Cartref Nyrsio Cwmgelli Lodge

Lon Pennant, Coed Duon, NP12 1BR 
Nifer y gwelyau: 24 Cartref Gofal gyda Nyrsio Dros 18 oed. 
Categori: 24 (Nyrsio)
Tel: 01495 232500
E-bost: wendy@cwmgelli.co.uk

Adroddiad Monitro Contractau

  • Enw/Cyfeiriad y Darparwr: Cwmgelli Lodge, Lôn Pennant, Coed-duon, Caerffili, NP12 1BR
  • Dyddiad yr Ymweliad: Dydd Mercher 8 Tachwedd a dydd Iau 16 Tachwedd 2023
  • Swyddog(ion) Ymweld: Amelia Tyler: Swyddog monitro contractau
  • Yn bresennol: Catherine Ryall: Rheolwr y Cartref, Fieldbay Stacey Morgan: Dirprwy Reolwr, Fieldbay

Cefndir

Mae Cwmgelli Lodge yn gartref gofal pwrpasol, mawr sydd wedi'i leoli yn agos at dref Coed-duon gyda mynediad hawdd i'r holl amwynderau lleol. Daethpwyd â'r cartref i mewn i gwmni Fieldbay ym mis Hydref 2020. Mae wedi cael ei adeiladu dros ddau lawr ac mae wedi'i gofrestru i ddarparu gofal i 26 o bobl gydag anghenion nyrsio ac iechyd meddwl i gyflawni gweithgareddau byw yn ddyddiol.

Ar adeg yr ymweliad, roedd un lle gwag a oedd eisoes wedi'i gadw ar gyfer derbyn preswylydd newydd. Roedd dau breswylydd a oedd yn cael eu cefnogi gan CBS Caerffili a'r bwrdd iechyd lleol a chyfanswm o ddeg unigolyn a oedd yn cael eu cefnogi gan y bwrdd iechyd lleol.

Ers yr adroddiad diwethaf mae'r rheolwr wedi newid ac mae'r cartref wedi bod trwy broses perfformiad y darparwr lle mae wedi gweithio trwy gynllun gweithredu gyda'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol.

Pwrpas yr ymweliad yw siarad â phreswylwyr, perthnasau ac aelodau o'r staff a chwblhau'r templed monitro. Cynhaliwyd yr ymweliad monitro diwethaf ar 19 Hydref 2022 a phryd hynny, nodwyd 5 cam unioni a 5 cam datblygiadol. Cafodd y rhain eu hadolygu, ac mae'r canfyddiadau wedi'u hamlinellu yn yr adran isod.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn, rhoddir camau unioni a/neu ddatblygiadol i'r Rheolwr eu cwblhau. Tasgau y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth ac ati) yw camau unioni ac ystyrir camau datblygiadol yn enghreifftiau o arfer da.)

Argymhellion Blaenorol

Dylid cadw dau eirda ysgrifenedig ar gyfer pob aelod o'r staff, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr blaenorol, os oes un. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Y Ddeddf) fersiwn 2 (Ebrill 2019) Atodlen 1, rheoliad 35, Rhan 1 (4)

Cyflawnwyd. Caiff y rhain eu cadw'n electronig ac roedd o leiaf un gweithiwr proffesiynol ac un geirda personol ar bob un o'r ddwy ffeil a rennir.

Rhaid i bob ffeil staff gael ffotograff yn bresennol. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Y Ddeddf) fersiwn 2 (Ebrill 2019) Atodlen 1, rheoliad 35, Rhan 35 (1)

Cyflawnwyd. Roedd ffotograffau ar y ffeiliau a welwyd.

Dylai bob aelod o'r staff gwblhau arfarniad blynyddol. Y Ddeddf, fersiwn 2 (Ebrill 2019) rheoliad 36

Heb ei gyflawni. Roedd y wybodaeth a rannwyd gyda'r swyddog monitro contractau yn dangos bod 27 o arfarniadau'n hwyr gan dîm o 64 o aelodau o staff (42%)

Dylai asesiad cychwynnol/cynlluniau personol fod ar waith ar gyfer pob cleient cyn dechrau'r gwasanaeth. Y Ddeddf, fersiwn 2 (Ebrill 2019) rheoliad 15

Cyflawnwyd. Nid oedd asesiadau cychwynnol ar waith ar gyfer y ddau a oedd yn cael eu cefnogi gan CBS Caerffili gan eu bod wedi bod yn byw yn y cartref cyn i Fieldbay gymryd yr awenau. Gwelwyd asesiadau cychwynnol ar gyfer dau breswylydd newydd a oedd wedi'u cwblhau cyn symud i mewn i'r cartref.

Bydd gwybodaeth fanwl yn cael ei chofnodi yn y cynlluniau personol o gwmpas canlyniadau y cytunwyd arnynt, sut y caiff y rhain eu nodi, eu cefnogi a'u hadolygu. Y Ddeddf fersiwn 2 (Ebrill 2019) rheoliadau 15 18 a 21.

Cyflawnwyd. Dylid ymgorffori canlyniadau y cytunwyd arnynt yn y cynlluniau personol. I un o'r preswylwyr, roedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynd allan yn y gymuned, y dylai fod yn rhydd o boen ac y dylid ei fonitro ar gyfer unrhyw arwydd y gall fod mewn poen gan ddefnyddio Graddfa Poen Abbey. Roedd yn sôn am fand teyrnged a thaith undydd i Longleat a wnaed yn ystod y misoedd diwethaf. I'r unigolyn arall, roedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymryd rhan i'r eithaf mewn gweithgareddau byw bob dydd, cael sesiynau pampro ac unrhyw ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y cartref. Cofnodwyd bod gweithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer Plant mewn Angen y diwrnod canlynol ac un o'r gweithgareddau oedd addurno bisged Pudsey.

