Adroddiad Adolygiad Blynyddol Cynllun Strategol y Cymraeg Mewn Adddysg

Cyfleawniadau / Uchafbwyntiau Allweddol

Mae'r rhaglen Gyfalaf yn symud ymlaen i ehangu'r ddarpariaeth gofal plant a lleoedd ysgol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r fideo hyrwyddo wedi'i animeiddio bron wedi’i gwblhau a bydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r geiriad diwygiedig yn y llyfryn Dechrau Ysgol ar gyfer 2023-24.

Mae'r gyfradd trosglwyddo rhwng ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn dal i fod yn uchel ar 97%.

Mae yna dal gynnig sylweddol ar gyfer cyfleoedd y tu allan i oriau ysgol a ddarperir trwy Menter Iaith, yr Urdd a'r Gwasanaeth Ieuenctid.

Mae pob ysgol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu'r iaith Gymraeg ymhellach yn eu darpariaeth.

Crynodeb O’r Cynllun ar y Cyfan

Y targed ar gyfer yr Awdurdod Lleol erbyn 2032 yw 26% o ddysgwyr blwyddyn 1 i fod mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae'r ganran wedi gostwng ychydig i 17.5% ym mlwyddyn 1 a 15.6% yn y meithrin.

Cerrig Milltir y Dyfodol

Y blaenoriaethau yn ystod 2023-24 yw:

  1. Sefydlu ymgyrchoedd hyrwyddo i gynyddu’r niferoedd sy’n dechrau meithrin mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â’r rhai sy’n trosglwyddo i’r ysgol Gynradd ac ymlaen i’r ysgol Uwchradd.

  2. Datblygu gwefan a gwybodaeth sydd ar gael i rieni i lywio dewisiadau a galluogi monitro ac atebolrwydd gwell gan y Fforwm Cymraeg mewn Addysg gan ddefnyddio'r duedd data.

  3. Cwblhau nifer o brosiectau cyfalaf i gynyddu lleoedd mewn gofal plant ac ysgolion cynradd.

  4. Cynyddu’r gweithlu sy’n siarad Cymraeg ar draws y timau Addysg, gofal plant ac ysgolion.

  5. Cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer plant ag ADY i fodloni'r galw cynyddol. 

Canlyniad 1 – Mwy o blant meithrin / tair oed yn derby neu haddysg trwy gyrwng y Gymraeg

Data Blynyddol Allweddol

Data CYBLD 2023

Mae 339 o blant meithrin yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n cyfateb i 15.6% o blant y Fwrdeistref Sirol.

Mae 11 Cylch Meithrin ar draws y Fwrdeistref Sirol. Fodd bynnag, mae 4 Cylch wedi categoreiddio eu hunain fel grwpiau Cymraeg a Saesneg, nid fel rhai cyfrwng Cymraeg.

Mae data trosglwyddo Mudiad Meithrin yn cynrychioli data o grwpiau aelodaeth yn unig:

Cylch Meithrin

cyfanswm y plant a drosglwyddwyd i'r ysgol

nifer a drosglwyddwyd i gyfrwng Cymraeg

nifer a drosglwyddwyd i gyfrwng Saesneg

Canran

Coed Duon

15

8

7

53.33%

Cwm Derwen

15

14

1

93.33%

Cwm Gwyddon

15

13

2

86.67%

Ifor Bach

26

26

0

100.00%

Nelson

9

9

0

100.00%

Penpedairheol

9

7

2

77.78%

Pontllan-fraith

11

5

6

45.45%

Rhymni (meithrin Mwy)

13

13

0

100.00%

Rhymni 1 a 2

27

19

8

70.37%

Tedi Twt

24

21

3

87.50%

Tonyfelin

24

24

0

100.00%

Yr Enfys

13

11

2

84.62%

Mae'r data'n dangos bod gan 4 Cylch gyfraddau trosglwyddo o 100% a bod gan 2 Gylch gyfraddau trosglwyddo gwael iawn o dan 60%. Nid yw'r ddau gylch sydd â chyfraddau trosglwyddo gwael ar safle ysgol. Nod y prosiect cyfalaf i symud Coed Duon yn nes at Ysgol Trelyn yn 2024 yw gwella’r gyfradd drosglwyddo.

