynghylch y cyfleusterau o fewn yr adeilad ar hyn o bryd.

Gellir addasu'r tymheredd mewn ystafelloedd gwely unigol drwy thermostatau'r rheiddiaduron er mwyn sicrhau nad yw pobl yn rhy gynnes nac yn rhy oer. Yn ogystal, ar adegau o dywydd poeth mae ffaniau pen desg ar gael hefyd.

Mae’r Cartref yn rhoi gwybod i Dîm Comisiynu'r Cyngor yn weithredol os oes digwyddiadau adroddadwy, e.e. clefydau heintus, salwch a brofwyd, materion diogelu ac ati.

Hyfforddi staff

Mae Caron Group yn defnyddio e-ddysgu a hyfforddiant wyneb yn wyneb i sicrhau bod eu staff nhw wedi'u hyfforddi'n ddigonol i ofalu am bobl.

Trafodir ansawdd unrhyw hyfforddiant a gyflawnir yn ystod sesiynau goruchwylio yn ogystal â sut i roi'r hyn a ddysgwyd ar waith, ac mae'r rheini'n feysydd allweddol o oruchwyliaeth. Hefyd, mae rheolwyr yn arsylwi arferion pan fyddan nhw'n cerdded o amgylch y Cartref i sicrhau bod staff yn rhoi ar waith yr hyn y maen nhw wedi'i ddysgu.

Roedd presenoldeb ar hyfforddiant gorfodol yn cyfateb i 98%.  Mae hyfforddiant gorfodol yn cynnwys cyrsiau fel codi a chario, cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ati.  Lle cynhelir hyfforddiant ychwanegol (nad yw'n orfodol), roedd 78% yn cydymffurfio. Cadarnhaodd y rheolwr fod rhai aelodau o staff wedi mynychu hyfforddiant atal cwympiadau yn ddiweddar a bod sesiwn arall i'w chynnal ym mis Ionawr.

Mae'r ‘Cynnig Rhagweithiol – Mwy Na Geiriau’, sef Deddf yr Iaith Gymraeg ddiwygiedig, yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyfathrebu yn Gymraeg heb i'r person ofyn am hynny. Mae Caron Group yn gweithio tuag at hyn ac mae hyn wedi cael ei gyfeirio ato yn ei Ddatganiad o Ddiben.

Ffeiliau staff

Edrychwyd ar ddwy ffeil staff a oedd yn ymwneud ag ymarferwyr gofal a benodwyd yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd y ffeiliau'n drefnus ac roedd yn hawdd dod o hyd i'r wybodaeth. Roedd yn amlwg bod gweithdrefnau recriwtio staff wedi’u dilyn, h.y. roedd 2 eirda ysgrifenedig, disgrifiad swydd, ffurflen gais fanwl (lle na nodwyd unrhyw fylchau cyflogaeth), cofnod cyfweliad, Contract Cyflogaeth wedi’i lofnodi, ffotograff a gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Hefyd, roedd y ffeiliau yn cynnwys dogfennaeth sefydlu a lofnodwyd gan yr aelod newydd o staff a'r person a oedd yn gwneud y sefydlu. Roedd y meysydd a gafodd sylw yn cynnwys dechrau sifft, dogfennaeth, yr amgylchedd, ymataliaeth, lleddfu pwysau, golchi dillad, cynorthwyo pobl i godi/mynd i'r gwely, anghenion diet ac ati.

Goruchwylio ac arfarnu

Cynllunnir ar gyfer goruchwyliaeth yn chwarterol ac roedd yn amlwg bod y rhain yn cael eu cynnal. Cynhelir y rhain ar sail 1:1 ac maen nhw'n ymdrin â meysydd megis camau gweithredu o'r sesiwn flaenorol, iechyd/lles cyffredinol yr unigolyn, anghenion hyfforddi, perfformiad presennol, cymorth uwch, iechyd a diogelwch, perthnasau staff, gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac unrhyw gamau arfaethedig y cytunwyd arnyn nhw.

Mae arfarniadau blynyddol i'w cynnal gyda'r staff o hyd.

Dogfennaeth

Edrychwyd ar ffeiliau dau unigolyn fel rhan o’r broses fonitro ac edrychwyd ar yr wybodaeth drwy system electronig o’r enw Nourish.

Roedd cynlluniau cymorth addas ar waith i roi arweiniad i staff ar y ffordd orau i gynorthwyo unigolion o ran, e.e. symudedd, diet/hydradiad, gofal personol, gofal y geg ac ati. Roedd y rhain wedi'u hysgrifennu'n gynhwysfawr ac wedi'u hadolygu'n rheolaidd.