Argymhellwyd bod y datganiad o ddiben yn cofnodi dyddiad yr adolygiad nesaf sydd wedi'i gynllunio i ddangos y caiff hwn ei gwblhau yn flynyddol, yn unol â rheoliad 7 y Ddeddf.

Heb ei gyflawni. Nid oedd dim byd ar y datganiad o ddiben i dynnu sylw at pryd y disgwylir yr adolygiad nesaf.

Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu'r dyddiad adolygu a'r adolygiad cynlluniedig nesaf i bob polisi.

Cyflawnwyd. Gwelwyd bod hyn yn cael ei wneud.

Bydd y rheolwr yn ystyried ychwanegu dyddiad llawn y cwrs hyfforddi diwethaf at y matrics a/neu pryd y bydd angen hyn nesaf.

Cyflawnwyd. Roedd y matrics hyfforddiant yn cynnwys dyddiad cywir llawn y sesiynau hyfforddiant diwethaf a fynychwyd.

Lle y bo'n bosibl, bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal gan ddau aelod o staff.

Heb ei gyflawni. Tynnodd y ffeiliau sylw at y ffaith fod y ddau wedi'u cyfweld gan un aelod o staff Fieldbay. Er mwyn lleihau'r risg o unrhyw wrthdaro buddiannau neu her, argymhellir bod cyfweliadau'n cael eu cynnal gan ddau aelod profiadol o staff.

Bydd ffotograffau'n cael eu hystyried i helpu i wneud penderfyniadau dros unigolion gydag anawsterau cyfathrebu.

Cyflawnwyd. Roedd hyn yn cael ei wneud ac yn cael ei weld ar yr unedau.

Canfyddiadau o'r ymweliad

Unigolyn Cyfrifol

Anfonwyd copïau o'r 73 o adroddiadau chwarterol yn dilyn yr ymweliadau a chafodd y rhain eu cwblhau diwethaf ar 6 Gorffennaf a 3 Hydref 2023. Cydnabuwyd bod y rhain yn cynnwys adborth gan breswylwyr, staff ac ymwelwyr â Chwmgelli.

Darparwyd yr adroddiad rheoliad 80 ddwywaith y flwyddyn a oedd yn cwmpasu misoedd Ionawr i Fehefin 2023. Pwysleisiodd hwn y bu deuddeg canmoliaeth a thair cwyn, y gwnaeth Fieldbay ymdrin â phob un ohonynt.

Rhannwyd copi o'r datganiad o ddiben â'r swyddog monitro contractau a chafodd ei ddiweddaru ym mis Medi 2023 i gynnwys enw'r rheolwr a'r dirprwy reolwr newydd. Nid oedd dyddiad adolygu i'r dyfodol ar y ddogfen nac ar unrhyw beth i dynnu sylw at yr angen i gyflawni'r adolygiad nesaf ymhen deuddeg mis.

Pe bai'r rheolwr cofrestredig a'r unigolyn cyfrifol yn absennol yn annisgwyl am gyfnod, byddai'r cartref yn cael ei gefnogi gan y dirprwy reolwr a'r uwch dîm rheoli. Nodwyd hefyd gan fod Fieldbay yn ddarparwr mawr, gallai hefyd ddefnyddio staff o gartrefi eraill os oedd angen. Argymhellir ymgorffori hyn yn y datganiad o ddiben.

Roedd pob polisi a gweithdrefn ar gael yn electronig, fel atgyfeiriadau a derbyn, diogelu, materion ariannol cleientiaid, rheoli heintiau, rheoli meddyginiaeth ac ati. Nodwyd bod pob un wedi'i adolygu yn 2022 a bod disgwyl iddynt gael eu hadolygu naill bob dwy flynedd neu bob tair blynedd.

Rheolwr Cofrestredig

Mae teledu cylch cyfyng ar gael ar flaen yr adeilad sy'n edrych dros y fynedfa a'r maes parcio at ddibenion diogelwch. Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw broblemau yn ymwneud â'r eiddo, ar wahân i declyn codi â thrac nenfwd a oedd yn y broses o gael ei drwsio. Esboniodd y dirprwy reolwr nad oedd hyn yn cael unrhyw effaith ar y preswylydd gan ei fod yn cael cymorth teclyn codi cludadwy.

Gall preswylwyr newid tymheredd y rheiddiaduron yn eu hystafelloedd ond mae'n bosibl na fydd ganddynt y galluedd ac ni fyddant yn gorfforol abl i wneud hyn ac felly cânt eu monitro gan y staff. Nodwyd bod modd agor y ffenestri ar y llawr uchaf (gyda chyfyngwyr ffenestri i'w cadw'n ddiogel) a cheir hefyd ddrysau patio y mae modd eu hagor ar y llawr gwaelod.

Dywedodd y swyddog monitro contractau nad oedd unrhyw hysbysiadau rheoliad 60 yn weddill adeg yr ymweliad, ond byddai'r tîm comisiynu'n cael ei gopïo i mewn pe bai angen hyn ar gyfer y ddau breswylydd a gefnogir gan yr awdurdod lleol.

