Newyddion Caerffili - Rhifyn 20, Chwefror 2024

Penawdau

Efallai byddwch chi eisoes yn ymwybodol bod Gill Cleaton, un o'n Gweithwyr Cymorth i Ofalwyr Ifanc ymroddedig, bellach yn mwynhau ymddeoliad haeddiannol, ond rydyn ni'n falch iawn o groesawu Becky Forward i'r tîm. Dyma ychydig bach o wybodaeth am Becky, yn ei geiriau ei hun:

"Helo, fy enw i yw Becky ac rydw i i fod i ddechrau yn y tîm ar ddechrau mis Chwefror.  Rydw i mor gyffrous i ddechrau fy rôl newydd a helpu a chynorthwyo pobl sy'n gofalu am eraill. Mae gen i gefndir yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ers bron i 26 mlynedd yn y Gwasanaethau i Blant ac, yn fwy diweddar, y tîm Iechyd Meddwl yn y tîm Gwasanaethau i Oedolion. Roeddwn i'n ofalwr i fy nhad a oedd yn dioddef o ddementia cyn marw o’i effeithiau ym mis Medi 2020. Er fy mod i'n ymwybodol o ddementia cyn ei ddiagnosis, doeddwn i ddim yn sylweddoli'r effeithiau mae’n gallu cael ar y dioddefwr a’r teulu.

Ychydig o wybodaeth amdanaf i... dwi'n briod ac yn fam i ferch a chi cockapoo y ddywedais i na fyddai'n cael ei sbwylio (ond mae hi, felly). Rydw i'n mwynhau mynd am droeon hir gyda fy nghi ac rydyn ni hyd yn oed wedi codi rhywfaint o arian at elusennau wrth wneud hyn, gan gynnwys y teithiau cof ar gyfer dementia a strep B. Mae fy merch yn mynd i ysgol ddawns leol ac rydw i bob amser wedi helpu gyda sioeau ac arholiadau. Ond, yn fwy diweddar, gofynnon nhw i fi ddod yn hebryngwr trwyddedig, felly, rydw i'n helpu'n fwy ffurfiol nawr ac yn ei fwynhau'n fawr. Rydw i wrth fy modd yn gwylio’r ballet, nid yn unig pan fydd fy merch yn dawnsio, ond cynyrchiadau’r cwmnïau dawns proffesiynol hefyd. Rydw i hefyd yn gefnogwr pêl-droed enfawr, ond ni fydda i'n datgelu pa dîm rydw i'n ei gefnogi rhag ofn i chi ei ddal dig, ha ha. Rydw i'n edrych ymlaen at gwrdd â llawer ohonoch chi dros y misoedd nesaf."

Gweithgareddau blaenorol

Roedden ni’n meddwl yr hoffech chi weld rhai o’r pethau hyfryd rydyn ni wedi gallu eu trefnu dros y misoedd diwethaf. I enwi dim ond rhai, rydyn ni wedi cynnal ein Diwrnod Hawliau Gofalwyr, diwrnod maldodi a gwybodaeth, ein Dawns Nadolig, cinio gyda'r nos, taith ysbrydion a dringo yn Rock UK Summit Centre. Hefyd, rydyn ni wedi trefnu sesiynau crefft, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn. Felly, byddwn ni’n ceisio trefnu rhagor o’r weithgareddau hyn dros y misoedd nesaf.

Rydyn ni'n gwybod bod gan bawb sefyllfa unigol, ac felly byddem ni wrth ein bodd yn cael rhai awgrymiadau ar gyfer gwahanol weithgareddau ar gyfer y dyfodol.

