Digwyddiadau
Mae ein gweithgareddau, digwyddiadau a grwpiau i gyd yn cael eu rhestru yn ein grŵp caeedig ar Facebook, felly, os nad ydych chi'n aelod – neu os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n ofalydd a fyddai, o bosibl, eisiau ymuno – chwiliwch am “Caerphilly County Carers Group” a gwneud cais am ymuno neu wahodd rhywun i ymuno.
Medi 2023
Hydref 2023
- Dydd Mawrth 10 Hydref o 6:00pm – Dosbarthu pizza o Domino’s.
- Wythnos yn dechrau 18 Hydref – Dosbarthu pecyn crefft i oedolion sy’n gofalu - stampiwch eich bag cario eich hun.
- Dydd Llun 30 Hydref tan 5 Tachwedd – Wythnos sinema yn Sinema Maxime, Coed Duon.
- Dydd Llun 30 Hydref 1.30pm - 3.30pm – Sesiwn Crefftau Crai i ofalwyr ifanc yng Nghanolfan Gymunedol Cefn Hengoed. Dewch draw i wneud llyfrnodau, blodau a breision.
- Dydd Mawrth 31 Hydref o 10.30am – Casglu blychau te prynhawn Calan Gaeaf i ofalwyr ifanc.
Tachwedd 2023
- Dydd Sadwrn 4 Tachwedd am 7.30pm – "Rock for Heroes" yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.
- Dydd Iau 16 Tachwedd 10.30am - 3pm – Diwrnod maldodi yn dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr gyda bwffe yng Nghanolfan Ddawns Shappelles, Ystrad Mynach. Bydd myfyrwyr o Goleg y Cymoedd yn bresennol i gynnig torri gwallt, cyrlio gwallt, sychu gwallt, plethu a choluro.
- Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 7:00pm - 8:30pm – Taith ysbrydion i ddeg gofalwr ym Maenordy Llancaiach Fawr.
- Dydd Iau 23 Tachwedd o 6:00pm – Dawns Nadolig yn Bryn Meadows Golf, Hotel & Spa.
- Dydd Iau 30 Tachwedd rhwng 8.30am a 6.30pm (yn gadael Caerwrangon am 5pm) – taith siopa Nadolig i Gaerwrangon.
Rhagfyr 2023
- Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 11am - 2:00pm – Gweithdy gwneud torchau yn Studio 54, Coed Duon.
- Dydd Iau 7 Rhagfyr 3:00pm - 5:00pm – Te prynhawn yn The Coffee Mill, Rhisga.
- Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 12 canol dydd - 2:00pm – parti trampolîn Nadolig i ofalwyr ifanc yn Jump, Casnewydd.
- Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr o 2.30pm – Panto yn Theatr Fach Coed Duon – "Marmaduke the Useless Pirate".
- Dydd Sul 17 Rhagfyr o 10.30am – casglu blychau te prynhawn Nadolig o Hancox’s Pies, Bargod.
Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael i’r rhan fwyaf o weithgareddau a digwyddiadau ond rydyn ni’n ceisio rhannu’r rhain yn deg. I holi am unrhyw un ohonyn nhw, cysylltwch â ni.
D.s. os rhowch eich enw i lawr am rywbeth ac nid ydych yn clywed wrthym eich bod wedi llwyddo, dylech gymryd nad ydych wedi cael lle. Nid yw cludiant yn cael ei ddarparu ond lle dywedir hynny.
Telir am yr HOLL weithgareddau hyn er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad o ofalyddion a’r gwaith caled rydych chi’n ei wneud. Rydyn ni bob amser yn ceisio sicrhau bod pawb sy’n dangos diddordeb yn cael cyfle i fynd i o leiaf un digwyddiad neu weithgaredd.
Rydyn ni’n gwybod bod pethau’n digwydd weithiau sy’n olygu na allwch ddod ar y diwrnod, ond lle bo modd gofynnwn ichi roi gwybod inni cyn gynted ag yr ydych yn gwybod na allwch ddod, er mwyn inni gynnig lleoedd prin i ofalyddion eraill.
Bydd mwy i'w hychwanegu trwy gydol y flwyddyn, gwiriwch yma am ddiweddariadau.
Anfonwch eich barn atom
Yn ein grwpiau cefnogi gofalyddion, rydym wedi bod yn gofyn i'r rhai ohonoch sy'n mynychu pa fathau o bethau yr hoffech chi weld mwy ohonynt. Cafwyd sôn am sesiynau maldod, teithiau i’r theatr, blasu gwinoedd, prydau o fwyd a thocynnau rygbi, felly rydym yn gwneud ein gorau i wireddu’r ceisiadau hyn ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Rydym hefyd wedi cael syniadau da iawn eraill am fwy o weithgareddau ar benwythnosau a nosweithiau ar gyfer y rheini ohonoch sydd yn yr ysgol neu’r coleg neu’n gweithio, ac rydym wedi eu cymryd. Anfonwch e-bost o’ch awgrymiadau at gofaddylion@caerffili.gov.uk