Caiff ymweliadau rheoleiddio cynlluniedig eu trefnu gyda'r cartref ond nodwyd hefyd bod yr Unigolyn Cyfrifol yn ymweld bob wythnos fel rheol. Esboniwyd bod yr unigolyn cyfrifol a'r uwch dîm yn parhau i gymryd rhan i raddau helaeth a chynnig cymorth yn y cartref.

Caiff atgyfeiriadau i dimau proffesiynol ac asesiadau eu cynnal yn rheolaidd a chynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 31 Hydref. Dywedwyd wrth y swyddog monitro contractau fod gwely llawr wedi'i drafod ar gyfer un preswylydd, roedd un gŵr yn cael ffisiotherapi gan dîm Fieldbay, ac roedd atgyfeiriad allanol wedi'i wneud am gadair olwyn i breswylydd arall. Roedd dau breswylydd hefyd yn cael cymorth gan y tîm lleferydd ac iaith mewnol. Roedd tîm Nyrsio Huntington's, dietegwyr arbenigol, y tîm iechyd meddwl cymunedol a'r timau comisiynu yn gweithio yno hefyd.

Roedd ceisiadau Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid y cartref yn gyfredol ac roedd y rhain wedi'u cyflwyno i breswylwyr newydd ac roeddent yn aros am ddyddiadau ar gyfer cynnal asesiadau.

Archwiliad Pen Desg

Rhannwyd copi o'r matrics hyfforddiant â'r swyddog monitro contractau ar 6 Tachwedd ac roedd hwn yn nodi mai 85.9% oedd y gyfradd cydymffurfio cyffredinol â hyfforddiant. Roedd y gyfradd cymhwysedd meddyginiaeth yn 37% a holwyd y dirprwy reolwr am hyn gan ei fod wedi ffurfio rhan o gynllun gweithredu perfformiad y darparwr a theimlwyd efallai nad oedd hyn wedi'i adlewyrchu ar y matrics.

Roedd y pasbort codi a chario wedi'i nodi ar y matrics fel ‘codi gwrthrychau â llaw’, a'r enw ar gymorth cyntaf oedd ‘cymorth bywyd sylfaenol’. Cofnodwyd hyfforddiant gorfodol arall ar y matrics, sy'n cynnwys diogelu, hylendid bwyd, amhariad synhwyraidd a rheoli heintiau ac ati ac roedd y rhan fwyaf wedi'u hadnewyddu yn ystod y tair blynedd a argymhellir.

Roedd yn gadarnhaol bod dau o'r ymarferwyr gofal iechyd wedi llwyddo i gael eu dewis i gwblhau eu cymhwyster nyrsio gyda'r brifysgol agored. Dywedodd y dirprwy reolwr mai cwrs tair blynedd yw hwn ochr yn ochr â'u rolau llawn amser, ond byddent yn cael rhai oriau ychwanegol i'w helpu i gwblhau'r cwrs. Dangosodd hyn ymrwymiad y cwmni i ddatblygu ei ofalwyr presennol ei hun sy'n dymuno gwneud cynnydd ar hyd y llwybr nyrsio.

Dangoswyd cyrsiau ychwanegol ar y matrics penodol i'r cartref a ddarparwyd a oedd wedi'u hanelu o gwmpas anghenion arbenigol yr unigolion: Roedd 16 o aelodau o staff wedi cwblhau hyfforddiant bwydo gastronomi endosgopig, 4 wedi cwblhau gofal cathetr, 2 nyrs wedi cwblhau gwythïen-bigo i'w galluogi i dynnu gwaed, roedd 9 wedi cwblhau hyfforddiant cymorth actif, 20 wedi cwblhau hyfforddiant diabetes, 28 wedi cwblhau hyfforddiant dysffasia, roedd 32 wedi gwneud gofal briwiau pwyso ac roedd 25 wedi mynd i hyfforddiant ar ffiniau proffesiynol ac roedd 5 wedi mynd i hyfforddiant ar Huntington's.

Staffio a hyfforddi

Mae dwy nyrs gymwys, neu 1 nyrs ac ymarferydd gofal iechyd ac o leiaf 7 aelod o staff gofal yn staffio'r cartref yn ystod y dydd. Mae 1 nyrs ac 1 ymarferydd gofal iechyd ar y shifft nos gyda 6 gofalwr. Cydnabuwyd bod hyn yn ogystal â'r rheolwr, dirprwy reolwr, cydlynwyr gweithgareddau, staff arlwyo, staff domestig, therapïau ac ati a all fod yn bresennol.

Ar adeg yr ymweliad, roedd tri chydlynydd gweithgareddau llawn-amser a oedd dan gontract i weithio 37½ awr yr wythnos, sydd wedyn yn galluogi mwy o staff ar y penwythnos ac nid yw'n cael cymaint o effaith os bydd un yn mynd ar wyliau blynyddol neu'n gorfod cymryd absenoldeb salwch. Dywedwyd wrth y swyddog monitro contractau fod un ar fin mynd ar gyfnod mamolaeth, felly maent yn hysbysebu am bedwerydd cydlynydd.

Er nad yw'r cartref yn dibynnu ar staff asiantaeth, esboniwyd bod adegau pan fyddant yn defnyddio'r gwasanaeth hwn, a phan gaiff ei ddefnyddio, mae'r asiantaeth yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol mewn perthynas â gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'u cymwysterau.