Data lleoliadau gofal plant a gontractiwyd gan Dechrau'n Deg:

1. Lleoliad Cyfrwng Cymraeg

 8

2. Lleoliad Cyfrwng Cymraeg a Saesneg 

 4

3. Lleoliad Cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog 

 59

4. Lleoliad Cyfrwng Saesneg 

 2

Sylwer: mae'r lleoliadau categori 2 i gyd yn Gylchoedd Meithrin gyda nifer sylweddol o staff yn dysgu Cymraeg.

Datganiad data Dechrau'n Deg 2022-23:

Cafodd 47 o blant leoedd cyfrwng Cymraeg, sef 12.4%

Roedd cyfradd gyffredinol o 80% yn manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg yn 2022-23.

Crynodeb o’r Canlyniad

Dechreuodd ehangiad gofal plant Dechrau'n Deg ei ddatblygiad o fis Ionawr 2023 a chafodd ei roi ar waith ym mis Ebrill 2023. Mae'r tîm Blynyddoedd Cynnar yn gweithio gyda’r sector gofal plant cyfan i’w cefnogi i dendro i ddarparu lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg ynghyd â lleoliadau eraill dan gontract. Mae'n rhaid i leoliadau gwblhau gwiriadau cyn cyflwyno a datblygu Cynllun Gwella Lleoliad i ddangos sut y byddant yn gweithio tuag at fodloni'r ansawdd gofynnol.

Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn gweithio gyda Mudiad Meithrin i ddatblygu gofal plant cyfrwng Cymraeg yn ogystal â sicrhau bod pob un o’n Cylchoedd yn teimlo y gallant ddatgan eu bod yn gyfrwng Cymraeg ar eu SASS a datganiadau eraill i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn. Mae angen datblygu mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ystod 2023-24 yn Llanbradach, Aberbargod, ac yn ddiweddarach (tua 2025-26) yn Nhretomos.  O’r 75 o ddarparwyr gofal plant a gontractiwyd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg:

Yn ystod y cyfnod ehangu bu ffocws ar ddatblygu Ti a Fi i ysgogi'r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r Ti a Fi yn White Rose, Tredegar Newydd yn cael trafferth gyda niferoedd ac felly mae’r rhent ar gyfer y neuadd wedi’i warantu tan fis Mawrth 2024 i gynorthwyo cynaliadwyedd wrth gynyddu’r diddordeb yn lleol. Nod y Ti a Fi a ddatblygwyd yn Ysgol Bro Sannan yw cynyddu’r galw gan deuluoedd tra bod Mudiad Meithrin yn datblygu a chofrestru’r Cylch. Mae gwaith cyfalaf bach wedi'i gynllunio ar y safle i sicrhau y bydd y lleoliad yn bodloni gofynion cofrestru AGC. Mae Ti a Fi newydd yn cael ei ddatblygu yn Llanbradach i gefnogi'r cynnydd yn y galw am Gylch newydd yn y ganolfan gymunedol.

Eleni mae llawer o waith wedi'i wneud i ailysgrifennu adrannau o'r Llyfryn Dechrau Ysgol i hyrwyddo Addysg Gymraeg i deuluoedd. Disgwylir i hwn gael ei gyhoeddi ym mis Medi 2023.

Mae Hwb y Blynyddoedd Cynnar (sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd) wedi recriwtio siaradwr Cymraeg yn ddiweddar. Bydd Swyddog yr Hwb yn cymryd cyfrifoldeb am hyrwyddo darpariaeth ar gyfer teuluoedd agored i niwed a’r Gymraeg, sy’n anelu at ddarparu cysondeb gwybodaeth i deuluoedd. Mae Hwb y Blynyddoedd Cynnar yn parhau i gydweithio â Mudiad Meithrin a Cymraeg i Blant i hyrwyddo darpariaeth i deuluoedd.

Mae’r animeiddiad ‘Dod yn Ddwyieithog’ yn agos at orffen a bydd ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) a gwefan y Blynyddoedd Cynnar yn ogystal â bod yn rhan o ymgyrch farchnata i hyrwyddo dewisiadau i deuluoedd. 