Roedd yn amlwg y cysylltir ag asiantaethau allanol priodol am gymorth a cheisiwyd triniaeth ar gyfer unigolion yn dilyn cwympiadau ac anhwylderau eraill.

Roedd y Cofnodion Dyddiol o fewn y system Nourish yn adlewyrchu'r Cynlluniau Cymorth i raddau helaeth.

Staffio

Mae'r Cartref yn cyflogi Rheolwr Cofrestredig a Dirprwy Reolwr sy'n cael eu cynorthwyo gan Reolwr Rhanbarthol Caron Group ac Unigolyn Cyfrifol. Hysbyswyd y gweithwyr proffesiynol a oedd yn ymweld yn ystod ymweliad diweddar bod Arweinydd Clinigol wedi'i benodi a fydd yn gyfrifol am reoli'r staff nyrsio. Yn ogystal, penodwyd staff newydd eraill, sef arweinydd lles rhan-amser i gynorthwyo aelodau presennol o'r staff, swyddog cadw tŷ arweiniol newydd, aelod o staff domestig, uwch ymarferwyr gofal ac ymarferwyr gofal eraill. Mae swyddi cynorthwywyr nyrsio yn parhau'n wag ar hyn o bryd.

Roedd yn ymddangos bod digon o staff ar ddyletswydd yn ystod yr ymweliadau monitro, ac er y clywyd y clychau galw yn canu, atebwyd y rhain yn gymharol brydlon. Rhoddwyd gwybod i'r Swyddog Monitro Contractau am rai pryderon ynghylch y pwysau ar amser staff yn ystod y bore a rhoddwyd gwybod i'r rheolwyr am hyn yn ystod yr ymweliad. Roedd y rheolwyr wedi ystyried y pryderon hyn a dyrannwyd oriau ychwanegol mewn ymateb.

Mae staff yn ymuno â'r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith os ydyn nhw'n dewis gweithio mwy na 48 awr yr wythnos, a byddai hyn yn cael ei fonitro yn unol â hynny.

Sicrhau ansawdd

Mae rheolwyr y Cartref yn groesawgar iawn i ymwelwyr, perthnasau a gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld ac ati.

Roedd yn amlwg bod cyfarfodydd staff yn cael eu cynnal yn rheolaidd a bod llawer o feysydd yn cael eu trafod a'u dogfennu. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cynnwys cyfarfodydd tîm amrywiol; trosglwyddiadau; ‘huddles’, lle mae materion penodol sy’n codi yn cael eu trafod a ‘chyfarfodydd fflach’ i gwmpasu meysydd perthnasol (pryderon cyfredol ynghylch pobl sy’n derbyn gofal ac ati).

Mae cyfarfodydd perthnasau wedi'u cynnal a chadarnhaodd perthynas fod hwn wedi bod yn gyfarfod defnyddiol i'w fynychu, gyda chyfle i gwrdd ag aelodau eraill o'r teulu hefyd.

Roedd cofnodion cyfarfodydd wedi’u cymryd o gyfarfodydd preswylwyr a oedd wedi digwydd yn fisol dros y misoedd diwethaf. Roedd y rhain yn cynnwys trafodaethau am ddigwyddiadau i ddod, gwaith cyfredol sy'n cael ei wneud yn y Cartref, bwydlenni bwyd a diod ac ati. Yn ystod un o'r cyfarfodydd, gofynnwyd i breswylwyr am awgrymiadau i ailenwi'r lolfeydd fel bod pawb dan sylw yn gwybod at ba lolfeydd y cyfeiriwyd atyn nhw ar unrhyw adeg. Awgrymodd un o’r preswylwyr eu henwi ar ôl cantorion Cymru ac, felly, cytunwyd i hyn er mwyn llunio rhestr o enwau a phleidleisio arni yn ddiweddarach.

Mae’r Meddyg Teulu lleol yn ymweld yn wythnosol i roi sylw i anghenion iechyd a meddyginiaeth pobl.

Gwneir trefniadau i atgyfeirio at y gweithwyr proffesiynol perthnasol pan fydd pobl yn cael codwm e.e. y clinig Cwympiadau, Meddyg Teulu, Nyrs Seiciatrig Gymunedol (CPN).

Gellir cael mynediad at wasanaethau eirioli i bobl sy'n gofyn am hyn, pe bydden nhw'n elwa pe bai rhywun arall yn siarad/gweithredu ar eu rhan nhw.

Mae trefniadau trosglwyddo ysgrifenedig yn cael eu gwneud ar ddiwedd pob sifft. Arweinir y rhain gan y Nyrs â Gofal gyda phawb sy'n ymwneud â'r sifft yn mynychu.