Caiff hyfforddiant ei ddarparu ar-lein trwy lwyfan o'r enw Care Skills a cheir hyfforddiant mewnol a hyfforddiant wyneb yn wyneb hefyd. Esboniwyd bod gan y cyrsiau ar-lein gwis ar ddiwedd y modiwl gyda marc llwyddo dynodedig i sicrhau bod y dysgwyr wedi meithrin dealltwriaeth dda. Caiff asesiadau cymhwysedd a hyfforddiant ymarferol eu defnyddio hefyd ar gyfer pynciau fel codi a chario.

Caiff ansawdd yr hyfforddiant ei asesu drwy sesiynau goruchwylio ac arfarnu, yn ogystal â'r tîm rheoli sy'n monitro ac yn arwain y tîm. Dywedodd y dirprwy reolwr eu bod yn edrych ar unrhyw anghenion datblygu sydd gan staff a chaiff hyn ei ystyried hefyd wrth gyflawni asesiadau cychwynnol i breswylwyr newydd; un enghraifft a roddwyd oedd yr angen i ganfod hyfforddiant laryngectomi ar gyfer gŵr newydd a oedd yn symud i gartref Cwmgelli.

Nodwyd bod y cynnig rhagweithiol mewn perthynas â'r Gymraeg yn cael ei gwmpasu fel rhan o'r asesiad cychwynnol ond yna cafodd ei ymgorffori yn adran gyfathrebu eu cynllun personol sy'n amlinellu ym mha iaith maent yn dymuno sgwrsio. Ar adeg yr ymweliad ni ddywedodd unrhyw breswylwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg.

Nid oedd ffeiliau'r staff yn cael eu cadw'n ffisegol yng Nghwmgelli gan fod y wybodaeth yn cael ei rheoli'n electronig gan yr adran adnoddau dynol gorfforaethol. Gofynnwyd am fanylion a chawsant eu rhannu â dau aelod o'r staff: roedd y ddau'n cynnwys o leiaf dau eirda ysgrifenedig, gydag un ohonynt gan gyflogwr blaenorol. Roedd gan y ddwy ffeil ddisgrifiadau swydd, tystysgrifau geni, ffotograffau, copïau o'u pasbortau a gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ni chafodd unrhyw ffurflenni cais manwl eu rhannu, ond nodwyd bod adborth wedi'i gofnodi ar gyfer y shifft brawf. Darparwyd cofnodion cyfweliadau ac fel y soniwyd yn flaenorol, dim ond un cyfwelydd wnaeth gwblhau'r rhain.

Gwnaeth y swyddog monitro contractau gydnabod nad oedd unrhyw fylchau anesboniadwy mewn hanes cyflogaeth. Lle roedd bylchau, nodwyd rheswm clir. Roedd gan un o'r ffeiliau gopi o'r contract wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan y cyflogai newydd a'r cartref, ond dim ond un llofnod oedd ar yr ail gontract ac nid oedd yn amlwg pwy oedd wedi ei lofnodi. Yn dilyn yr ymweliad, cafodd hyn ei gywiro a rhannwyd contract wedi'i lofnodi a'i ddyddio.

Goruchwylio ac arfarnu

Mae pob aelod o'r staff yn mynd i sesiynau goruchwylio bob tri mis o leiaf. Ar adeg yr ymweliad, roedd wyth yn hwyr (roedd un ohonynt ar gyfnod mamolaeth). Fel y soniwyd yn gynharach yn yr adroddiad, roedd yna arfarniadau blynyddol a oedd yn hwyr.

Caiff sesiynau goruchwylio eu cynnal fel sesiynau 1 i 1 cyfrinachol a ffurfiol. Caiff yr aelod o'r staff wybod pan gaiff cyfarfod ei gynllunio ac mae'n dod o safbwynt llesiant yr aelod o staff. Mae gan y cyflogai gyfle i roi ei safbwyntiau ar sut mae'n perfformio, enghreifftiau da a chyfleoedd datblygu neu unrhyw bryderon. Mae'r goruchwyliwr yn rhoi adborth ac yna bydd yn edrych ar amcanion ac yn amlinellu cynllun gweithredu ar gyfer y 3 mis nesaf.

Archwiliad o ffeiliau a dogfennaeth

Roedd y cynlluniau personol yn canolbwyntio ar yr unigolyn a chafodd rhai canlyniadau eu nodi. Mae un o'r unigolion a gefnogir gan CBS Caerffili wedi cael llawer o gymorth gan ei gweithiwr cymdeithasol ac mae ganddi ddwy ferch. Nodwyd nad oedd yn gallu cymryd rhan yn ffurfiol nac yn uniongyrchol wrth lunio'r cynlluniau, gan fod y staff gofal a oedd ynghlwm wedi'i hadnabod ers blynyddoedd lawer ac mae ganddynt ddealltwriaeth dda o'i harferion a'i hoff bethau. Gwelwyd tystiolaeth o e-bost yr oedd y rheolwr wedi'i anfon at un o'r merched, ond nid oedd tystiolaeth ei bod wedi cymryd rhan wrth lunio nac adolygu'r cynllun personol.

Roedd yr ail breswylydd wedi cael diagnosis o Huntington's ac mae dietegwyr, therapydd lleferydd ac iaith, gweithiwr cymdeithasol a nyrs arbenigol yn ymwneud ag ef. Er bod yr asesiadau risg a'r cynlluniau personol i weld yn ymgorffori'r canfyddiadau gan gynrychiolwyr a gofalwyr allweddol, nid yw hyn wedi'i gofnodi'n glir. Sylwyd hefyd yn ystod y cyfarfod cyntaf bod uwch aelod o'r staff yn mynd trwy'r cynllun personol a'r asesiad risg gyda phreswylydd cymharol newydd i sicrhau ei fod yn cytuno ar y cynnwys.