Roedd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn rhoi trosolwg da o'r ddarpariaeth, ond mae asesiadau manylach wedi'u cwblhau ar ardaloedd lleol wrth edrych i ddatblygu darpariaeth newydd sydd yn cyd-fynd yn well â chynlluniau datblygu Ysgol.

Mae cludiant yn parhau i fod yn her i deuluoedd, yn enwedig y rhai sydd mewn Meithrinfa yn rhan amser a'r rhai sy'n dymuno cael mynediad i'r Uned Drochi newydd. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda’r Uwch Dîm Arwain ar gyfer yr Uned Drochi a’n Hysgol Uwchradd i ddatblygu datrysiad arloesol ar gyfer y grwpiau bach o ddysgwyr gwasgaredig sy'n dymuno cael mynediad at yr Uned Drochi.

Gweithredu a Monitro

Daw diweddariadau i Fforwm y Gymraeg mewn Addysg i sicrhau bod datblygiad y Cylchoedd ar y trywydd iawn. Mae data wedi'u datblygu eleni i'w cyflwyno mewn fformat mwy defnyddiadwy i aelodau'r fforwm.

Risgiau Lefel Canlyniad

Roedd yn bryder bod 4 Cylch wedi datgan eu bod yn Gymraeg ac yn Saesneg; roedd un ohonynt yn dilyn arolygiad ac argymhelliad Estyn. Mae Mudiad Meithrin yn cefnogi staff dysgwyr Cymraeg y Cylchoedd i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i adfer y Cylch i gyflwyno sesiynau trochi Cymraeg.

Mae her wrth recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg i'r sector gofal plant. Mae hyrwyddiad i staff ddysgu Cymraeg a datblygu eu sgiliau. Fodd bynnag, bydd hyn yn cymryd amser i'w weld wrth gyflwyno sesiynau gofal plant trochi Cymraeg.

Camau Sicrwydd / Lleddfiad

Mae'r ALl wedi cefnogi datblygiad Ti a Fi i ysgogi galw gan deuluoedd a chreu cynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae'r Awdurdod Lleol wedi gweithio gyda Swyddogion Cylchoedd a Mudiad Meithrin i gefnogi cynaliadwyedd dros 2022-23 yn enwedig lle bu pryderon ynghylch niferoedd yn gostwng a rheolaeth ariannol yn y lleoliad.

Canlyniad 2 – Mwy o blant ddosbarth derbyn / pump oed yn derby neu haddysg trwy gyrwng y Gymraeg

Data Blynyddol Allweddol

Set ddata CYBLD 2023:

Mae 335 o blant blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg sy’n cyfateb i 17.5%, ac o’r rhain, mae 17 (5%) yn blant o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Crynodeb o’r Canlyniad

Diweddariad ar y rhaglen gyfalaf:

Gofal plant a meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn Ysgol y Castell – gwaith cyfalaf wedi'i gwblhau.

Ysgol newydd a darpariaeth gofal plant ar gyfer Ysgol Cwm Gwyddon – gwaith i’w gwblhau yn Hydref 2023.

Gofal Plant cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Ifor Bach – tendr wedi’i ddyfarnu a disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024.

Gofal Plant cyfrwng Cymraeg yn llyfrgell Pengam – tendr wedi’i ddyfarnu a disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024.

Ysgol Penalltau – tendr wedi dod i mewn dros y gyllideb felly bydd angen gofyn am amrywiad i allu symud ymlaen.

Ysgol Cwm Derwen – disgwyl tendr cyn symud ymlaen.

Ysgol Bro Allta – gwaith ar y gweill ac yn disgwyl gorffen erbyn Hydref 2023. Gwaith rhaglen gyfalaf bach ar gyfer datblygu gofal plant ar safle Clwb Carco.

Mae'r cynlluniau i adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgol Y Lawnt ar gampws a rennir wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a'r Cabinet ac maent bellach yn symud ymlaen i ddatblygu'r achos busnes llawn. Mae anghenion gofal plant yn cael eu hystyried yn y cam cynllunio a bydd cais yn cael ei gyflwyno mewn rowndiau cyfalaf gofal plant yn y dyfodol ar ôl 2025.