Mae rhestr o weithgareddau sydd ar y gweill yn y rhifyn hwn o'r cylchlythyr; fodd bynnag, rydyn ni'n trefnu rhagor o bethau wrth iddyn nhw ddod i fyny, felly, dyma erfyn unwaith eto i chi gofrestru drwy e-bost neu ymuno â'n grwpiau Facebook ni. (E-bostiwch ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk neu gofrestru drwy chwilio am “Caerphilly County Carers Group” neu “Caerphilly County Young Carers Group".) Wrth gwrs, rydyn ni’n deall nad yw pob un ohonoch chi ar-lein ac, felly, mae croeso i chi ein ffonio ni unrhyw bryd i weld a oes gennym ni ragor o bethau wedi'u trefnu.

  • Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc – Mawrth 2024

Eleni, y thema yw “dyfodol teg i ofalwyr ifanc”. Byddwn ni'n gweithio gydag ysgolion i sicrhau eu bod nhw'n codi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a rhoi cymorth iddyn nhw i edrych ar sut i wneud eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol cystal ag y gallan nhw fod.

Grwpiau i Ofalwyr

Dyma'ch cyfle chi i siarad â ni ac eraill sydd â phrofiad o ofalu. Er bod pob grŵp yn cwrdd am awr a hanner, mae croeso i chi alw heibio am gyhyd ag y dymunwch chi ac aros yna am gyhyd ag y dymunwch chi wedyn! Mae rhagor o fanylion ar ein grŵp Facebook ni, neu cysylltwch â ni.

  • Grŵp Bargod - Murray’s (Y Stryd Fawr Uchaf, Bargod) ar ddydd Llun cyntaf y mis rhwng 11am a 12.30pm
  • Grŵp Coed Duon - McKenzie’s Cafe ar ddydd Mawrth olaf y mis rhwng 10.30am a 12 canol dydd
  • Grŵp Caerffili - Yr Hen Lyfrgell, Caerffili, ar drydydd dydd Gwener y mis o 2pm tan 3.30pm
  • Grŵp Rhisga - The Coffee Mill, Rhisga, ar ail ddydd Iau y mis o 12 canol dydd tan 1.30pm

Os bydd unrhyw un o’r dyddiadau hyn ar ŵyl banc, fel arfer, byddwn ni’n symud i’r wythnos ganlynol ar yr un diwrnod, ond os ydych chi'n ansicr, gallwch chi gwirio ar Facebook neu cysylltu â’r tîm.

Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc

Rydyn ni'n dal i allu darparu cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc sydd â rôl ofalu mewn lleoliadau addysg ac iechyd. I wneud cais am un, anfonwch e-bost atom ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk am ffurflen gais. 

Gweithgareddau Gofalwyr Chwefror – Mai 2024

Cysylltwch â ni i ofyn am leoedd ar unrhyw un neu ragor o'r gweithgareddau isod a byddwn ni'n ychwanegu eich enw at raffl. Wedyn, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi dim ond os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus. 

Digwyddiadau i ofalyddion

Hyfforddi

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf i Ofalwyr

Darparodd Ambiwlans Sant Ioan Cymru hyfforddiant cymorth cyntaf sylfaenol i oedolion sy’n gofalu ac i ofalwyr ifanc. Cafodd y sesiynau eu cynnal ar wahân ac roedden nhw'n rhyngweithiol iawn gan sicrhau bod pawb yn deall a’u bod yn galluog.

Roedd yr hyfforddiant yn ymdrin â sut i asesu sefyllfa, cynnal arolwg sylfaenol, sicrhau bod y llwybrau anadlu yn glir, gosod rhywun mewn ystum adfer, peryglon ac ymateb i dagu, adfywio a, hefyd, lleoli diffibrilliwr a'i ddefnyddio.

Roedd pawb yn llwyddiannus yn yr hyfforddiant a chawson nhw i gyd dystysgrif, sy'n ddilys am 3 blynedd, sy’n caniatáu iddyn nhw ddarparu cymorth cyntaf, os oes angen.