Roedd asesiadau risg ar waith, ac roedd y rhain wedi'u gweld trwy broses perfformiad y darparwr. Roedd asesiadau risg priodol yn bresennol o gwmpas meysydd fel symudedd yn gwaethygu, diet, mynd allan yn y gymuned, diabetes, tagu ac ati ac roedd y rhain i gyd wedi'u hadolygu o leiaf bob tri mis. Nododd y swyddog monitro contractau fod un preswylydd yn cael ei bwyso'n wythnosol oherwydd ei gyflwr a'i fod wedi colli pwysau, ond roedd y staff yn ymwybodol o'r angen i'w annog i fwyta ac i gryfhau ei fwyd cymaint â phosibl.

Caiff cofnodion dyddiol eu cadw'n electronig er mwyn helpu'r staff i ddogfennu rhyngweithiadau mewn amser real. Mae'r cofnodion yn tynnu sylw at lesiant, graddfa poen Abbey, gweithgareddau, cyflwr y croen, hwyliau, cymeriant maethol a damweiniau neu ddigwyddiadau a symudedd.

Mae'r staff yn cadw golwg ar y bobl sy'n dewis aros neu y mae angen iddynt aros yn eu hystafelloedd yn rheolaidd a rhoddir dewis i'r rheiny sy'n gallu ymuno mewn unrhyw weithgaredd grŵp. Bydd y cydlynwyr gweithgareddau yn mynd i mewn ac yn siarad â nhw, neu os byddant yn pobi, gallent fynd i ofyn iddynt a oeddent eisiau help gyda chymysgu a mynd â'r bowlen i'w hystafell. Efallai y bydd rhai preswylwyr yn hoffi cael eu hewinedd wedi'u paentio, cael papur newydd neu lyfr wedi'i ddarllen iddynt, gwylio'r teledu ac ati.

Sicrhau Ansawdd

Gwelwyd yr adroddiad sicrhau ansawdd diweddaraf, a dogfennwyd ‘rydym wedi mwynhau'r haul a hwyl yn yr awyr agored gyda theithiau i Barc Bryn Bach, pwll Pen-Y-Fan, canolfannau siopa, Cwmbrân i enwi dim ond rhai. Mae'r tîm gweithgareddau yn parhau i drefnu ar gyfer y dyfodol ac mae cynlluniau i fynd i gyngerdd teyrnged Bob Marley a digwyddiad teyrnged Elvis, digwyddiadau elusennol amrywiol ac rydym yn edrych ymlaen at Galan Gaeaf a noson tân gwyllt. Roedd yr adroddiad ddwywaith y flwyddyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddamweiniau, canmoliaeth a chwynion. Caiff unrhyw gŵyn ei dyddio gan y gweinyddydd a'i rhannu gyda'r tîm comisiynu. Yn y chwarter cyfredol, cafwyd canmoliaeth drwy gerdyn diolch gan aelod o staff a oedd yn gadael.

Nodwyd bod cyfarfodydd tîm yn eithaf agored ar y cyfan, ond caiff templed gwag ei ddosbarthu ymlaen llaw er mwyn rhoi cyfle i'r staff nodi unrhyw eitemau agenda yr hoffent eu trafod. Gwelwyd cofnodion ar gyfer y cyfarfod diweddaraf ar 27 Gorffennaf a oedd yn cwmpasu adborth o'r ymweliad diwethaf a gynhaliwyd gan y bwrdd iechyd lleol, dewisiadau Nadolig, hyfforddiant, ymholiadau salwch, rolau a chyfrifoldebau. Darparwyd cofnodion hefyd ar gyfer cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Awst, lle'r diben oedd cyflwyno'r rheolwr newydd, y bwriad i wneud rhagor o weithgareddau, cadarnhad o gau proses perfformiad y darparwr ac adborth gan y tîm o staff. Ni chaiff cofnodion eu llofnodi ond cânt eu dosbarthu a chaiff copi ei adael yn ystafell y staff er mwyn i bawb eu darllen.

Ni chaiff cyfarfodydd â pherthnasau eu cynnal yn sgil diffyg presenoldeb; fodd bynnag, cafodd y swyddog monitro contractau wybod fod y rheolwr a'r dirprwy reolwr yn cael llawer o sgyrsiau gydag aelodau o deuluoedd ac eir i'r afael yn briodol ag unrhyw broblemau. Ceir adborth yn anffurfiol mewn digwyddiadau fel partïon Calan Gaeaf, partïon pen-blwydd, barbeciws ac yn y blaen. Argymhellir bod adborth ar lafar yn cael ei gofnodi yn y llyfr canmoliaeth er mwyn eu cynnwys yn adroddiadau chwarterol rheoliad 73.

Mae adroddiadau trosglwyddo ar gael ar system electronig Nourish ac mae modd ychwanegu sylwadau wrth drosglwyddo pan fo angen. Mae nyrsys yn gwneud nodiadau ar ddiwedd pob shifft ac maent yn darparu crynodeb o'r shifft y gall pod aelod o'r staff ei ddarllen.

Ar adeg yr ymweliad, nid oedd eiriolwr dementia ar gael; aelodau o staff a chanddynt ddiddordeb arbennig mewn dementia a gwella gofal a phrofiad cleifion dementia yn yr ardal maent yn gweithio ynddi yw eiriolwyr dementia. Argymhellir bod y rheolwr yn gofyn i'r tîm o staff a hoffai unrhyw un gymryd y rôl hon ac enwebu aelodau o staff perthnasol.