Yn ystod 2022-23 bu datblygiad sylweddol yn y ddarpariaeth drochi Cymraeg. Mae ein canolfan drochi newydd, Canolfan Gwenllian, wedi agor yn Ysgol Gilfach Fargod gyda thîm brwdfrydig i arwain ei datblygiad ar ran y clwstwr cyfrwng Cymraeg. Mae 2 blentyn eisiau dychwelyd i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac mae ein disgybl cyntaf yn dymuno defnyddio’r cyfleuster ym mis Medi 2023. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i archwilio atebion trafnidiaeth gynaliadwy tymor hir ar gyfer y ganolfan er mwyn lleihau rhwystrau i deuluoedd. Rydym wedi datblygu gwybodaeth ar gyfer ein Llyfryn Dechrau Ysgol i ddechrau'r hyrwyddo i deuluoedd. Fodd bynnag, mae ymgyrch hyrwyddo ar y gweill ar gyfer 2023-24 gan gynnwys posteri / pamffledi a phostiadau Twitter i sicrhau bod teuluoedd yn deall sut i gael mynediad at y ddarpariaeth. Mae'r tîm yn awyddus i fynychu cyfarfodydd y Rhwydwaith Cenedlaethol i ddatblygu'r ddarpariaeth.

Gweithredu a Monitro

Mae gan Fforwm y Gymraeg mewn Addysg oruchwyliaeth a diweddariadau ym mhob fforwm, gyda’r grŵp gorchwyl hyrwyddo yn datblygu’r gweithgaredd hyrwyddo yn unol â chwblhau gwaith cyfalaf.

Risgiau Lefel Canlyniad

Mae'r risgiau ar lefel Awdurdod Lleol yn ymwneud yn bennaf â'r costau sy'n cynyddu'n esbonyddol ar gyfer yr holl waith cyfalaf yn ogystal â'r nifer cyfyngedig o gontractwyr sy'n cyflwyno tendrau ar gyfer y prosiectau.

Camau Sicrwydd / Lleddfiad

Mae gweddill y prosiectau cyfalaf gofal plant etifeddol ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau ym mis Mawrth 2024. Fodd bynnag, mae prosiectau cyfalaf gofal plant yn y dyfodol wedi canolbwyntio ar adnewyddu adeiladau presennol yn lle prosiectau adeiladu newydd sy'n ymddangos yn fwy effeithiol o ran cost ac amser, yn ogystal ag apelio at ystod ehangach o gontractwyr.

Canlyniad 3 – Mae mwy o blant yn parhau I wella eu sgilliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o’u haddysg statudol I un arall

Data Blynyddol Allweddol

Set ddata CYBLD:

Cyn COVID-19 roedd y gyfradd drosglwyddo rhwng y cyfnod Cynradd a'r cyfnod Uwchradd yn ganran uchel. Fodd bynnag, ym mis Medi 2022, tra bod y gyfradd drosglwyddo yn parhau i fod yn uchel, bu gostyngiad bach o 10 disgybl nad oeddent yn trosglwyddo i Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg a oedd yn cyfateb i gyfradd trosglwyddo o 97% rhwng blwyddyn 6 a blwyddyn 7.

Crynodeb o’r Canlyniad

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi gweithio'n agos gyda'i hysgolion cynradd clwstwr i ddatblygu trefniadau trosglwyddo cadarnhaol. Mae'r ysgolion yn cydweithio ar ddigwyddiadau a sesiynau trosglwyddo i hyrwyddo'r ddarpariaeth i ddisgyblion.

Yn y blynyddoedd diwethaf ers y pandemig bu pryder bod profiadau trochi plant a phobl ifanc wedi cael eu heffeithio ac mae hyn wedi golygu bod rhai dysgwyr wedi dewis symud o ysgolion cyfrwng Cymraeg i ysgolion cyfrwng Saesneg. Mewn ymateb i hyn, mae ysgolion wedi gweithio’n galed i ddatblygu deunyddiau trochi Cymraeg i gefnogi plant i ddal i fyny yn ogystal â chefnogi rhieni i ddysgu Cymraeg, fel eu bod yn teimlo y gallant gefnogi eu plentyn yn well.