Fel rhan o “Defibruary”, roedd modd i ni drefnu rhywfaint o hyfforddiant cymorth cyntaf i oedolion sy’n gofalu gydag Ambiwlans Sant Ioan. Bydd hyn yn digwydd ddydd Mawrth 20 Chwefror 2024 o 10.00am-12.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Cefn Hengoed.  Cysylltwch â Helen ar joneshd1@caerffili.gov.uk i gadw lle.

Aelodaeth Hamdden

Mae unrhyw ofalwyr ifanc hyd at 16 oed yn gallu cael aelodaeth Plant Actif am ddim. I wneud hyn, y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni beth yw enw, cyfeiriad a rhif Cerdyn Smart y gofalwr a byddwn ni'n trefnu i aelodaeth gael ei gymhwyso am flwyddyn. 

Mae aelodaeth Plant Actif yn rhoi'r hawl i ofalwyr ifanc nofio, defnyddio'r gampfa a mynd i rai dosbarthiadau i blant am ddim. Yn anffodus, mae'n rhaid i chi fod yn 11 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r gampfa.

Mae gennym ni rywfaint o arian ychwanegol i alluogi pob gofalwr arall i fod yn aelod am flwyddyn gyda'r Cyngor. E-bostiwch ni ar: gofalwyr@caerffili.gov.uk am ffurflen gais.

Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr

Mae’r Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr yn dal i redeg, ac mae gennym ni arian ar ôl yn y cynllun, sydd bellach wedi bod o fudd i dros 300 o ofalwyr (a’u teuluoedd) yng Nghaerffili ers iddo ddechrau yn 2017. Gallwch chi lenwi’r ffurflen ar-lein yn www.thecarecollective.wales (cliciwch ar y ddolen ar gyfer grantiau) neu, os oes angen ffurflen gais a chanllawiau arnoch chi, anfonwch e-bost atom ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk neu ffonio ni ar y rhifau isod. (Sylwer, mae’r ffurflen gais a’r canllawiau'n cael eu diweddaru’n aml, felly, efallai y bydd gennych chi fersiwn sydd wedi dyddio.)

Asesiadau Gofalwyr

Mae asesiad gofalwr yn gyfle i chi i ddweud wrthym ni am eich sefyllfa chi. Gallwch chi ddweud wrthym ni am yr hyn rydych chi'n ei wneud, sut mae gofalu'n effeithio arnoch chi a pha help yr hoffech chi ei gael.

Weithiau, mae gofalwyr yn poeni am siarad â ni oherwydd teyrngarwch, euogrwydd, ofn peidio ag ymdopi neu falchder. Peidiwch â gadael i'r teimladau hyn eich atal chi rhag cysylltu â ni. Drwy roi gwybod i ni am eich sefyllfa chi, gallwn ni sicrhau eich bod chi'n cael gwybodaeth a chyngor a allai fod o gymorth i chi.

Gall asesiad gofalwr:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a allai eich helpu chi gyda'ch rôl ofalu.
  • Cynnig cymorth emosiynol i'r gofalwr.
  • Dechrau sgwrs “beth sy'n bwysig?”
  • Darparu gwybodaeth am ba gymorth ymarferol sydd, efallai, ar gael i ofalwyr.
  • Siarad am gryfderau’r gofalwr a’i helpu i ddod o hyd i’w atebion ei hunan i broblemau a sefyllfaoedd.
  • Agor drws i rwydwaith o ofalwyr eraill, gan ddarparu rhagor o gymorth a chyngor.
  • Cynnig grwpiau cymorth a chyfleoedd cymdeithasol.
  • Helpu gyda cheisiadau ar gyfer y Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr am bethau fel eitemau cartref, gwersi gyrru, cyrsiau i alluogi'r gofalwr i barhau â'i rôl ofalu, seibiant.
  • Trafod unrhyw anghenion hyfforddi a fyddai'n cynorthwyo gyda'r rôl ofalu a cheisio cael mynediad at yr hyfforddiant hwn.
  • Cynnig seibiannau untro neu seibiannau tymor byr iawn rhag gofalu.
  • Darparu gwybodaeth am sefydliadau gofal os yw'r person eisiau talu am gymorth yn breifat.
  • Darparu Cerdyn Argyfwng Gofalwr fel bod pobl eraill yn cael gwybod bod y gofalwr yn ofalwr pe bai yn cael damwain neu mewn argyfwng.
  • Cyfeirio at sefydliadau neu dimau eraill a allai fod o gymorth.