Holiadur staff

Siaradodd y swyddog monitro contractau â dau aelod o'r staff a ddangosodd ddealltwriaeth drwyadl o'r preswylwyr, eu hanghenion, eu dewisiadau a'u harferion. Dywedon nhw eu bod yn cefnogi anghenion emosiynol y preswylwyr drwy gymryd amser i wrando arnynt a'u deall, cynnig tawelwch meddwl lle bo angen, ac i rai preswylwyr, gallent geisio tynnu eu sylw a siarad am bynciau eraill.

Os oeddent yn gweld bod preswylydd wedi cynhyrfu, roeddent yn esbonio y byddent yn defnyddio strategaethau a ddysgwyd o'u hyfforddiant cefnogi ymddygiad cadarnhaol ac yn amyneddgar wrth geisio deall beth allai fod yn achosi iddynt gynhyrfu. Dywedodd un aelod o'r staff y byddai'n mynd â rhai preswylwyr i ardal dawel ac yn gofyn iddynt beth allai fod yn achosi iddynt gynhyrfu.

Ni ddywedodd yr un aelod o'r staff ei fod yn mynd allan i'r gymuned yn aml iawn ond eglurwyd bod y cydlynwyr gweithgareddau neu'r staff o'r tîm therapïau yn mynd â nhw allan. Rhoddodd y swyddog monitro contractau wybod hefyd bod llawer o breswylwyr yn mynd allan gyda'u teuluoedd. Roedd disgwyl i un o'r gwŷr ymweld â'i wraig ar ddiwrnod yr ymweliad cyntaf. Soniwyd hefyd fod y rhan fwyaf o'r preswylwyr wir yn hoffi mynd allan i'r gymuned a bod eu hwynebau wrth ddychwelyd yn dangos cymaint y gwnaethant fwynhau.

Rhoddwyd gwybodaeth fanwl am ddau breswylydd ac yn ogystal ag esbonio'u hanghenion cymorth a sut y byddai angen i ddechreuwr newydd eu helpu, gwnaethant hefyd ddarparu cipolwg i'w gorffennol, beth maent yn mwynhau ei wneud a beth sy'n bwysig iddynt.

Mae preswylwyr ag anawsterau cyfathrebu yng nghartref Cwmgelli a chydnabuwyd bod staff wedi cwblhau hyfforddiant yn hyn o beth. Weithiau, bydd staff yn defnyddio ffotograffau neu gardiau PEC i helpu i gyfathrebu â phreswylwyr a chaiff manylion o ran eu gallu cyfathrebu eu cynnwys yn eu cynlluniau personol. Gall rhai preswylwyr ddangos i ofalwyr beth maen nhw eisiau ond mae iaith y corff a mynegiant yr wyneb hefyd yn bwysig i ddeall yr hyn y maent eisiau ei ddweud. Esboniodd yr aelodau staff hefyd fod unigolion y mae angen i bobl siarad yn araf ac yn glir â nhw lle y gallant weld eich ceg, a bod rhai a fydd yn ymateb i giwiau gweledol, fel dal mwg ar gyfer diod boeth neu wydr ar gyfer diod oer.

Gofynnodd y swyddog monitro contractau a oeddent yn gallu bod yn hyblyg o fewn eu rolau a dywedodd y ddau ohonynt eu bod nhw i ryw raddau. Dywedodd un gofalwr fod rhai cael rhyw lefel o strwythur i ddiwallu anghenion y preswylwyr yn ddiogel a dywedodd yr aelod arall o'r staff er bod timau gwahanol fel y timau gweithgareddau, therapïau, domestig, arlwyo, nyrsio ac ati, mai un tîm ydyn nhw i raddau helaeth ac er bod ganddynt rolau gwahanol mae pob un ohonynt yn gweithio'n agos gyda'i gilydd. Roedd yn ddymunol nodi bod un gofalwr wedi dweud ei fod bellach yn teimlo'n gyfforddus i allu eistedd a sgwrsio â'r preswylwyr.

Os oedd pum munud rhydd ac nad oedd rhyw lawer i'w hysgogi, dywedodd un gofalwr y byddent yn chwarae gêm fwrdd, yn gofyn iddynt a hoffent wylio ffilm neu a fyddent yn hoffi mynd am dro.

Dywedodd y ddau aelod o staff eu bod yn teimlo eu bod yn gallu ac yn cael eu hannog i gynnig awgrymiadau am wella ansawdd bywyd ar gyfer eu preswylwyr. Gwnaethant esbonio eu bod yn trafod unrhyw feysydd y gellir eu datblygu yn ystod cyfarfodydd staff a sesiynau goruchwylio. Dywedwyd wrth y swyddog monitro contractau fod mwy o weithgareddau'n mynd rhagddynt a bod mwy o bresenoldeb staff sy'n cael effaith gadarnhaol ar y bobl sy'n byw yno. Rhoddwyd enghraifft lle roedd pryder nad oedd dau breswylydd yn cyd-dynnu a rhoddwyd cyfle i un ohonynt symud i lawr gwahanol, ac o ganlyniad, mae'r ddau ohonynt yn llawer hapusach. Sylwodd y swyddog monitro contractau fod staff yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso a'u gwerthfawrogi o fewn y cartref. Gwnaethant esbonio pa gamau byddent yn eu cymryd pe byddent yn dyst i unrhyw arferion gwael neu gamdriniaeth a byddent yn uwchgyfeirio'n briodol yn unol â'r polisi diogelu a/neu bolisi chwythu'r chwiban.