Er bod y gyfradd drosglwyddo yn parhau i fod yn uchel, mae wedi gostwng ychydig ers 2021. Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi trosglwyddo disgyblion o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Gyfun a bydd yn parhau i archwilio ffyrdd arloesol o gynyddu’r gyfradd drosglwyddo tuag at 100%.

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi gweithio'n agos gyda'i hysgolion cynradd clwstwr i ddatblygu trefniadau trosglwyddo cadarnhaol. Mae'r ysgolion yn cydweithio ar ddigwyddiadau a sesiynau trosglwyddo i hyrwyddo'r ddarpariaeth i ddisgyblion.

Yn y blynyddoedd diwethaf ers y pandemig bu pryder bod profiadau trochi plant a phobl ifanc wedi cael eu heffeithio ac mae hyn wedi golygu bod rhai dysgwyr wedi dewis symud o ysgolion cyfrwng Cymraeg i ysgolion cyfrwng Saesneg. Mewn ymateb i hyn, mae ysgolion wedi gweithio’n galed i ddatblygu deunyddiau trochi Cymraeg i gefnogi plant i ddal i fyny yn ogystal â chefnogi rhieni i ddysgu Cymraeg, fel eu bod yn teimlo y gallant gefnogi eu plentyn yn well.

Er bod y gyfradd drosglwyddo yn parhau i fod yn uchel, mae wedi gostwng ychydig ers 2021. Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi trosglwyddo disgyblion o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Gyfun a bydd yn parhau i archwilio ffyrdd arloesol o gynyddu’r gyfradd drosglwyddo tuag at 100%.

Blwyddyn

Nifer blwyddyn 6

Nifer blwyddyn 7

Canran drosglwyddo i flwyddyn 7

2017

352

334

94.89%

2018

355

337

94.93%

2019

336

331

98.51%

2020

329

320

97.26%

2021

356

352

98.88%

2022

336

326

97.00%

 

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd chweched dosbarth i bobl ifanc ac yn cadw llawer o fyfyrwyr ym mlwyddyn 12 a 13 i ddatblygu eu cymwysterau. Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn gweithio'n agos gyda Choleg y Cymoedd i gefnogi dysgwyr i barhau â'u Cymraeg wrth ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol.

Maes datblygu yn 2024 yw archwilio nifer y trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg. Mae yna deimlad ers y pandemig fod mwy o blant wedi symud allan o addysg cyfrwng Cymraeg, ond dim ond straeon yw'r rhain ar hyn o bryd ac mae angen peilot tracio i nodi realiti’r cyd-destun.

Gweithredu

Mae gan y Fforwm y Gymraeg mewn Addysg drosolwg er bod y set ddata wedi bod yn cael ei datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn galluogi mwy o hygyrchedd a dealltwriaeth.

Risgiau Lefel Canlyniad

Mae cyfraddau trosglwyddo yn parhau i fod yn ffocws i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn gweithio tuag at fodloni'r targed i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Camau Sicrwydd / Lleddfiad

Mae cydweithio clwstwr a datblygu digwyddiadau trosglwyddo yn helpu disgyblion i drosglwyddo o’r cyfnod cynradd i’r uwchradd.

Canlyniad 4 – Mae mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau a asesir yn y Gymraeg (fel Pwnc) a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg

Data Blynyddol Allweddol

Set ddata CYBLD 2022

Teitl y Cymhwyster

Blwyddyn 11

%

Blwyddyn 13

 

CBAC TGAU Lefel 1/Lefel 2 mewn Cymraeg Ail Iaith

1377

70.0%

0

0.0%

Tystysgrif CBAC Lefel Mynediad mewn Cymraeg Ail Iaith (Mynediad 3)

7

0.4%

0

0.0%

CBAC TGAU Lefel 1/Lefel 2 mewn Cymraeg Iaith

287

14.6%

1

0.2%

CBAC Gwobr Lefel Mynediad mewn Cymraeg Ail Iaith (Mynediad 2)

10

0.5%

0

0.0%

CBAC TGAU Lefel 1/Lefel 2 mewn Llenyddiaeth Gymraeg

139

7.1%

0

0.0%

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Cymraeg Ail Iaith

0

0.0%

12

3.0%

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Cymraeg Ail Iaith

0

0.0%

6

1.5%

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Cymraeg Iaith Gyntaf

0

0.0%

7

1.7%

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Cymraeg Iaith Gyntaf

0

0.0%

8

2.0%

Carfan

1968

 

401

 

Bydd E-sgol yn cael ei archwilio wrth symud ymlaen i nodi os oes ei angen ar gyfer meysydd pwnc lleiafrifol.

