Gofal plant a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol

Mae plant a theuluoedd yn gallu manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Mae Ti a Fi yn grwpiau i rieni a phlant bach. Dechrau’n Deg yw’r Flying Start cyfrwng Cymraeg i blant 2 oed. Mae Cylch Meithrin yn ofal plant cyn ysgol i blant 2-3 oed.

Mae Mudiad Meithrin yn helpu datblygu gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd ledled Cymru.

Unwaith maen nhw'n dechrau yn yr ysgol mae pob ysgol gynradd yn cynnig cyfleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae Clwb Meithrin yn ddarpariaeth gofleidiol i blant 3-4 oed. Mae Clwb Carco ar ôl ysgol i blant 4-11 oed. Mae Menter Iaith a'r Urdd yn cynnig clybiau ieuenctid a digwyddiadau i bobl ifanc.

Mae 20 o ddarparwyr gofal plant cyfrwng Cymraeg cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol. Maen nhw'n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae pobl ifanc yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o brofiadau yn y Gymraeg, gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol.

Gwiriwch gyda'ch ysgol leol am ragor o wybodaeth am grwpiau a chlybiau.

Nod Menter Iaith Caerffili yw hybu a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Maen nhw'n cyflwyno amrywiaeth o brofiadau. Mae’r rhain yn cynnwys boreau coffi, grwpiau cerdded a gweithdai amrywiol i ddysgwyr Cymraeg. Hefyd, maen nhw'n cynnig gofal a gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol cyfrwng Cymraeg.