Gwiriadau diogelwch tân a chynnal a chadw

Roedd asesiad risg tân y Cartref yn bresennol ac yn gyfredol. Roedd rhai meysydd a oedd angen sylw wedi eu hadnabod yn ystod yr asesiad, gyda blaenoriaethau ar gyfer pob maes.

Nid oedd ymarferion tân wedi'u cynnal ers peth amser, ond cadarnhaodd y Rheolwr fod ymarfer tân wedi'i drefnu ar gyfer y dyfodol agos, a fyddai'n cael ei gynnal gan adran Iechyd a Diogelwch Caron Group.

Mae Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEPs) ar gael mewn ‘ffeil cydio’ i’w defnyddio mewn achos o dân, ac maen nhw hefyd yn cael eu storio ar ffeiliau unigol o fewn system electronig Nourish, lle maen nhw'n cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Cyflogir gweithwyr cynnal a chadw/gwiriadau yn y Cartref i wneud atgyweiriadau/gwiriadau ac fe'u gwelir yn y Cartref yn rheolaidd yn ystod ymweliadau.

Rheoli arian preswylwyr

Mae person enwebedig yng Nghartref Gofal Gwêl y Cwm sy’n sicrhau bod prosesau ar waith i reoli arian/lwfansau personol pobl.

Roedd yn amlwg pan fydd trafodion yn digwydd bod y rhain yn cael eu cofnodi a bod derbyniadau yn bresennol, fodd bynnag, ar hyn o bryd, ni cheisir llofnodion pan dderbynnir incwm neu pan fo gwariant.

Hysbyswyd y Swyddog Monitro Contractau bod Caron Group yn cynnal archwiliadau o'r trafodion yn rheolaidd. Er bod arian yn cael ei gadw mewn cabinet y gellir ei gloi, dylid ystyried storio'r rhain mewn coffor y gellir ei gloi.

Holiadur perthnasau

Siaradwyd â pherthynas person sy'n byw yng nghymuned Primrose y Cartref er mwyn casglu ei adborth. Dywedodd y perthynas ei bod bob amser yn cael croeso pan fydd yn ymweld â'r Cartref a'i bod yn cael ei gwahodd i fod yn rhan o ddigwyddiadau. Dywedodd y perthynas ei bod wedi mwynhau ymweld â ffair yr haf a gynhaliwyd eleni a chwrdd â theuluoedd eraill hefyd fel rhan o'r gymuned.

Dywedodd y perthynas ei bod yn cael gwybod am ddigwyddiadau wrth iddyn nhw godi a bod staff yn ymdrechu'n galed i ofalu am ei thad, a'u bod yn dda iawn am ei annog i wneud pethau, yn ogystal â gwybod beth mae'n ei hoffi a ddim yn ei hoffi. Roedd hefyd wedi cael mewnbwn i’r broses cynllunio gofal i sicrhau bod anghenion/hoff bethau a chas bethau ei thad wedi’u cyfleu.

Arsylwadau

Mae pobl bob amser yn edrych yn dda iawn, yn ddeniadol iawn, yn gwisgo yn ôl y tywydd ac yn gwisgo esgidiau da.

Roedd preswylydd sy’n byw yng nghymuned Primrose yn ganmoliaethus iawn am y gofal y mae’n ei gael a dywedodd nid oes ganddi unrhyw gwynion, bod y bwyd yn dda iawn a'i bod yn gyfforddus.

Gweithgareddau

Mae Gwêl y Cwm yn cyflogi Cydlynydd Lles sy'n trefnu ac yn cydlynu gweithgareddau i bobl fel grŵp neu ar sail un i un. Mae pobl yn y Cartref yn elwa ar amrywiaeth eang o weithgareddau ac mae ganddyn nhw ‘lais’ wrth ofyn am yr hyn y maen nhw am ei wneud. Yn ystod ymweliad diweddar, bu pobl yn mwynhau prynhawn gyda thîm oedd yn dod ag anifeiliaid egsotig i mewn, ac roedd canwr gwadd i fod i ymweld yn ystod yr wythnos hefyd. Mae dyddiadau allweddol yn y calendr bob amser yn cael eu dathlu a'u trefnu'n dda. Mae’r Cydlynydd Lles yn rhan annatod o hyrwyddo lles pobl.

Mae’r Cartref wedi gwneud cysylltiadau ag ysgolion lleol i bontio’r bwlch rhwng y cenedlaethau ac mae straeon wedi’u hadrodd am sawl achlysur lle mae plant wedi ymuno â’r ‘Darllenwyr Arian’.