Nid yw asesiad gofalwr yn gallu:

  • Cael ei ddefnyddio yn lle asesiad o anghenion y person sy'n cael y gofal.
  • Darparu “seibiant” parhaus.
  • Cyflwyno pecyn gofal parhaus (drwy gyllid gan y Gwasanaethau Cymdeithasol)

Gallwch chi ofyn am asesiad gofalwr trwy ffonio'r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 2500 neu drwy e-bostio GCChOedolion@caerffili.gov.uk

Os ydych chi wedi cael asesiad o’r blaen a hoffech chi iddo gael ei adolygu (efallai bod eich rôl gofalu chi wedi newid), rhowch wybod i ni.

Tîm Gofalwyr Caerffili

Rhag ofn eich bod chi'n newydd i ni, y tîm yw:

Mae llawer o ffyrdd i chi gysylltu â ni. Cysylltwch â ni drwy e-bostio Gofalwyr@caerffili.gov.uk, neu ar Facebook, ar Twitter (@CarerCaerphilly), neu drwy www.caerffili.gov.uk/gofalwyr.    ​

Adnoddau

  • Cerdyn Argyfwng Gofalwr – Os hoffech chi gael un, cysylltwch â ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk, 01495 233218 neu 01495 233234.
  • Seibiant o ofalu – Efallai y gallwn ni eich helpu chi i gael seibiannau tymor byr neu untro o'ch rôl ofalu.  Cysylltwch â ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk i gael gwybod rhagor.
  • Mae gennym ni rai cardiau “Max Card” ar gael am ddim i'r rhai sydd â phlant o dan 25 oed. Mae'n cynnig gostyngiadau ar ddiwrnodau allan a gweithgareddau. Mae rhagor o fanylion ar gael yma: www.mymaxcard.co.uk. Cysylltwch â ni os hoffech chi gael un.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Hoffai Julie Fox, Arweinydd Awtistiaeth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rannu’r canlynol gydag unrhyw un a hoffai ddysgu rhagor am awtistiaeth ac iechyd meddwl.

Mae rhywfaint o e-ddysgu ar gael yma: https://autismwales.org/cy/adnoddau/dysgu-electronig/

Hefyd, hoffai Julie wneud pawb yn ymwybodol o Linell Gymorth Iechyd Meddwl newydd i Gymru (llinell gyngor a gwrando cymunedol yw hon, ac mae’n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol): https://www.callhelpline. org.uk/

Newyddion Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy'n Gofalu

Gŵyl Gofalwyr Ifanc 2024

Rydyn ni'n hynod gyffrous i fod yn rhan o Ŵyl Gofalwyr Ifanc unwaith eto eleni.  Bydd yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth 20 Awst i ddydd Iau 22 Awst 2024 ar Faes Sioe Llanfair-ym-Muallt. Mae gennym ni leoedd i 13 o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu rhwng 11 a 25 oed. Bydd gennym ni ragor o wybodaeth yn y misoedd nesaf, ond os hoffech chi gofrestru eich diddordeb chi, anfonwch e-bost atom ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk neu ffonio Geraldine ar 07713 092795

Coleg y Cymoedd yn Ennill Gwobr am Gymorth i Ofalwyr

Mae Coleg y Cymoedd wedi cael achrediad ar gyfer Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr a chafodd tystysgrif ei chyflwyno gan Julie Morgan MS, y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, ym mis Tachwedd 2023. 