Crynodeb o’r Canlyniad

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn cynnig ystod o bynciau TGAU a Safon Uwch, gan gynnwys llwybrau academaidd a galwedigaethol. Ochr yn ochr â chymwysterau Cymraeg, mae amrywiaeth o gymwysterau academaidd a galwedigaethol yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r rhain yn cael eu hyrwyddo ar wefan Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ogystal â gwefan newydd Llwybrau Caerffili sy'n hyrwyddo llwybrau gyrfa i bobl ifanc yn weithredol. Chwilio am Gwrs (caerphillypathways.co.uk).

Mae'r Safon Uwch mewn Cymraeg ail iaith yn cael ei hyrwyddo'n weithredol trwy wefan Llwybrau Caerffili sy'n dangos cynnwys y cwrs a llwybrau dilyniant clir i addysg uwch a chyflogaeth. Bydd astudiaethau achos hefyd sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Cwrs: Cymraeg (Ail Iaith) (caerphillypathways.co.uk/cy)

Roedd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn cynnal arolwg thematig o gwmpas y Gymraeg yn y cwricwlwm yn nhymor yr haf 2023. Fodd bynnag, roedd cymhlethdodau i weithrediad llawn yr arolwg a gobeithiwn y byddant yn cael eu datrys er mwyn gallu ei gwblhau yn nhymor yr hydref 2023.

Mae Coleg Gwent yn parhau i ehangu nifer y pynciau y mae'n eu cyflwyno yn Gymraeg.

Gweithredu

Mae Fforwm y Gymraeg mewn Addysg yn derbyn diweddariadau gan gynrychiolydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn rheolaidd a bydd ganddo fynediad at y data yn y dyfodol er mwyn gallu monitro'r duedd yn llawn.

Risgiau Lefel Canlyniad

Mae risg genedlaethol a lleol ar hyn o bryd o ran cyllidebau a gostyngiad yn nifer y disgyblion a allai effeithio ar ddarpariaeth ehangder pynciau wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn cael ei fonitro.

Camau Sicrwydd / Lleddfiad

Mae E-sgol yn cael ei ystyried er mwyn parhau i gael mynediad at bynciau gyda diddordeb isel neu sy'n lleihau.

Canlyniad 5 – Mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.

Data Blynyddol Allweddol

Mae pob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol wedi ymrwymo i gyflawni’r Siarter Iaith.

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae 3 wedi derbyn gwobr Aur e.e., Ysgol Penalltau, ac mae llawer wedi ennill gwobr Arian e.e., Ysgol Gynradd Fochriw.

Crynodeb o’r Canlyniad

Mae Menter Iaith yn gweithio’n agos gyda’r Urdd a’r Gwasanaeth Ieuenctid i ariannu Swyddog Ieuenctid sy’n gweithio yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a’r Hanger (darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol) yn ogystal â gweithgareddau tu allan i oriau ysgol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd yn heriol recriwtio tiwtoriaid i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg heblaw yn yr ysgol ond mae’r Swyddog Ieuenctid wedi eu galluogi i barhau ag astudiaethau yn y Gymraeg. Yn ddiweddar mae'r tîm addysg heblaw yn yr ysgol wedi cael 2 ddisgybl yn cyflawni A / B mewn TGAU Cymraeg ac maent yn gobeithio y bydd mwy yn sefyll ac yn cyflawni’r cymhwyster Cymraeg wrth symud ymlaen oherwydd cefnogaeth gan y Swyddog Ieuenctid.