Er mwyn helpu pobl i wneud pethau drostynt eu hunain, esboniodd y staff nad ydynt yn dymuno camu i mewn i helpu pobl i wneud tasgau y gallant eu gwneud yn annibynnol ac i fod yn amyneddgar wrth eu cefnogi i gynnal eu rhyddid. Maent yn annog preswylwyr i wneud eu penderfyniadau eu hunain a chwblhau asesiadau codi a chario i roi unrhyw gyfarpar y gall fod eu hangen arnynt i'w helpu i gyflawni gweithgareddau byw yn ddyddiol.

Roedd yn ddymunol nodi bod y ddau aelod o staff wedi dweud bod y rheolwr a'r dirprwy reolwr yn treulio amser yn cerdded o gwmpas y cartref ac yn ymgysylltu â'r staff a'r preswylwyr a'u bod ar gael i gynnig cyngor a chymorth. Adroddwyd bod hyn wedi gwella ers i'r brif swyddfa symud i uned 'rose' ac yn fwy hygyrch. Rhoddwyd adborth cadarnhaol ar y rheolwr newydd a dywedwyd wrth y swyddog monitro contractau bod pethau'n mynd yn dda.

Holiadur i breswylwyr

Cafwyd adborth gan ddau breswylydd: dywedodd un ohonynt wrth y swyddog monitro contractau ei fod yn cael ei gefnogi i fynd allan i siopa, ei fod newydd fod ar daith undydd i Borthcawl ac roedd wedi bod i weld ambell i fand teyrnged. Yn ddiweddar, roedd y cartref wedi cynnal parti Calan Gaeaf, a rhoddwyd gwybod bod hwn wedi mynd yn dda. Roedd yn bwysig iddynt allu fepio y tu allan yn annibynnol pan oeddent eisiau. Ni wnaeth yr ail breswylydd ddarparu llawer o fanylion ynghylch sut mae'n yn treulio'i ddiwrnod, ond sylwyd arno'n pobi cacennau cnau coco gydag aelod o'r staff yn ystod ymweliad.

Dywedodd un preswylydd fod y bwyd yn iawn ac nad oedd ganddo unrhyw gwynion. Nodwyd nad oedd ganddynt unrhyw hoff brydau ond roedd amrywiaeth dda ac nid oedd unrhyw beth yr oeddent eisiau nad oedd ar y fwydlen. Dywedodd y preswylydd arall nad oedd y bwyd bob amser gyda'r gorau a bod anghysondeb yn dibynnu ar ba aelodau o staff oedd yn gweithio. Gwnaethant bwysleisio bod y prydau yn gallu bod yn eithaf ailadroddus ac nad oedd y safon ar ei gorau bob amser. Dywedodd y gŵr yr hoffai gael mwy o beis a phasteiod ar y fwydlen.

Dywedodd un gŵr wrth y swyddog monitro contractau ei fod yn meddwl y bydd yn hapus yn y cartref, a'i fod yn dod ymlaen yn dda gyda rhai o'r preswylwyr eraill a bod y staff i gyd yn hyfryd, ond dyddiau cynnar oedd hi gan ei fod newydd symud i mewn i'r eiddo. Dywedodd y preswylydd arall ei fod yn hapus yng nghartref Cwmgelli.

Dywedodd un gŵr nad yw'n cael mynd allan yn aml ac yr hoffai wneud hynny. Pan ofynnwyd i ble, atebodd nad oedd yn gwybod ond soniodd ei fod yn hoffi rygbi. Cydnabuwyd bod y cartref wedi trefnu taith am ddim o'r blaen i breswylwyr fynd i'r cae rygbi yng Nghasnewydd, ond roedd hyn cyn i'r unigolyn hwn symud i mewn a gallai fod yn opsiwn yn y dyfodol. Dywedodd y gŵr arall ei fod yn gallu mynd allan i'r gymuned a gwneud fel y mae'n dymuno. Nodwyd mai'r unig beth oedd yn cyfyngu arno oedd y swm o arian i'w wario. Sylwyd bod y gŵr hwn yn cael ei gefnogi i fynd allan yn ei gadair olwyn gyda thri o'r preswylwyr eraill yn ystod un o'r ymweliadau.

Dywedodd y preswylwyr fod y staff yn garedig ac yn gwneud iddynt deimlo y cânt eu gofalu amdanynt. Esboniodd un gŵr fod ei symudedd yn gwaethygu a'i fod yn defnyddio ffon gerdded ar hyn o bryd, dywedodd fod arno ofn cwympo a'i fod yn teimlo'n ddiogel yn y cartref. Dywedodd fod y staff yn ei gefnogi gydag unrhyw beth sydd ei angen arno. Dywedodd yr ail ŵr fod y staff yn garedig drwy'r amser ac os oedd ganddo unrhyw broblemau, byddai'n teimlo'n hyderus i godi'r peth gyda'r rheolwr neu'r swyddog monitro contractau.

Nodwyd bod y ddau unigolyn yn teimlo y gallent siarad â'r staff am unrhyw beth a dywedodd un ohonynt ei fod wedi gwylio'r newyddion gyda gofalwr y diwrnod cynt ac wedi sgwrsio am yr hyn a oedd yn digwydd yn y byd. Pan ofynnwyd a oedd angen unrhyw gymorth eirioli arnynt, dywedodd un o'r preswylwyr y byddai'n hoffi petai eiriolwr a gweithiwr cymdeithasol yn cyfarfod ag ef.