Mae hyn yn nodi cymorth, dealltwriaeth a chynhwysiant gofalwyr o fewn addysg.

Cafodd Helen Jones, o'n tîm ni, y fraint o gael ei gwahodd a siaradodd am y cymorth mae'r coleg yn ei gynnig i ofalwyr ifanc, gan weithio gyda'i gilydd i sicrhau eu bod nhw'n cael lles trwy gydol eu hamser yn y coleg. Roedd gofalwyr ifanc yn ysbrydoledig yn eu hareithiau, gan siarad am eu brwydrau, problemau a nodi sut roedden nhw’n ymdopi. Gyda'u penderfyniad eu hunain a gyda chymorth gan eraill, llwyddon nhw i sicrhau lleoedd yn y coleg a, trwy fynychu cyrsiau, mae hyn wedi rhoi iddyn nhw yr hyder i ffynnu.

Roedd Laura Wilson a Helen Vickery, sydd wedi bod yn allweddol wrth weithio gyda’r timau gofalwyr, yn bresennol yn y cyflwyniad i ddathlu cyflawniadau’r coleg.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal diwrnodau a nosweithiau agored yn fuan, a bydd dyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan.

Cymorth i Ofalwyr Ifanc sy'n ystyried Addysg Uwch

Aeth Helen i Brifysgol Caerdydd gyda grŵp o ddisgyblion cyfnod allweddol 3 o Ysgol Gyfun Heolddu i Brifysgol Caerdydd i gwrdd â thîm Ymestyn yn Ehangach a meithrin perthynas â'r brifysgol. Nododd hyn y cymorth sydd ei angen ar ofalwyr ifanc a sut maen nhw’n gallu ei gyflawni.

Yn dilyn yr ymweliad, dyma'r hyn a ddywedodd gofalwr ifanc:

“Mae heddiw wedi bod yn brofiad gwych i archwilio cyfleoedd ar gyfer ein haddysg yn y dyfodol. Mae'r brifysgol yn ystyried pob myfyriwr, ac roedd hynny’n amlwg trwy gydol y daith. Rydw i’n credu bod hyn wir wedi agor fy llygaid i fywyd prifysgol ac wedi fy ysgogi'n fawr iawn. Mae'r brifysgol yn helpu gofalwyr ifanc a phobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, ac mae’r rheiny’n ffactorau pwysig iawn. Rydw i'n argymell y daith hon i bobl sy'n cael trafferth mynd y tu hwnt i'w cylch cysur a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Mae'n hwb gwych i'ch cymhelliant ac yn rhoi rhywbeth i chi edrych ymlaen ato yn y dyfodol.”

Mae Prifysgol Caerdydd a’r tîm Ymestyn yn Ehangach yn trefnu gweminarau “A yw Addysg Uwch yn addas i mi?”

Mae hwn yn cynnig cyngor da iawn i ofalwyr ifanc sy'n ystyried mynd i'r brifysgol.  Mae'r pynciau dan sylw yn cynnwys gwneud y dewisiadau cywir, cyrsiau sydd ar gael, prifysgolion, goresgyn rhwystrau ariannol, llety a cheisiadau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau (UCAS) wedi'u hanelu at ofalwyr ifanc. Bydd mynediad at hyn mewn sesiynau grŵp neu ar sail 1-1.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, cysylltwch â reachingwider@cardiff.ac.uk

Ac yn olaf…

Byddwn ni'n anfon ein cylchlythyr nesaf atoch chi drwy'r post neu drwy e-bost nes ymlaen yn 2024 gyda rhagor o newyddion, gweithgareddau a gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n hoffi cael copi o'n cylchlythyrau ni, rhowch wybod i ni. 

Hefyd, os nad ydych chi'n ofalwr bellach ac eisiau cael eich tynnu oddi ar restr bostio'r cylchlythyr, rhowch wybod i ni a gallwn ni dynnu'ch manylion oddi ar y rhestr.