Mae'r ddarpariaeth ym Mharc Virginia yn agos at orffen a bydd y Clwb Ieuenctid yn symud o'r Gwyndy pan fydd darpariaeth Parc Virginia yn agor. Mae hyn yn gadarnhaol iawn i roi lle i ddarpariaeth Ieuenctid Cymru yn y brif hwb Ieuenctid ym masn Caerffili. Fodd bynnag, mae angen ystyried darpariaeth Ieuenctid cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol erbyn hyn.

Mae Menter Iaith wedi ymgynghori â phobl ifanc i ddatblygu'r ddarpariaeth yr hoffent ei gweld yn ystod gwyliau'r haf.

Mae Menter Iaith yn cydweithio ag ystod o bartneriaid i ddatblygu Ffilifest bob mis Gorffennaf gan hyrwyddo’r Gymraeg i’r cyhoedd yn ehangach a chefnogi teuluoedd i weld manteision dwyieithrwydd.

Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i gefnogi ysgolion i symud ymlaen drwy’r Siarter Iaith i ymgorffori cyfleoedd Cymraeg ar draws y cwricwlwm a bywyd yr ysgol.

Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i gefnogi ysgolion i symud ymlaen drwy’r Siarter Iaith i ymgorffori cyfleoedd Cymraeg ar draws y cwricwlwm a bywyd yr ysgol.

Gweithredu a Monitro

Mae Menter Iaith a’r Urdd yn aelodau allweddol o Fforwm y Gymraeg mewn Addysg ac yn parhau i ddarparu diweddariadau ac ymgysylltu partneriaid yn weithredol mewn digwyddiadau a datblygiadau yn y dyfodol.

Risgiau Lefel Canlyniad

Mae pryder yn parhau bod cyllid yn flynyddol ac o dan bwysau gyda’r pwysau ar gyllidebau, er bod hwn yn faes gwaith hanfodol i ddysgwyr a’u cymunedau.

Camau Sicrwydd / Lleddfiad

Mae defnyddio'r Asesiad Effaith Integredig cyn gwneud unrhyw benderfyniadau cyllidebol yn galluogi nodi ac ystyried yr effeithiau ehangach.

Canlyniad 6 – Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg I ddisgyblion ag anghenion Dysgu ychwanegol (ADY) yn unol a’r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Data Blynyddol Allweddol

CYBLD 2023

Roedd 2,871 o blant (12.5%) ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Roedd 355 o blant (7.7%) ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Crynodeb o’r Canlyniad

Bu buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion i uwchsgilio staff i fodloni anghenion plant a phobl ifanc a chydymffurfio â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Bu recriwtio gweithredol ar gyfer staff arbenigol sy'n siarad Cymraeg sydd wedi bod yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd mae 6 o'r 12 yn y tîm Ymgynghorol/Arbenigol/Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE) yn siarad Cymraeg sydd wedi gwella'r gefnogaeth i ysgolion a'r dysgwyr mwyaf agored i niwed.

Mae Canolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Cwm Derwen, a bydd darpariaeth arbenigol bellach yn cael ei datblygu ar safle newydd Ysgol Cwm Gwyddon. Yn ogystal â hyn, mae gan Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ddarpariaeth arbenigol o'r enw Hafan yn y Gwyndy a'r Ganolfan ar safle Gellihaf lle gall ein pobl ifanc oedran Uwchradd sydd angen cefnogaeth fwy penodol deimlo eu bod yn cael eu cynnwys. 

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei hyrwyddo’n frwd yn y blynyddoedd cynnar beth bynnag fo anghenion ychwanegol plentyn, gan amlygu’r gefnogaeth yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.

Gweithredu

Mae aelodau Fforwm y Gymraeg mewn Addysg yn derbyn diweddariadau gan y cynrychiolydd Athrawon Arbenigol sy'n mynychu'r fforwm.

Risgiau Lefel Canlyniad

Mae’n ymddangos bod niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc wedi’u nodi ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ers y pandemig sy’n rhoi pwysau ar staff, ysgolion a chyllidebau i fodloni anghenion pob dysgwr.

Camau Sicrwydd / Lleddfiad

Mae ffocws parhaus yn dal i fod ar Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol a bodloni anghenion pob dysgwr.