Mae’r Cydlynydd Lles yn treulio amser gyda phobl sy’n aros yn eu hystafelloedd eu hunain.  Gall hyn, fel arfer, olygu cael sgyrsiau, paentio ewinedd, darllen straeon ar iPads ac ati.

Daliwyd ‘eiliad hudolus’ yng nghymuned Primrose  pan anogwyd person i godi a dawnsio gyda gofalwr a ddaeth â gwên hyfryd i’w hwyneb, a diolchodd y person i’r gofalwr yn ddiweddarach.

Profiad amser bwyd

Gwelwyd y profiad amser bwyd yn nwy gymuned y Cartref ac roedd y bwyd yn cael ei ddarparu'n ddi-frys a gwelwyd y staff yn cynorthwyo pobl lle roedd angen hynny.  Siaradodd y cogydd yng nghymuned Daffodil y Cartref â phreswylwyr i ofyn beth oedd yn well ganddyn nhw gyda'r dewis o gamwn neu gyw iâr barbeciw a phwdin toffi gludiog ar gyfer pwdin.  Roedd sudd blasau gwahanol ar gael, gan gynnwys diodydd poeth a gofynnodd un gŵr am wydraid o ddŵr a ddygwyd ato yn brydlon.

Roedd byrddau wedi'u haddurno'n ddeniadol gyda dillad bwrdd, napcynau a fâs o flodau.  Cyfeiriodd bwrdd bwydlen at y prydau oedd ar gael y diwrnod hwnnw.

Amgylchedd y cartref

Yn ystod ymweliadau, roedd awyrgylch tawel yn y Cartref ac ni nodwyd unrhyw arogleuon drwg.

Yn ddiweddar, bu rhaglen adnewyddu ac ailddodrefnusylweddol yng nghymuned Primrose sydd o safon uchel ac mae gan bobl lolfa ychwanegol i ymlacio ynddi.  Mae gardd hefyd gyda chadeiriau patio a bwrdd i breswylwyr eu mwynhau.

Mae pobl sy’n byw yng nghymuned Primrose yn elwa o gael ‘caffi’ mae'n nhw'n gallu ei ddefnyddio ar unrhyw adeg o’r dydd, sy’n arbennig o fuddiol ar gyfer ymweld â ffrindiau a pherthnasau hefyd. Mae gan y caffi hwn gyfleusterau gwneud te/coffi, byrddau a chadeiriau ac mae'n ddeniadol iawn.

Ar hyn o bryd, nid oes gan gymuned Primrose fath sy'n gallu cael ei ddefnyddio, fodd bynnag, mae pobl yn gallu cael cawod ac mae gan y Cartref gynlluniau i osod bath yn y dyfodol.

Camau unioni

  • Cofnodion lwfans personol i gynnwys lle i gael dau lofnod ar gyfer arian sy'n dod i mewn a gwariant. Dylai ystyried prynu coffor y gellir ei gloi er mwyn cadw arian yn ddiogel.  Amserlen: Ar unwaith.  Rheoliad 28, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
  • Gwerthusiadau blynyddol i'w cynnal gyda'r holl staff. Amserlen: O fewn blwyddyn ac yn barhaus Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
  • Ymarferion tân i'w cynnal yn rheolaidd i sicrhau bod pobl yn gallu gwacáu'r adeilad yn brydlon ac yn ddiogel. Rheoliad 57, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Casgliad

Mae'r Cartref yn cyflogi Rheolwr Cofrestredig sydd wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac sy'n cael ei gynorthwyo'n dda gan Ddirprwy Reolwr, Rheolwr Rhanbarthol ac Unigolyn Cyfrifol.

Mae Caron Group yn parhau i ddatblygu ei wasanaeth gyda buddsoddiad sylweddol wedi’i wneud mewn adnewyddu ac ailddodrefnu ardaloedd cymunedol ac ystafelloedd gwely.

Gwelwyd rhyngweithio cadarnhaol rhwng staff a phreswylwyr, gyda phreswylwyr yn cael ‘llais’ mewn meysydd sy’n effeithio arnyn nhw.  Mae lles pobl yn cael ei hybu drwy sicrhau eu bod yn cael mynediad at lawer o weithgareddau ystyrlon gydag ymgysylltiad gyda'r gymuned leol hefyd.

Mae amrywiaeth eang o hyfforddiant ar gael i staff ac maen nhw'n cael eu goruchwylio'n rheolaidd i'w cynorthwyo yn eu rolau.

Hoffai'r swyddog monitro contractau ddiolch i'r staff yng Nghartref Gofal Gwêl y Cwm am eu lletygarwch a'u hamser yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Andrea Crahart
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: Tachwedd 2023