Holiadur perthynas

Cafwyd adborth gan ddau berthynas/cynrychiolydd y preswylwyr sy'n byw yn y cartref; soniodd y ddau eu bod yn cael croeso bob amser a dywedon nhw fod yr awyrgylch yn gyfeillgar drwy'r amser. Dywedodd un ei bod yn ymddangos fel petai rhywbeth yn digwydd drwy'r amser, naill ai prynhawn ffilm, celf a chrefft, pobi ac ati. Dywedon nhw eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a allai fod yn digwydd. Dywedodd y ddau nad oeddent wedi cael eu gwahodd i gyfarfod perthynas ond roeddent wedi bod yn rhan o gyfarfodydd adolygu. Cydnabuwyd eu bod yn teimlo'n hyderus wrth godi pryderon neu gwynion ac nid oeddent yn aros am gyfarfod i drafod unrhyw broblemau. Nid oedd yr un ohonynt yn teimlo'r angen i godi unrhyw bryderon ond dywedwyd eu bod yn teimlo'n sicr yr eir i'r afael ag unrhyw broblemau os oedd angen.

Nodwyd bod y ddau gynrychiolydd yn teimlo'n wybodus a dywedwyd bod y cyfathrebu â'r cartref yn dda. Gofynnodd y swyddog monitro contractau a oedd unrhyw beth y byddent yn ei newid am y cartref ac ni allai'r un ymatebydd feddwl am unrhyw beth a fyddai'n gwella ansawdd y gofal a ddarperir. Soniodd un ‘eu bod yn diwallu ei hanghenion, ac mae'n ymddangos yn hapus ac wedi setlo yno’.

Gwnaed sylwadau cadarnhaol am y gofalwyr a'r cymorth maent yn ei roi a dywedon nhw fod un preswylydd yn gwneud pethau nawr na fyddai wedi gallu eu gwneud fel arall. Soniodd un hefyd fod y staff yn gwella ansawdd bywyd ei berthynas a rhoddodd enghraifft o fowlen arbenigol a brynwyd i'w alluogi i fwydo'i hun a bod mor annibynnol â phosibl.

Camau Unioni / Datblygiadol (i'w cwblhau o fewn tri mis i ddyddiad yr adroddiad hwn)

Unioni

Dylai bob aelod o'r staff gwblhau arfarniad blynyddol. Y Ddeddf, fersiwn 2 (Ebrill 2019) rheoliad 36

Dylai'r datganiad o ddiben gael ei adolygu bob blwyddyn o leiaf ac argymhellir bod y dyddiad adolygu nesaf yn cael ei bennu ar y ddogfen neu dylid pwysleisio bod ei hangen o fewn deuddeg mis o ddyddiad y fersiwn gyfredol i ddangos bod hon yn cael ei chwblhau bob blwyddyn, yn unol â rheoliad 7 y Ddeddf. Y Ddeddf, fersiwn 2 (Ebrill 2019) rheoliad 7

Datblygiadol

Lle y bo'n bosibl, bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal gan ddau aelod o staff.

Argymhellir bod y datganiad o ddiben yn cynnwys y cynllun wrth gefn pe bai'r rheolwr cofrestredig a'r unigolyn cyfrifol yn absennol yn annisgwyl.

Rhaid diweddaru'r matrics hyfforddiant i adlewyrchu'n gywir y gwir gydymffurfiaeth â chymhwysedd i roi meddyginiaeth.

Pan fydd adolygiadau'n cael eu cynnal, mae dangos bod y ddogfen wedi'i chyd-lunio a'i llofnodi gan yr unigolyn (os yw'n gallu) a'r rheiny sydd wedi bod ynghlwm yn arfer da.

Dylai adborth ar lafar (cadarnhaol neu negyddol) gael ei ddogfennu a'i gynnwys yn adroddiadau rheoliad 73.

Dylid rhoi ystyriaeth i enwebu hyrwyddwr/hyrwyddwyr dementia.

Casgliad

Cydnabuwyd bod saith o'r deg argymhelliad blaenorol wedi'u cwblhau. Mae'r cartref wedi bod trwy gyfnod o drawsnewid wrth i reolwr newydd ddechrau a mynd trwy broses perfformiad y darparwr, ac mae'r newid yn niwylliant y staff a morâl y staff wedi gwella'n amlwg. Roedd mwy o weithgareddau'n cael eu cynnal, mwy o ryngweithio gyda staff a chyfathrebu gwell gyda theuluoedd a rhwng aelodau o staff. Cafwyd adborth hefyd gan weithiwr cymdeithasol a ddywedodd fod llawer o bethau cadarnhaol yn y cartref a chydnabu gwelliannau drwyddi draw ac ers proses perfformiad y darparwr. Roedd yr unig faes i'w wella yn ymwneud â chyfathrebu gan eu bod yn dal i aros am wybodaeth am ddymuniadau i Beidio â Cheisio Dadebru (DNAR).

Hoffai'r swyddog monitro contractau ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses fonitro am eu hamser, eu cymorth a'u croeso.

Oni thybir y bydd angen ei gwblhau ymlaen llaw, caiff yr ymweliad monitro nesaf ei gynnal ymhen tua deuddeg mis.

  • Awdur: Amelia Tyler
  • Dynodiad: Swyddog monitro contractau
  • Dyddiad: 7 Rhagfyr 2023