Canlyniad 7 – Cynyddu nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Data Blynyddol Allweddol

CYBLD 2023:

 

Ysgol Gynradd

Ysgol Gynradd

Ysgol Uwchradd

Ysgol Uwchradd

TC Athrawon cymwysedig sy'n addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf

120

16%

144

21%

TW Athrawon cymwysedig sy'n addysgu Cymraeg fel ail iaith yn unig

566

75%

32

5%

TO Athrawon cymwysedig sy'n addysgu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg

0

0%

0

0%

NW Athrawon cymwysedig sy'n gallu addysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond nad ydynt yn gwneud hynny

43

6%

25

4%

NT Ddim yn gymwysedig i addysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg

23

3%

471

70%

 
Ar hyn o bryd mae 6 o'r 12 yn y tîm Ymgynghorol/Arbenigol/EHE yn siarad Cymraeg sydd wedi gwella'r gefnogaeth i ysgolion a'r dysgwyr mwyaf agored i niwed.

Swyddi Gwag

Cyfrwng Cymraeg

Cyfrwng Saesneg

Ysgol Gynradd

8

57

Ysgol Uwchradd

0

47

 

Crynodeb o’r Canlyniad

Mae pwysau wedi'u nodi ar y gweithlu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig y gweithlu sy'n siarad Cymraeg. Mae'r holl bartneriaid yn gweithio'n galed i ystyried dulliau arloesol o recriwtio a datblygu gweithwyr proffesiynol sy'n siarad Cymraeg.

Mae recriwtio wedi'i dargedu yn y tîm Arbenigol/Cynghorol/EHE wedi golygu bod 6 o'r 12 aelod o staff yn y tîm yn siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn galluogi’r staff arbenigol hynny gydag arbenigaeth yn y Gymraeg i gael trafodaeth gadarnhaol gyda theuluoedd, plant, a staff mewn ysgolion i barhau ag addysg cyfrwng Cymraeg y plentyn. Mae hwn wedi bod yn gam ymlaen cadarnhaol iawn.

Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg wedi canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth strategol i’r Gymraeg ac adolygiad thematig yn nhymor yr haf 2023, a fydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys yn y Cynlluniau Datblygu Ysgol wrth symud ymlaen. Yn ogystal, mae nifer o staff yn cymryd rhan yn y cynllun sabothol.

Mae angen nifer sylweddol o staff wrth symud ymlaen ar draws Addysg gyfan gan gynnwys y Blynyddoedd Cynnar ac Ysgolion er mwyn cynnal cydymffurfiad deddfwriaethol. Ar hyn o bryd, bu nifer o benodiadau arweinyddiaeth gydweithredol llwyddiannus ar gyfer swyddi penaethiaid.

Mae'r Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu swyddi dan hyfforddiant i alluogi recriwtio staff ehangach, eu galluogi i ymgysylltu'n weithredol â'r cymhwyster wrth ennill dealltwriaeth mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ar draws y blynyddoedd cynnar. Mae angen dysgu Cymraeg sgyrsiol ochr yn ochr â chymhwyster lefel 2, a fydd yn cefnogi twf yn y gweithlu. Yn ogystal â hyn, cynigir hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg i holl staff y blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau gyda'r nod o weithio tuag at weithlu dwyieithog.

Bydd archwiliad iaith Gymraeg gweithlu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei gwblhau yn nhymor yr hydref i gael dealltwriaeth o ehangder siaradwyr Cymraeg ar draws y cyngor, gan gynnwys ysgolion.

Gweithredu a Monitro

Mae aelodau Fforwm y Gymraeg mewn Addysg yn derbyn diweddariadau gan aelodau sy’n mynychu’r fforwm.

Risgiau Lefel Canlyniad

Mae pwysau o hyd ar y gweithlu yn lleol ac yn genedlaethol.

Camau Sicrwydd / Lleddfiad

Mae swyddi hyfforddedig a chynlluniau prentisiaeth yn cael eu harchwilio. Mae'r pwysau'n cael ei roi yn genedlaethol i edrych ar gyfleoedd hyfforddi / contractau a ariennir, sy'n parhau i fod y tu allan i gwmpas awdurdodau lleol.